Rhestr o’r Swyddogion, Siaradwyr, Teithiau 1987–2020
Y dechreuadau…
Nos Fawrth, Hydref 6 (1987) sefydlwyd Cymdeithas Ddiwylliannol yn Mhenrhyn-coch pryd etholwyd y swyddogion canlynol. Cadeirydd: Dr David Jenkins; ysgrifennydd: Ceris Gruffudd; trysorydd: William Howells.
Y Tincer Hydref 1987, tud. 8
Cynhelir dau gyfarfod, a fydd yn agored i bawb, cyn y Nadolig.
Nos Lun, 9 Tachwedd bydd Eigra Lewis Roberts yn sôn am ‘Fyd Minafon’, ac ar nos Lun 7 Rhagfyr daw Dic Jones i ‘Drafod cerddi’. Festri Horeb fydd y man cyfarfod a dechreuir am 7.30.
