Wythnos Cymorth Cristnogol Mai 14-20/ Christian Aid Week 14-20 May

Cyfrannwch yma /Donate here:

Os ydych am gyfrannu at Gymorth Cristnogol drwy gasgliad Penrhyn-coch ond ddim am wneud ar y We gellwch anfon siec yn daladwy i ‘Cymorth Cristnogol’ at Ceris Gruffudd, Rhos Helyg, 23 Maesyrefail Penrhyn-coch, Aberystwyth SY23 3HE neu Eglwys Sant Ioan, d/o Y Ficerdy, Garth, Penrhyn-coch SY23 3EP. Gellwch holi am ffurflen rhodd gymorth os yw’n berthnasol. Mae blychau casglu yn y Swyddfa Bost ac yn y Garej.

If you wish to donate to the Penrhyn-coch collection but do not wish to give on this page you may send a cheque payable to ‘Christian Aid’ to Ceris Gruffudd, Rhos Helyg, Penrhyn-coch, Aberystwyth SY23 3HE or St John’s Church, c/o Y Ficerdy, Garth, Penrhyn-coch SY23 3EP. You may request a gift aid form if relevant. Collection boxes are also provided at the Post Office and the Garage.

Kevin ‘Bones’ Jenkins (1963-2023)

Trist yw cofnodi marwolaeth Kevin ‘Bones’ Jenkins.

Roedd ei gyfraniad i’r gymuned ac yn enwedig i Glwb Pêl-droed Penrhyn-coch yn sylweddol ac y mae’r negeseuon niferus sydd wedi ymddangos ar y cyfryngau cymdeithasol gan unigolion a chan y gymuned bêl-droed yn gyffredinol yn dyst i’w boblogrwydd ar draws Cymru.

Estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf â’i wraig Debbie ac â’i deulu.

It is sad to record the death of Kevin ‘Bones’ Jenkins.

His contribution to the local community and especially to Penrhyn-coch FC was considerable and the very many messages that have appeared on social media from individuals and from the football community in general are a testimony to his popularity across Wales.

Deepest sympathy is extended to his wife Debbie and his family.

Detholiad bychan iawn o’r cannoedd o negeseuon sydd wedi ymddangos ar y cyfryngau cymdeithasol yn dilyn y newyddion trist:

A very small selection of the hundreds of tributes that have appeared on social media following the sad news:

Mae’n pentre ni ar ei golled heddiw, a chwmwl du uwch ein pennau. Dyn angerddol dros ei fro a’i glwb, Cymro i’r carn a gwr bonheddig.
Sara Gibson
RIP Kevin Jenkins, aka Bones, one of the good guys There will be a lot of people mourning the loss of someone who played a massive part in their youth today “Mr Penrhyncoch” would always go out of his way to make you feel included and part of the football club and village.
Caleb Spencer
Such sad news this morning. My childhood memories are jam packed with happiness of football and Kev and Debs are front and centre of them. The heart of Penrhyn-coch. Diolch Kev.
Jess Davies
Such sad news. Bones was Mr Penrhyn and he epitomised everything that grassroots football should be about. Thinking of Bones’ family and everyone at the football club. Cwsg mewn hedd.
Cemlyn Davies
All at ATWFC are devastated to learn of the death of Kevin ‘Bones’ Jenkins, our former coach, and of course father to Amy.

Aberystwyth Town Women’s Team
This hurts deep,You been part of my life from day 1 and always been there for me,from football cricket to taking meals to my dad for his care,you are someone so so special a true friend a legend,thank you,thank you for being you,going to miss you mate, Love you bonesy.
Sion James
So sorry to hear of Bones passing. He loved football and his club. He gave the game and his community so, so much. Our thoughts are with his family, friends and everyone.
Noel Mooney FAW
Sincere condolences to Debbie and the family. Newyddion ofnadwy o drist. Yn ffrind i bawb, roedd cyfraniad Bones i’w gymuned a’r ardal ehanhach yn enfawr. A true legend for club and community, Bones will be hugely missed. Cysga’n dawel, Bones.
Ben Lake, AS / MP
Un o’r cewri! He was a true football legend! What a legacy he leaves behind … a true gentleman. Condolences to his family, friends and with all the football communities he served with passion and commitment. Diolch am bopeth.
Dilwyn Ellis Roberts

Apêl Cemo Bronglais / Bronglais Chemo Appeal

Staff meithrinfa yn cynllunio taith gerdded ar gyfer Apêl Cemo Bronglais

Nursery staff plan hike for
Bronglais Chemo Appeal

Mae staff Gofal Plant Gogerddan yn heicio i fyny Cadair Idris ar 22 Hydref i godi arian ar gyfer Apêl Cemo Bronglais ar ôl i un o’u cydweithwyr gael diagnosis o ganser y fron.

