Cymdeithas ddiwylliannol yw Cymdeithas y Penrhyn. Mae’n cyfarfod bob mis rhwng Medi a Chwefror, a hynny, fel arfer, ar drydedd nos Fercher y mis yn Festri Horeb am 7.30 p.m.
Mae’r gymdeithas yn llwyddo i ddenu amrywiaeth o siaradwyr, yn awduron, beirdd, actorion, pobl y cyfryngau, diddanwyr a phob math o gymeriadau diddorol.
Rhagfyr cynhelir plygain traddodiadol yn Eglwys Sant Ioan, Penrhyn-coch, gyda chydweithrediad parod yr eglwys. Mae’r gwasanaeth hwn yn boblogaidd iawn, ac yn denu nifer o bartion ac unigolion o gylch Aberystwyth a rhai o ardaloedd pellach hefyd.
Ym mis Mawrth cynhelir cinio blynyddol y gymdeithas, ac yn yr haf (Mai neu Fehefin) ceir gwibdaith i ardal yng ngogledd a de Cymru bob yn ail flwyddyn.
Rhaglen 22-23
Swyddogion y Gymdeithas am 2022/23
Cadeirydd: William Howells
Is-gadeirydd: Richard Crowe
Ysgrifennydd: Ceris Gruffudd, Rhos Helyg, 23 Maesyrefail, Penrhyn-coch (01970 828017) Ceris.Gruffudd@gmail.com
Ysgrifennydd Aelodaeth: Carwen Fychan
Trysorydd: Eirian Reynolds
Swyddogion y Wasg: Brenda Williams
Y tâl aelodaeth yw £10, gyda thâl gostyngol o £7 i bensiynwyr, y digyflog a myfyrwyr; £3 yw’r tâl am un cyfarfod. Mae croeso i bawb yn y Gymdeithas.
Rhaglen 2021-22
Swyddogion y Gymdeithas am 2021/22
Cadeirydd: Gwerfyl Pierce Jones
Is-gadeirydd: William Howells