
Croeso i wefan cymuned Trefeurig, cymuned yng ngogledd Ceredigion sy’n cynnwys Penrhyn-coch, Salem, Pen-bont Rhydybeddau, Cwmsymlog, Cwmerfyn, Banc-y-darren, Cefn-llwyd, Capel Madog a Llwyn-prysg.
Sefydlwyd y wefan yn wreiddiol fel rhan o gynllun prosiect ar y cyd rhwng CERED a Theatr Felin-fach, sef Pwerdai Ceredigion, cynllun sydd wedi’i fwriadu i annog gweithgaredd cymunedol yng Ngheredigion.
Ar hyn o bryd grwp lleol annibynol sydd yn gyfrifol am y wefan.
Ar y wefan bydd cyfle i roi darlun o Gymuned Trefeurig fel y mae heddiw, gan roi sylw i gyrff a mudiadau lleol o bob math. Y gobaith yw y bydd pobl yr ardal, a rhai o’r tu allan sydd â diddordeb ynddi, yn defnyddio’r wefan ac yn ychwanegu at y deunydd sydd yma’n barod, fel y bydd bywyd y cylch yn cael ei adlewyrchu mor gyflawn â phosibl.
Yn naturiol mae’r Gymraeg yn rhan bwysig o fywyd yr ardal, a gobeithir y bydd y wefan yn fodd i gynyddu ymwybyddiaeth pobl o’r iaith ac yn fodd i hybu’r defnydd a wneir ohoni. Bydd y ddwy iaith yn cael eu defnyddio ar y safle.
Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi rhannu eu lluniau (a’u gwybodaeth) dros y degawdau gan gynnwys: Brian Davies (BD); Elfed davies (ED); Florrie Hamer (FH); Erwyd Howells (EH); Sheila James (SJ); Hugh Jones (HJ); Tegwyn Lewis (TL); Agnes Morgan (AM); Anthony Moyes (AM).
Rydym yn ddyledus hefyd i’r Tincer am ganiatâd i atgynhyrchu lluniau.
Welcome to the website of Trefeurig community, a community in North Ceredigion that includes Penrhyn-coch, Salem, Pen-bont Rhydybeddau, Cwmsymlog, Cwmerfyn, Banc-y-darren, Cefn-llwyd, Capel Madog and Llwyn-prysg.
The website was originally established as part of the Powerhouse Scheme, an innovative project, run jointly by CERED and Theatr Felin-fach, whose aim is to encourage community activity.
At present an independent group of local people is responsible for the site.
The website will provide an opportunity to portray the life of Trefeurig Community as it is today, focusing on the clubs and societies flourishing in the locality. We hope that local people as well as those living elsewhere who are interested in the area will use the website and add to the existing material, so that the life of the community will be reflected as fully as possible.
Naturally the Welsh language is important to this area, and it is hoped that the website will raise awareness of the language and be a means of encouraging further use. Both languages will be used on the website.
We are very grateful to all the individuals who have shared their photographs (and information) over the decades including: Brian Davies (BD); Elfed Davies (ED); Florrie Hamer (FH); Erwyd Howells (EH); Sheila James (SJ); Hugh Jones (HJ); Tegwyn Lewis (TL); Agnes Morgan (AM); Anthony Moyes (AM).
We are also indebted to Y Tincer for their permission to reproduce photographs.