Cymdeithas y Penrhyn Nos Fercher 15.2.2023
Dyma gyfle i wrando eto:
Cymdeithas y Penrhyn Nos Fercher 15.2.2023
Dyma gyfle i wrando eto:
Stondin Gwladys Evans, crefftwraig o Gefn-llwyd, yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022.
Gwladys Evans Cefn-llwyd’s exhibition at Ceredigion National Eisteddfod 2022
Daniel Huws a Gruffudd Antur yn cyflwyno copi o’r Repertory i’r Prif Weinidog Mark Drakeford yn y Llyfrgell Genedlaethol 20.6.22
Presenting a copy of the Repertory to First Minister Mark Drakeford at the National Library of Wales 20.6.22
Llongyfarchiadau i Daniel Huws ar gyhoeddi ffrwyth ei ymchwil manwl ar lawysgrifau Cymraeg a Chymreig c.800–c.1800, mewn tair cyfrol.
1) Disgrifiadau o ryw 3,300 o lawysgrifau.
2) Gwybodaeth am ryw 1,500 o ysgrifwyr; a mynegeion enwau pobl, lleoedd a phynciau a thestunau.
3) Dros fil o ddelweddau yn dangos llawysgrifen y gwahanol ysgrifwyr.
Gweler isod esiamplau o ddiddordeb lleol.
Dafydd ap Gwilym:
Congratulations to Daniel Huws on the publication of his extensive research on Welsh manuscripts c.800–c.1800, in three volumes.
1) Descriptions of around 3,300 manuscripts.
2) Information on some 1,500 scribes; with indexes of personal names, place names and subjects and texts.
3) Over 1,000 images representing the scripts of various scribes.
See below examples of local interest.
Dafydd ap Gwilym:
Simon Lewis, Penrhyn-coch (1745)
Simon Lewis, Penrhyn-coch (1745)
Datganiad i’r wasg gan Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant:
Mae Dr Daniel Huws, cyn-Geidwad Llawysgrifau a Chofysgrifau’r Llyfrgell Genedlaethol Cymru a’r pennaf ysgolhaig ar lawysgrifau Cymraeg a Chymreig wedi cyhoeddi A Repertory of Welsh Manuscripts and Scribes, c.800–c.1800 sy’n benllanw blynyddoedd o waith ymchwil trylwyr ac yn gyfraniad tra sylweddol i ysgolheictod rhyngwladol. I ddathlu cyhoeddi’r Repertory ac i nodi pen blwydd Dr Huws yn 90 oed cynhelir cynhadledd ryngwladol ar amrywiol agweddau ar lawysgrifau Cymreig yn y Llyfrgell Genedlaethol rhwng 20 a 22 Mehefin.
Dywedodd yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Cyfarwyddwr, Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru:
Dyma gampwaith yn wir. Dathlwn ysgolheictod Dr Daniel Huws ac ymhyfrydwn yn y cydweithio agos a fu rhyngom wrth gyflwyno’r gwaith hwn i’r byd. Hoffwn ddiolch i bob un a fu ynghlwm â chyhoeddi’r cyfrolau hynod hyn.
Dywedodd Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
Heb os, dyma un o’r gweithiau ymchwil, ysgolheigaidd pwysicaf i’w gyhoeddi gennym, os nad y pwysicaf un. Mawr yw ein diolch i Daniel am ei waith cwbl ragorol.
Dywedodd yr Athro Medwin Hughes, Is-Ganghellor Prifysgol Cymru a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant:
Mae cyhoeddi’r Repertory yn achlysur hanesyddol a hoffwn longyfarch y Dr Daniel Huws yn wresog iawn ar ei gyfraniad aruthrol dros ddegawdau lawer at ysgolheictod ym maes llawysgrifau Cymreig.
Y Repertory fydd y cyhoeddiad pwysicaf ar lawysgrifau Cymraeg a Chymreig ers canrif a mwy, a bydd yn chwyldroi’r astudiaeth o hanes ein diwylliant a’n llên. Bydd y tair cyfrol yn cynnwys astudiaeth fanwl o lawysgrifau a ddiogelir yn ein prif lyfrgelloedd, megis y Llyfrgell Genedlaethol, Prifysgol Bangor, a chanolfannau megis y Llyfrgell Brydeinig a Llyfrgell Bodley, Rhydychen. Bydd hefyd yn rhoi sylw i lawysgrifau sydd wedi eu diogelu mewn mannau sydd ymhellach i ffwrdd, megis prifysgolion Harvard a Yale, coleg Stonyhurst, ac archifdy swydd Northampton. Ar sail y llawysgrifau hyn, dadansoddir gwaith a chymhellion yr unigolion a fu’n eu llunio – o’r Oesoedd Canol hyd at y Chwyldro Diwydiannol – gan ein cyflwyno i gymeriadau enwog yn hanes y genedl, i eraill a lwyr anghofiwyd ac i ambell gymeriad brith sy’n haeddu rhagor o sylw.
