Gwar y Garth

Cafodd plant Ysgol Penrhyn-coch gyfle i roi cynnig ar enwi stad o dai newydd yn y pentref yn ddiweddar. Pleser oedd cael gweithdai gwych gydag Angharad Fychan, ysgrifennydd Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru. Yr oedd hyn yn plethu yn dda gyda gwaith y dosbarth ar y thema “Cynefin”.

Edrychon nhw ar fapiau a thrafod ystyr gwahanol enwau’r ardal e.e. Garth – dyma hen enw rhan uchaf y pentre (Penrhyn Uchaf gynt), a Garth Uchaf a Garth Isaf yw’r ddwy stryd gyferbyn â’r Neuadd. Ystyr Garth yw ‘cefnen’ – mae’n ddisgrifiad o’r trwyn o dir sy’n codi i fyny o Gae Mawr i gyfeiriad Garej y bysys.

Diolch yn fawr iawn i Angharad Fychan am y gweithdai. Rydyn ni’n edrych ymlaen nawr i weld yr enw ar arwydd ar ben y stad newydd ac ar fap yn y dyfodol.

The pupils of Ysgol Penrhyn-coch were recently invited to name a new estate in the village. They thoroughly enjoyed the excellent workshops with Angharad Fychan, secretary of the Welsh Place Name Society. These supplemented the classwork on the theme of “Cynefin”, the local environment.

They studied local maps and discussed the meaning of various place names in the area, e.g. Garth – the old name for the top end of the village (formerly Penrhyn Uchaf) and Garth Uchaf and Garth Isaf, two streets opposite the village hall. ‘Garth’ means ‘cefnen’ (ridge) – it describes the slope rising from Cae Mawr to the bus garage.

Many thanks to Angharad Fychan for the workshops. We now look forward to seeing the sign on the new estate and on local maps.

Noson Gwis / Quiz Night

Cynhaliwyd Noson Gwis, coffi a raffl yn Neuadd yr Eglwys nos Fawrth (14/3) er cof am y Parchg Lyn Lewis Dafis a Glyn Collins – dau oedd wrth eu bodd yn trefnu ac yn cynnal cwisiau trwy gyfrwng Zoom yn ystod y Cyfnod Clo ac wedi hynny.
Y cwis feistri oedd y Parchg Andrew Loat, y Parchg Lynn Rees, David Lucas, Richard Owen a Richard Huws.
Daeth y noson deyrnged i ben trwy osod portread Iwan Bryn James o Lyn Lewis Dafis ar wal y neuadd.

A packed Church Hall enjoyed a Quiz night, coffee and raffle on Tuesday (14/3) in memory of the Revd Lyn Lewis Dafis and Glyn Collins – both expert quizzers who enjoyed organizing quizzes on Zoom throughout the Covid Lockdown and beyond.
The quiz masters were the Revd Andrew Loat, Revd Lynn Rees, David Lucas, Richard Owen and Richard Huws.
A fitting tribute ended with the hanging of Iwan Bryn James’s portrait of Lyn Lewis Dafis.

Revd Canon Andrew Loat, Richard Huws, Richard Owen, Revd Lynn Rees, David Lucas
Richard Huws a Richard Owen yn gosod llun o’r Parchg Lyn Lewis Dafis (1960-2022) gan Iwan Bryn James, ar wal Neuadd yr Eglwys, Penrhyn-coch /
Richard Huws and Richard Owen hanging a portrait of the Revd Lyn Lewis Dafis (1960-2022) by Iwan Bryn James, in the Church Hall, Penrhyn-coch.

Cymdeithas y Penrhyn: ymweliad ag Arloesi Aber

Clwb Ieuenctid Penrhyn-coch Youth Club

Diolch i Glwb Ieuenctid Penrhyn-coch am y gwahoddiad i’r rhai dros 65 i gael coffi, mins peis a sgwrs yn Nhafarn y Roosters bore Sadwrn, ac am ein difyrru â chaneuon Nadoligaidd.

Thank you to Penrhyn-coch Youth Club for inviting all over-65 year olds for a coffee, mince pie and a chat at Tafarn y Roosters on Saturday morning, and for entertaining us with a selection of Christmas songs.

Amserlen Bws Ionawr 2023 / Bus Timetable January 2023

Mewn datganiad gan Gyngor Sir Ceredigion:

“Mae’r tendrau a dderbyniwyd yn rhan o broses gaffael ar gyfer gweithredu sawl gwasanaeth wedi dangos cynnydd sylweddol mewn costau. Mae hyn wedi arwain at ofyn am gynnydd sylweddol mewn lefelau cymhorthdal ar adeg pan fo cyllid cyhoeddus dan bwysau aruthrol. Mae’r costau uwch yn adlewyrchu’r heriau penodol sy’n effeithio ar y diwydiant bysiau ar hyn o bryd, sy’n cynnwys costau gweithredu sylweddol uwch, diffyg gyrwyr cymwys ar gael, ansicrwydd ynghylch dulliau ariannu yn y dyfodol yn ogystal â gostyngiad yn nifer y teithwyr a newid mewn ymddygiad teithio.

