Plaid Cymru: Bro Dafydd

Nos Wener 29 Hydref 2021 cyfarfu cangen Bro Dafydd Plaid Cymru trwy gyfrwng Zoom. Mae Bro Dafydd yn cynnwys yr aelodau hynny sy’n byw yn wardiau Trefeuring a Melindwr. Yn ystod y cyfarfod etholwyd swyddogion newydd sef y canlynol: Cadeirydd – Dr Rhun Emlyn; Is-gadeirydd – Delyth James; Ysgrifennydd – Richard Owen; Trysorydd – Gwenllian Mair. Dymunwyd yn dda i Haydn Foulkes ar ei ymadawiad â’r ardal. Bu Haydn yn drysorydd y gangen am flynyddoedd tra oedd yn byw ym Mhenrhyn-coch, ac yn ffyddlon ei wasanaeth fel dosbarthwr taflenni a chanfasiwr.

Yn ystod y cyfarfod trafodwyd paratoadau ar gyfer dewis ymgeiswyr ar gyfer etholiadau Cyngor Sir Ceredigion yn Nhrefeurig a Melindwr sydd i’w cynnal fis Mai 2022.

Penderfynwyd hefyd drefnu cyfarfod agored ddechrau 2022 i edrych ar bwnc swyddi a chartrefi i bobol ifainc yng nghefn gwlad. Gobeithir tynnu panel ynghyd i drafod pwnc sydd o bwysigrwydd allweddol yn ein hardaloedd.

Meeting held 29 October 2021 using ZOOM. Bro Dafydd branch includes members living in Trefeurig and Melindwr wards.
New officers elected: Chairman: Dr Rhun Emlyn; Vice-chair: Delyth James; Sec.: Richard Owen; Tresurer: Gwenllian Mair.
Good wishes were forwarded to Haydn Foulkes on his deparure from the area. He had been the branch treasurer for many years, and a faithful leaflet distributor and canvasser.
Choosing candidates for the forthcoming County Council elections in May 2022 were discussed.
It was also decided to hold an open meeting at the beginning of 2022 where a panel can be formed to examine jobs and houses for young people in rural areas.

Manylion cyswllt / Contact: Richard Owen 07939652273

Gwefan Plaid Cymru Ceredigion Website