University of Wales Trinity Saint David Press release:
Dr Daniel Huws, former Keeper of Manuscripts and Records at the National Library of Wales and chief scholar of Welsh manuscripts has published A Repertory of Welsh Manuscripts and Scribes, c.800–c.1800 and is the culmination of many years of thorough research and is a substantial contribution to international scholarship. To celebrate the publication of the Repertory and to mark Dr Huws’ 90th birthday, an international conference on various aspects relating to Welsh manuscripts will be held at the National Library between 20 and 22 June.
Professor Elin Haf Gruffydd Jones, Director of the University of Wales Centre for Advanced Welsh and Celtic Studies said:
This is a masterpiece indeed. We celebrate the scholarship of Dr Daniel Huws and are proud of the collaboration that has taken place. I would like to thank all those who have worked with us to publish these extraordinary volumes.
Pedr ap Llwyd, Chief Executive and Librarian of The National Library of Wales said:
This is undoubtedly one of the most important, if not the most important, work to be published by us. We owe a debt of gratitude to Daniel for his outstanding work.
Professor Medwin Hughes, Vice-Chancellor of the University of Wales and U. of Wales Trinity Saint David, said:
The publication of the Repertory is a historic occasion and I warmly congratulate Dr Daniel Huws on his tremendous contribution over many decades to scholarship in the field of Welsh manuscripts.
This will be the most important publication on Welsh manuscripts for over a century, and will revolutionize the study of our culture and literature. The three volumes will include a detailed study of the manuscripts safeguarded by our main libraries, such as NLW, Bangor University, and centres such as the British Library and the Bodleian Library, Oxford. It will also look at manuscripts that are kept further afield in places such as the Universities of Harvard and Yale, Stonyhurst College, and Northamptonshire Archives. On the basis of these manuscripts, the work and motives of the individuals that created them is analysed – from the Middle Ages up to the Industrial Revolution – introducing us to notable individuals in the history of the nation, to some that have been long forgotten and other more interesting characters that deserve further attention.
Englyn cyfarch i’r bardd buddugol, Parch. Judith Morris:
YR ANGOR A WNAETH GYDIO
DY AWEN TRA YN LLIFO,
EIN LLONGYFARCHION WRTH IT’ DDOD
A CHLOD AM BERL DIGURO. gan Emyr Davies
Hanes difyr dros 100 o ddynion a merched a wnaeth gyfraniad i fywyd cyfoethog un o gymunedau gogledd Ceredigion, ac eraill a anwyd yn Bont-goch ac a wnaeth eu cyfraniad y tu hwnt i Geredigion, mewn mannau eraill yng Nghymru, neu Loegr, ac mewn nifer o wledydd tramor.
Yn eu plith mae arlunwyr, athrawon, awduron, beirdd, bonedd, cenhadon, crefftwyr, ffermwyr, gweinidogion ac offeiriaid, milwyr, mwynwyr a pheirianwyr mwyngloddio, a detholiad o gymeriadau gwledig sy’n cynnwys ambell ecsentrig.
Mae’r awdur wedi byw yn Bont-goch ers bron ugain mlynedd. Cyn ei ymddeoliad bu’n Bennaeth Gwasanaethau Darllen ac Ymholiadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.
Testun dwyieithog (Cymraeg a Saesneg cyfochrog).
168 pp. Clawr meddal / 168 pp. Paperback.
Dyddiad Cyhoeddi: 9 Tachwedd 2020 / Publication date: 9 November 2020
Pris: £12-00 / Price: £12.00
ISBN: 978-1-5272-7577-5
Bydd y gyfrol ar gael mewn rhai siopau lleol, siopau llyfrau, ac ar wefan Cyngor Llyfrau Cymru www.gwales.com
The fascinating story of over 100 men and women who shaped the life of a small community in north Ceredigion whilst others left Ceredigion to make their contribution in other parts of Wales, England, and in a number of foreign countries.
Persons noted include artists, authors, clergymen, craftsmen, farmers, gentry, miners and mining engineers, missionaries, poets, politicians, schoolteachers, soldiers and a selection of rural characters including the odd eccentric.
The author has lived in Bont-goch for nearly twenty years. Prior to his retirement he was Head of Reader & Enquiry Services at the National Library of Wales, Aberystwyth.
Bilingual (Welsh and English parallel text)
168 pp. Clawr meddal / 168 pp. Paperback.
Dyddiad Cyhoeddi: 9 Tachwedd 2020 / Publication date: 9 November 2020
Pris: £12-00 / Price: £12.00
ISBN: 978-1-5272-7577-5
The book will available in some local shops, bookshops, and on the Books Council of Wales website www.gwales.com