“Mae nifer y teithwyr wedi bod yn gostwng ledled Cymru ac wedi haneru i bob pwrpas yn y cyfnod rhwng 1982, lle cafwyd 181 miliwn o siwrneiau gan deithwyr, a 2019/20 lle cafwyd 91 miliwn o siwrneiau gan deithwyr. Mae pandemig Covid-19 wedi effeithio ar hyn yn sylweddol, a gwelwyd gostyngiad i 26 miliwn o siwrneiau gan deithwyr yn 2020/21, sydd wedi cael effaith bellach ar hyfywedd gwasanaethau bysiau lleol.

“Bydd gwasanaethau 22T (Aberystwyth-Pontarfynach), 27T (Penrhyncoch-Penbontrhydybeddau) a T29 (Cylch Tregaron), sy’n ymateb i’r galw, yn dod i ben ddiwedd Rhagfyr 2022 oherwydd y costau sylweddol o’u darparu a’r lefel isel iawn sy’n eu defnyddio, sy’n cyfateb i lefelau anhyfyw o gymhorthdal cyhoeddus fesul siwrnai teithiwr.

“Bydd newidiadau i amserlenni gwasanaethau 525 (Aberystwyth-Ponterwyd), 526 (Aberystwyth-Penrhyncoch) a 585 (Aberystwyth-Tregaron-Llanbedr Pont Steffan) yn seiliedig ar gynigion gan y gweithredwyr bysiau lleol ac yn adlewyrchu’r hyn y gellir ei gyflawni’n weithredol gyda’r adnoddau sydd ar gael, o ran bysiau a gyrwyr, ar hyn o bryd.

“Mae’r holl gontractau hyn wedi’u dyfarnu ar sail 6 mis er mwyn caniatáu adolygiad ehangach.

According to Ceredigion County Council:

“The tenders received as part of a procurement process for operating several services have shown significant cost increases. This has resulted in substantial increases in subsidy levels being requested at a time when public finances are under tremendous pressure. The higher costs are largely reflective of particular challenges affecting the bus industry currently which includes considerable increased operating costs, lack of qualified and available drivers, uncertainty around future funding mechanisms as well as declining passenger numbers and changing travel behaviours.

“Bus passenger numbers have been in decline across Wales and essentially halved in the period between 1982, where there were 181 million passenger journeys and 2019/20 where there were 91 million passenger journeys. This has been severely compounded by the Covid-19 pandemic, which saw a drop to 26 million passenger journeys in 2020/21, that has further impacted on the viability of local bus services.

“The 22T (Aberystwyth-Devil’s Bridge), 27T (Penrhyncoch-Penbontrhydybeddau) and T29 (Tregaron Circular) demand responsive services will stop at the end of December 2022 due to the significant costs associated with providing them and the very low level of usage, which equate to unviable levels of public subsidy per passenger journey.

“There will be changes to the timetables on the 525 (Aberystwyth-Ponterwyd), 526 (Aberystwyth-Penrhyncoch) and 585 (Aberystwyth-Tregaron-Lampeter) services. These timetables are based on proposals provided by the local bus operators and reflect what is operationally deliverable with the resources available, in terms of buses and drivers, at this time.

 
“All these contracts have been awarded on a 6 month basis to allow for a wider review.

Trefeurig yn Cofio / Trefeurig Remembers 2022

Suliau Cofio a fu / Previous Remembrance Sundays

Enwau ar y Gofeb / Names on the Memorial WW1

Enwau ar y Gofeb / Names on the Memorial WW2

Enwau Cofeb Pen-bont Rhydybeddau / Names Pen-bont Rhydybeddau Memorial

Taith Eirian i Batagonia / Eirian’s Trek to Patagonia

TUDALEN JUST GIVING / PAGE

Mae’r daith yn digwydd 5-15 Tachwedd 2022.

Mae Nyrsys Marie Curie yn darparu gwasanaeth gwerthfawr ar adegau pan mae pobl ar eu mwyaf bregus ac yn cynnig y gwasanaeth am ddim.

Mae £20 yn talu am nyrs am awr.

Mae £70 yn caniatau i rywun fynychu therapi dyddiol mewn hospis Marie Curie.

Rhowch yn hael os gwelwch yn dda.

Pob hwyl Eirian!

This trek will take place 5-15 November 2022.

Marie Curie nurses provide a valuable service at a time when people are at their lowest and offer that service free at the point of delivery:

£20 pays for a nurse for an hour

£70 lets someone attend day therapy at a Marie Curie hospice.

Please give generously. 

Good luck Eirian!