Wythnos Cymorth Cristnogol Mai 14-20/ Christian Aid Week 14-20 May

Cyfrannwch yma /Donate here:

Os ydych am gyfrannu at Gymorth Cristnogol drwy gasgliad Penrhyn-coch ond ddim am wneud ar y We gellwch anfon siec yn daladwy i ‘Cymorth Cristnogol’ at Ceris Gruffudd, Rhos Helyg, 23 Maesyrefail Penrhyn-coch, Aberystwyth SY23 3HE neu Eglwys Sant Ioan, d/o Y Ficerdy, Garth, Penrhyn-coch SY23 3EP. Gellwch holi am ffurflen rhodd gymorth os yw’n berthnasol. Mae blychau casglu yn y Swyddfa Bost ac yn y Garej.

If you wish to donate to the Penrhyn-coch collection but do not wish to give on this page you may send a cheque payable to ‘Christian Aid’ to Ceris Gruffudd, Rhos Helyg, Penrhyn-coch, Aberystwyth SY23 3HE or St John’s Church, c/o Y Ficerdy, Garth, Penrhyn-coch SY23 3EP. You may request a gift aid form if relevant. Collection boxes are also provided at the Post Office and the Garage.

Eisteddfod gadeiriol Penrhyn-coch 2023 (3)

CANLYNIADAU NOS WENER (LLEOL)

Cynradd

3 Unawd (Dosbarth Derbyn) 1 Eve Thomas 2 Ania Hughes 3 Leisia Davies

4 Unawd (Blwyddyn 1-2) 1 Isla Dimmack 2 Casi Roberts 3 Sion Gibson

5 Unawd (Blwyddyn 3-4) 1 Kaeden Cornell 2 Poppy Canning 3 Bella Reiss Greenhouse

6 Unawd (Blwyddyn 5-6) 1 Twm Williams 2 Rhys Mills 3 Harrison Hughes ac Anwen Ingram

7 Unawd Offeryn Cerdd (cynradd) 1 Kai Jakubek 2 Iona Parry 3 Jac Jenkins

8 Unawd Ysgol Uwchradd Dim cystadlu

9 Unawd Offeryn Cerdd (Ysgol Uwchradd) Dim cystadlu

10 Llefaru (Dosbarth Derbyn) 1 Oscar Makaruk 2 Leisia Davies 3 Jac Harding

11 Llefaru (Blwyddyn 1-2) 1 Sion Gibson 2 Isla-Rose Swift 3 Isla Dimmack ac Olivia Dowse

12 Llefaru (Blwyddyn 3-4) 1 Iona Parry 2 Mabli ap Llywelyn 3 Kai Jakubek a Talys Price

13 Llefaru (Blwyddyn 5-6) 1 Jac Jenkins 2 Harrison Hughes 3 Llinos Rowlands

14 Llefaru Ysgol Uwchradd. Dim cystadlu

15 Parti Canu 1 Stewi a Rheidol 2 Seilo a Melindwr

16 Parti Llefaru 1 Stewi a Rheidol 2 Seilo a Melindwr

17 Sgen ti dalent 1. Parti Dawns Ysgol Penrhyn-coch a Pharti Llefaru Ysgol Pen-llwyn 2. Ava, Talys a Bella; ac Ifan Ellis

Tlws yr Ifanc (dan 25 oed): Elin Pierce Williams, Bow Street

CANLYNIADAU DYDD SADWRN

Unawd Dosbarth Derbyn ac Iau: Neb yn cystadlu

Llefaru Dosbarth Derbyn ac Iau: Neb yn cystadlu

Unawd Blwyddyn 1: 1 Sion Gibson, Penrhyn-coch 2 Leusa Myfanwy, Clarach

Llefaru Blwyddyn 1: 1 Llew Salisbury, Aberystwyth Cydradd 2 Sion Gibson, Penrhyn-coch a Hanna Guy, Caerdydd