Staff at Gogerddan Childcare are hiking up Cadair Idris on 22nd October to raise money for the Bronglais Chemo Appeal after one of their colleagues was diagnosed with breast cancer.

Rhai o’r staff sydd yn cymryd rhan / Some of the nursery staff taking part (o’r chwith / from left): Emma Cook; Manon Webb; Angela Sheehy; Lianne Savage; Emma Brownlie; Myfanwy Healy; Tirion Evans; Abby Lees, Lucy Pearson, Elizabeth Jackson; Emma Healy; Ffion Ellis; Rose Brennan; Andrea North.
Jacqueline Walters

Mae pedwar ar ddeg o’r 28 o staff ym meithrinfa’r plant ym Mhenrhyn-coch yn cymryd rhan ac maen nhw’n rhannu’n ddau grŵp, un yn gwneud y daith gerdded 11 milltir lawn i’r copa ac yn ôl ar lwybr Minffordd, a’r llall yn gwneud y daith fyrrach, taith chwe milltir i’r llyn, Llyn Cau, ac yn ôl.

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr y feithrinfa, Emma Healy: “Rydyn ni’n gwybod y bydd y daith gerdded yn anodd, gydag esgyniad o 4,000 troedfedd, ond rydyn ni’n gobeithio cwblhau sialens y copa lawn mewn wyth awr. Rydym yn mynd i fod yn gwneud rhywfaint o hyfforddiant ar y llwybr arfordirol i geisio paratoi ein hunain.

“Roedden ni eisiau cefnogi’r Apêl oherwydd bod un o’n haelodau staff, Jacqueline Walters, yn derbyn triniaeth yn yr uned ddydd cemotherapi ar hyn o bryd ac mae hi’n gweld yn uniongyrchol sut mae angen uned newydd a’r effaith y bydd yn ei chael.

“Hefyd, mae rhai o’r staff wedi colli anwyliaid i ganser ac roedden ni i gyd eisiau helpu’r Apêl i gyrraedd ei tharged.”

Cafodd Jacqueline, 51, sy’n nyrs feithrin yn y ganolfan gofal plant ac yn byw ym Mronnant, ddiagnosis o ganser y fron ym mis Ebrill ac ar ôl llawdriniaeth mae bellach yn derbyn cemotherapi yn yr uned.

Dywedodd: “Rwyf wrth fy modd bod fy nghydweithwyr yn codi arian ar gyfer yr Apêl. Mae staff yr uned i gyd wedi bod yn wych.”

Os hoffech gyfrannu at sialens meithrinfa Gogerddan, ewch i:
https://www.justgiving.com/GogerddanChildcare22

Dywedodd Bridget Harpwood, Swyddog Codi Arian ar gyfer Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Lansiwyd Apêl Cemo Bronglais i godi’r £500,000 terfynol sydd ei angen ar gyfer y gwaith adeiladu i ddechrau ar uned ddydd cemotherapi bwrpasol newydd ar gyfer Ysbyty Bronglais.

“Rydym yn falch iawn o adrodd bod yr Apêl bellach wedi pasio ei tharged. Fodd bynnag, o ystyried yr hinsawdd economaidd bresennol, rydym yn rhagweld y bydd costau adeiladu yn cynyddu. Bydd pob ceiniog a godir, gan gynnwys rhoddion yn y dyfodol, felly yn mynd yn uniongyrchol i gronfa’r Apêl, gydag unrhyw arian dros ben yn cael ei ddefnyddio i gefnogi’r rhai yr effeithir arnynt gan ganser ar draws Ceredigion a chanolbarth Cymru.”

I gael rhagor o wybodaeth am yr Apêl ewch i: www.elusennauiechydhyweldda.org.uk

At least 14 of the 28 staff at the children’s nursery in Penrhyn-coch are taking part and they are splitting into two groups, one doing the full 11-mile walk to the summit and back on the Minffordd path, and the other doing the shorter six-mile walk to the lake, Llyn Cau, and back.

Managing Director of the nursery, Emma Healy, said: “We know the hike will be tough, with an ascent of 4,000 feet, but we are hoping to complete the full summit challenge in eight hours. We are going to be doing some training on the coastal path to try to prepare ourselves.

