Dyddiadur 2025 Calendar 2025

Tachwedd 19 – Nos Fercher – Cymdeithas y Penrhyn – Horeb, Penrhyncoch – 7.30 – Meinir Howells

Tachwedd 21 – Nos Wener – Cymdeithas Lenyddol y Garn – 7.30 – Noson yng nghwmni Georgia Ruth

Tachwedd 29 – Neuadd yr Eglwys , Penrhyncoch – Bore sadwrn, Bore Coffi, te a chacen i ddathlu’r Nadolig – stondin danteithio tymhorol

Merched y Wawr Penrhyncoch

Dewch i ymuno gyda ni Neuadd Y Penrhyn yr ail nos iau o bob mis am 7 yh

Cysylltwch gyda Glenys Morgan 07792967925 glenysmorgan10@gmail.com am fwy o fanylion. Croeso i siaradwyr cymraeg a dysgwyr cymraeg.

Dechrau 6 Awst – Bob nos Fercher
Peldroed 5 bob ochr, troi fynny a chwarae, Merched a Menywod yn y Cwrtiau Cymuned Kevin Jenkins Penrhyncoch FC – 7.30-8.30

Start 6 August – Every Wednesday
Turn up and Play 5 a side Football League for Girls and Women at the Kevin Jenkins Community Courts at Penrhyncoch FC – 7.30-8.30

Merched y Wawr (Tachwedd 2023)

Heno cafwyd noson hwyliog gyda changen Penrhyn-coch yng nghwmni Elen Bowen.  Roedd yn ddifyr iawn clywed ei stori am greu gemwaith. Cafwyd gwledd o gacennau a phaned flasus a diolch am wahodd clwb gwawr y Pennau ac Angylion Aber, Cangen Llanafan, Mynach, Capel Iwan a rhai gwragedd lleol i’r noson gymdeithasol hon. 

Trwy caniatad y Tincer

CyP: PLYGAIN 2023

Diolch yn fawr i Gwerfyl Pierce Jones am y lluniau

Merched y Wawr (Tachwedd)

Heno cafwyd noson hwyliog gyda changen Penrhyn-coch yng nghwmni Elen Bowen.  Roedd yn ddifyr iawn clywed ei stori am greu gemwaith. Cafwyd gwledd o gacennau a paned blasus a diolch am wahodd clwb gwawr y Pennau ac Angylion Aber, Cangen Llanafan, Mynach, Capel Iwan a rhai gwragedd lleol i’r noson gymdeithasol hon. 

Trwy ganiatad Y Tincer

Sul y Cofio / Remembrance Sunday 2023

Cynhelir gwasanaeth Sul y Cofio ar y 12ed Tachwedd. Cychwynnir yn yr Eglwys am 10.15y.b. cyn yr orymdaith i’r gofgolofn erbyn 11 o’r gloch.

Croeso Cynnes i Bawb.

The Remembrance Service will be held on the 12th of November. It will commence at the church at 10.15am, followed by a procession to the war memorial by11 am.

A Warm Welcome to all who wish to attend.

Rhyfel Byd Cyntaf: y rhai a gollodd eu bywydau
WW1
Ail Ryfel Byd: y rhai a gollodd eu bywydau
WW2

Diolch i Brian Davies

Gwae fi fy myw mewn oes mor ddreng,
A Duw ar drai ar orwel pell;
O’i ôl mae dyn, yn deyrn a gwreng,
Yn codi ei awdurdod hell.
Hedd Wyn

They shall grow not old, as we that are left grow old:
Age shall not weary them, nor the years condemn.
At the going down of the sun and in the morning
We will remember them.
Robert Laurence Binyon


Sgwâr Penrhyn-coch

Pen-bont Rhydybeddau

Bore coffi Macmillan / Macmillan coffee morning

Diolch enfawr i bawb am eu cefnogaeth hael i’r Bore Coffi MacMillan a gynhaliwyd ym Mhenrhyn-coch ar 19eg Medi 2023.

Rydym yn hynod ddiolchgar i bob person a wnaeth gacen, a brynodd gacennau neu a gyfrannodd yn ariannol.

Codwyd y swm anhygoel o £860.50

Mae hwn yn gyfraniad gwerthfawr tuag at waith MacMillan sy’n cynorthwyo pobl i ymdopi’n gorfforol, yn emosiynol neu’n ariannol â chanser.

Rhiannon a Frances

 A huge thank you to everyone who so generously supported the 2023 Macmillan Coffee Morning held in Penrhyn-coch on 19th September.

Our very grateful thanks to every person who baked a cake, bought cakes or gave a donation.

An amazing £860.50 was raised 

This is a  great contribution to the work of MacMillan helping people  to cope  physically, emotionally or financially with cancer.

Rhiannon and Frances