Unawd Blwyddyn 3 a 4: 1 Nanw Melangell, Cwrtnewydd 2 Elinor Jenkins, Clarach

Llefaru Blwyddyn 3 a 4: 1 Elsa Aneurin, Llanfihangel-y-creuddyn a Nanw Melangell, Cwrtnewydd 2 Now Schiavone, Aberystwyth

Unawd Blwyddyn 5 a 6: 1 Mirain Evans, Llandre

Llefaru Blwyddyn 5 a 6: 1 Moi Schiavone, Aberystwyth 2 Meia Elin, Llanfihangel-y-Creuddyn 3 Mirain Evans, Llandre

Unawd Ysgol Uwchradd: 1 Ioan Mabbutt, Aberystwyth 2 Owen Jac, Rhydyfelin 3 Cayden Holmes, Penrhyn-coch

Llefaru Ysgol Uwchradd: 1 Elan Mabbutt, Aberystwyth

Unawd Cerdd dant dan 18 oed: 1 Meia Elin, Llanfihangel-y-Creuddyn 2 Nanw Melangell, Cwrtnewydd 3 Mirain Evans, Llandre

Unawd Alaw Werin dan 18 oed (digyfeiliant): 1 Ioan Mabbutt, Aberystwyth 2 Mirain Evans, Llandre 3 Meia Elin, Llanfihangel-y-Creuddyn, Owen Jac, Rhydyfelin a Nanw Melangell, Cwrtnewydd

Unawd Offeryn Cerdd dan 18 oed: 1 Wil Guy, Caerdydd

Unawd 18–30: 1 Beca Williams, Rhydyfelin

Llefaru 18–30: Neb yn cystadlu

Unawd Sioe Gerdd dan 30 oed: 1 Beca Williams, Rhydyfelin 2 Gwen Gibson, Penrhyn-coch

Canu Emyn dros 60 oed: 1 Gwyn Jones, Llanafan

Alaw Werin (Agored): Cydradd 1 Greg Roberts, Penrhyn-coch a Beca Williams, Rhydyfelin

Ensemble Lleisiol: 1 Bois y Crysa Siec (Barry, Efan a Greg)

Llefaru i ddysgwyr: Neb yn cystadlu

Parti canu: 1 Rhieni ac athrawon Penrhyn-coch a Pen-llwyn

Parti Llefaru (Agored): Drudwns Aber

Côr: Dim cystadlu

Sgen Ti Dalent?: 1 Gwen Gibson ac Amelia Welsby (Deuawd)

Unawd Gymraeg: 1 Barry Powell, Llanfihangel-y-creuddyn 2 Efan Williams, Lledrod 3 Gwyn Jones, Llanafan

Her Adroddiad (Agored): 1 Maria Evans, Caerfyrddin

Her Unawd – Hunan Ddewisiad: 1 Efan Williams, Lledrod 2 Barry Powell, Llanfihangel-y-creuddyn 3 Greg Roberts, Penrhyn-coch

LLENYDDOL

Cadair: Morgan Owen, Rhydyfelin

Englyn: Vernon Jones, Bow Street

Telyneg: Vernon Jones, Bow Street

Cerdd benrhydd: Y Parchg Judith Morris, Penrhyn-coch

Brawddeg: Aled Evans, Trisant

Stori fer: Anwen Pierce, Bow Street

Erthygl: Carys Briddon, Tre’r-ddôl

Adolygiad: Dim cystadlu

Limerig: Myfanwy Roberts, Llanrwst

Tlws yr Ifanc (Llenyddol): Elin Pierce Williams, Bow Street

Eisteddfod gadeiriol Penrhyn-coch 2023 (2)

Llongyfarchiadau mawr i Morgan Owen ar ennill cadair Eisteddfod Penrhyn-coch 2023. Daw Morgan o Ferthyr Tudful yn wreiddiol ond mae’n byw yn Rhydyfelin erbyn hyn. Y dasg oedd cyfansoddi cerdd gaeth neu rydd yn ymateb i unrhyw waith celf.