“We wanted to support the Appeal because one of our staff members, Jacqueline Walters, is currently receiving treatment at the chemotherapy day unit and she is seeing first-hand how a new unit is needed and the impact it will have.

“Also, some of the staff have lost loved ones to cancer and we all wanted to help the Appeal to reach its target.”

Jacqueline, 51, who is a nursery nurse at the childcare centre and lives in Bronant, was diagnosed with breast cancer in April and after surgery is now receiving chemotherapy at the unit.

She said: “I am over the moon that my colleagues are fundraising for the Appeal. The staff at the unit have all been brilliant. I am going to be sponsoring one of my teddy bears to go on the hike with them.”

If you would like to donate to the Gogerddan nursery challenge, go to:
https://www.justgiving.com/GogerddanChildcare22

Bridget Harpwood, Fundraising Officer for Hywel Dda Health Charities, said: “The Bronglais Chemo Appeal was launched to raise the final £500,000 needed for construction to start on a new, purpose-built chemotherapy day unit for Bronglais Hospital.

“We are delighted to report that the Appeal has now passed its target. However, given the current economic climate, we predict that construction costs will increase. Every penny raised, including future donations, will therefore go directly to the Appeal fund, with any surplus funds used to support those affected by cancer across Ceredigion and mid Wales.”


For further information on the Appeal go to: www.hywelddahealthcharities.org.uk

£780 er budd Macmillan / £780 raised for Macmillan

CAN DIOLCH I CHI I GYD!
Gwerthfawrogir eich cefnogaeth hael i’r Bore Coffi er budd Canser Macmillan yng Ngheredigion.

A HUGE THANK YOU TO YOU ALL!
Your generous support to the recent Coffee Morning in aid of Macmillan Cancer in Ceredigion is greatly appreciated.

Rali Ceredigion : Penrhyn-coch

GWEFAN Rali Ceredigion 3-4.9.2022 WEBSITE

https://www.facebook.com/RaliCeredigion/videos/1419154245252102

Ceir yn gorffen cymal bore Sul trwy’r Garth ac yn dringo’r heol tuag at Penrhiwnewydd. Y dorf yn dechrau casglu o flaen y Neuadd.

Cars completing Sunday morning’s stage through Garth and heading towards Penrhiwnewydd. Spectators begin to gather in front of Neuadd y Penrhyn.

Mae’n dwym / It’s a scorcher

Campwaith Daniel / Daniel’s magnum opus

Daniel Huws a Gruffudd Antur yn cyflwyno copi o’r Repertory i’r Prif Weinidog Mark Drakeford yn y Llyfrgell Genedlaethol 20.6.22

Presenting a copy of the Repertory to First Minister Mark Drakeford at the National Library of Wales 20.6.22

Gruffudd Antur, Daniel Huws a’r Repertory

Llongyfarchiadau i Daniel Huws ar gyhoeddi ffrwyth ei ymchwil manwl ar lawysgrifau Cymraeg a Chymreig c.800c.1800, mewn tair cyfrol.

1) Disgrifiadau o ryw 3,300 o lawysgrifau.
2) Gwybodaeth am ryw 1,500 o ysgrifwyr; a mynegeion enwau pobl, lleoedd a phynciau a thestunau.
3) Dros fil o ddelweddau yn dangos llawysgrifen y gwahanol ysgrifwyr.
Gweler isod esiamplau o ddiddordeb lleol.
Dafydd ap Gwilym:

Congratulations to Daniel Huws on the publication of his extensive research on Welsh manuscripts c.800c.1800, in three volumes.

1) Descriptions of around 3,300 manuscripts.
2) Information on some 1,500 scribes; with indexes of personal names, place names and subjects and texts.
3) Over 1,000 images representing the scripts of various scribes.
See below examples of local interest.
Dafydd ap Gwilym:

Simon Lewis, Penrhyn-coch (1745)

Simon Lewis, Penrhyn-coch (1745)

Datganiad i’r wasg gan Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant:
Mae Dr Daniel Huws, cyn-Geidwad Llawysgrifau a Chofysgrifau’r Llyfrgell Genedlaethol Cymru a’r pennaf ysgolhaig ar lawysgrifau Cymraeg a Chymreig wedi cyhoeddi A Repertory of Welsh Manuscripts and Scribes, c.800–c.1800 sy’n benllanw blynyddoedd o waith ymchwil trylwyr ac yn gyfraniad tra sylweddol i ysgolheictod rhyngwladol. I ddathlu cyhoeddi’r Repertory ac i nodi pen blwydd Dr Huws yn 90 oed cynhelir cynhadledd ryngwladol ar amrywiol agweddau ar lawysgrifau Cymreig yn y Llyfrgell Genedlaethol rhwng 20 a 22 Mehefin.

