
2010
Arweiniwyd yr Oedfa gan Lona Jones. Cafwyd eitemau arbennig gan blant Ysgol Penrhyn-coch yn ogystal â nifer o bartion gan gynnwys y canlynol:
Côr Cyd Daniel Carol y Swper
2011
Cynhaliwyd Plygain flynyddol Penrhyn-coch yn ôl yr arfer yn Eglwys Sant Ioan dan nawdd Cymdeithas y Penrhyn. Agorwyd y gwasanaeth gan y Parchg Ronald Williams. Darllenwyd y llith gyntaf gan y Parchg Judith Morris. Cafwyd cyfraniad arbennig gan gôr niferus plant Ysgol Penrhyn-coch dan arweiniad Gregory Vearey Roberts. Marianne Powell oedd wrth yr organ. Ar ddiwedd yr oedfa croesawyd pawb i swper yn Neuadd yr Eglwys. Diolch i bawb fu wrthi’n paratoi ar gyfer y noson. Darlledwyd y Blygain fel rhan o Oedfa’r Bore ar Radio Cymru Ionawr 1af a’r 8fed 2012.
Dyma rai a gymerodd ran:
2012
2013
2014
Alun Elidyr yn barod i recordio Y Parchg/ Revd Andrew Loat Angharad Cantorion Aber Cantre’r Gwaelod Ger y Lli Linda Parti’r Penrhyn Mari-anne Pedwarawd Glanrafon Trevor, Rhiannon ac Eleri
2015
2016
2017

2018
2019
Unwaith yn rhagor eleni roedd Eglwys Sant Ioan, Penrhyn-coch dan ei sang ar gyfer y Blygain flynyddol.
Arweiniwyd y gwasanaeth gan y ficer Y Parchg Andrew Loat, a chafwyd darlleniad gan y Parchg Wyn Morris.
Agorwyd y Blygain gan blant Ysgol Penrhyn-coch ac wedyn daeth nifer o unigolion, partïon a chorau ymlaen i ganu. Braf oedd gweld pobl o bob oedran yn cymryd rhan a hefyd gyfeillion a ddaeth o sir Drefaldwyn ac o ardal Parc, y Bala. Diolch iddynt am ddod.
Un sylw a wnaed ar y ffordd allan oedd: ‘That was wonderful. So un-English’.
Ar ôl y wledd o ganu mwynhawyd gwledd o gawl a mins peis yn Neuadd yr Eglwys dan nawdd Cymdeithas y Penrhyn. Diolch i bawb oedd yn gyfrifol am drefnu.
Edrychwn ymlaen i ddathlu 30fed pen blwydd Plygain y Penrhyn yn 2020.