Beirniadaeth Emyr Lewis

Lluniwyd y gadair hardd gan Keith Morris, Penrhyn-coch.

Eisteddfod gadeiriol Penrhyn-coch 2023 (1)

Enillydd Tlws yr Ifanc 2023: Elin Pierce Williams o Bow Street, sy’n ddisgybl ym mlwyddyn 10 Ysgol Gyfun Penweddig. Llongyfarchiadau gwresog iddi ar ei champ!

Beirniadaeth Emyr Lewis

Mrs Mairwen Jones yn cyflwyno’r tlws i Elin ar ran Aaron ac Ashley Stephens.

Cinio blynyddol CyP / CyP’s Annual Dinner

Cynhaliwyd cinio blynyddol Cymdeithas y Penrhyn yn Nhafarn y Maes, Capel Bangor nos Sadwrn 18 Mawrth.
Cafwyd amser difyr yng nghwmni’r siaradwr gwadd, Catrin M. S. Davies, Tal-y-bont.
Dechreuodd drwy ddangos un o’i thrysorau personol, sef hen lun o ferched ei theulu ar ochr ei mam, o ardal Cofadail, a dynnwyd yn stiwdio y ffotograffydd Ebenezer Morgan (1820-1906) yn Aberystwyth.
Hefyd, cafwyd straeon difyr am ei thaith ym Mangladesh wrth baratoi un o raglenni Dylan ar daith ar S4C.

Cymdeithas y Penrhyn’s annual dinner was held at Tafarn y Maes, Capel Bangor on Saturday 18 March.
The guest speaker was Catrin M. S. Davies, Tal-y-bont.
She showed us one of her favourite possessions – an old family photograph of her ancestors from Cofadail, taken in the studio of the photographer Ebenezer Morgan (1820-1906) in Aberystwyth.
She also spoke of her experiences in Bangladesh during the filming of a programme in the Dylan ar daith S4C series.

Noson Gwis / Quiz Night

Cynhaliwyd Noson Gwis, coffi a raffl yn Neuadd yr Eglwys nos Fawrth (14/3) er cof am y Parchg Lyn Lewis Dafis a Glyn Collins – dau oedd wrth eu bodd yn trefnu ac yn cynnal cwisiau trwy gyfrwng Zoom yn ystod y Cyfnod Clo ac wedi hynny.
Y cwis feistri oedd y Parchg Andrew Loat, y Parchg Lynn Rees, David Lucas, Richard Owen a Richard Huws.
Daeth y noson deyrnged i ben trwy osod portread Iwan Bryn James o Lyn Lewis Dafis ar wal y neuadd.

A packed Church Hall enjoyed a Quiz night, coffee and raffle on Tuesday (14/3) in memory of the Revd Lyn Lewis Dafis and Glyn Collins – both expert quizzers who enjoyed organizing quizzes on Zoom throughout the Covid Lockdown and beyond.
The quiz masters were the Revd Andrew Loat, Revd Lynn Rees, David Lucas, Richard Owen and Richard Huws.
A fitting tribute ended with the hanging of Iwan Bryn James’s portrait of Lyn Lewis Dafis.

Revd Canon Andrew Loat, Richard Huws, Richard Owen, Revd Lynn Rees, David Lucas
Richard Huws a Richard Owen yn gosod llun o’r Parchg Lyn Lewis Dafis (1960-2022) gan Iwan Bryn James, ar wal Neuadd yr Eglwys, Penrhyn-coch /
Richard Huws and Richard Owen hanging a portrait of the Revd Lyn Lewis Dafis (1960-2022) by Iwan Bryn James, in the Church Hall, Penrhyn-coch.

Emyr Lewis a T H Parry-Williams

Cymdeithas y Penrhyn Nos Fercher 15.2.2023

Dyma gyfle i wrando eto:

Cymdeithas y Penrhyn: ymweliad ag Arloesi Aber