Dywedodd yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Cyfarwyddwr, Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru:

Dyma gampwaith yn wir. Dathlwn ysgolheictod Dr Daniel Huws ac ymhyfrydwn yn y cydweithio agos a fu rhyngom wrth gyflwyno’r gwaith hwn i’r byd. Hoffwn ddiolch i bob un a fu ynghlwm â chyhoeddi’r cyfrolau hynod hyn.

Dywedodd Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

Heb os, dyma un o’r gweithiau ymchwil, ysgolheigaidd pwysicaf i’w gyhoeddi gennym, os nad y pwysicaf un. Mawr yw ein diolch i Daniel am ei waith cwbl ragorol.

Dywedodd yr Athro Medwin Hughes, Is-Ganghellor Prifysgol Cymru a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant:

Mae cyhoeddi’r Repertory yn achlysur hanesyddol a hoffwn longyfarch y Dr Daniel Huws yn wresog iawn ar ei gyfraniad aruthrol dros ddegawdau lawer at ysgolheictod ym maes llawysgrifau Cymreig.

Repertory fydd y cyhoeddiad pwysicaf ar lawysgrifau Cymraeg a Chymreig ers canrif a mwy, a bydd yn chwyldroi’r astudiaeth o hanes ein diwylliant a’n llên. Bydd y tair cyfrol yn cynnwys astudiaeth fanwl o lawysgrifau a ddiogelir yn ein prif lyfrgelloedd, megis y Llyfrgell Genedlaethol, Prifysgol Bangor, a chanolfannau megis y Llyfrgell Brydeinig a Llyfrgell Bodley, Rhydychen. Bydd hefyd yn rhoi sylw i lawysgrifau sydd wedi eu diogelu mewn mannau sydd ymhellach i ffwrdd, megis prifysgolion Harvard a Yale, coleg Stonyhurst, ac archifdy swydd Northampton. Ar sail y llawysgrifau hyn, dadansoddir gwaith a chymhellion yr unigolion a fu’n eu llunio – o’r Oesoedd Canol hyd at y Chwyldro Diwydiannol – gan ein cyflwyno i gymeriadau enwog yn hanes y genedl, i eraill a lwyr anghofiwyd ac i ambell gymeriad brith sy’n haeddu rhagor o sylw.

University of Wales Trinity Saint David Press release:
Dr Daniel Huws, former Keeper of Manuscripts and Records at the National Library of Wales and chief scholar of Welsh manuscripts has published A Repertory of Welsh Manuscripts and Scribes, c.800–c.1800 and is the culmination of many years of thorough research and is a substantial contribution to international scholarship. To celebrate the publication of the Repertory and to mark Dr Huws’ 90th birthday, an international conference on various aspects relating to Welsh manuscripts will be held at the National Library between 20 and 22 June.

Professor Elin Haf Gruffydd Jones, Director of the University of Wales Centre for Advanced Welsh and Celtic Studies said:

This is a masterpiece indeed. We celebrate the scholarship of Dr Daniel Huws and are proud of the collaboration that has taken place. I would like to thank all those who have worked with us to publish these extraordinary volumes.

Pedr ap Llwyd, Chief Executive and Librarian of The National Library of Wales said:

This is undoubtedly one of the most important, if not the most important, work to be published by us. We owe a debt of gratitude to Daniel for his outstanding work.

Professor Medwin Hughes, Vice-Chancellor of the University of Wales and U. of Wales Trinity Saint David, said:

The publication of the Repertory is a historic occasion and I warmly congratulate Dr Daniel Huws on his tremendous contribution over many decades to scholarship in the field of Welsh manuscripts.

This will be the most important publication on Welsh manuscripts for over a century, and will revolutionize the study of our culture and literature. The three volumes will include a detailed study of the manuscripts safeguarded by our main libraries, such as NLW, Bangor University, and centres such as the British Library and the Bodleian Library, Oxford. It will also look at manuscripts that are kept further afield in places such as the Universities of Harvard and Yale, Stonyhurst College, and Northamptonshire Archives. On the basis of these manuscripts, the work and motives of the individuals that created them is analysed – from the Middle Ages up to the Industrial Revolution – introducing us to notable individuals in the history of the nation, to some that have been long forgotten and other more interesting characters that deserve further attention.