Wythnos Cymorth Cristnogol / Christian Aid Week 15-21 Mai/May

Mae casgliad 2022 Penrhyn-coch at Gymorth Cristnogol yn un drwy’r we – fel y digwyddodd yn 2020 a 2021; ni fydd casgliad o ddrws i ddrws.
GALLWCH GYFRANNU YMA
Os nad am wneud ar y we gallwch anfon siec yn daladwy i ‘Gymorth Cristnogol’ at William Howells, Rhyd-y-gof, Penrhyn-coch SY23 3EQ neu at Eglwys St Ioan d/o Y Ficerdy, Garth, Penrhyn-coch SY23 3EP. Bydd y  ddau sefydliad yn eu tro yn anfon yr arian ymlaen at Gymorth Cristnogol.

Mae blychau casglu hefyd ar gael am yr wythnos yn y Siop ac yn Garej NISA Tŷ Mawr.

The 2022 Penrhyn-coch collection for Christian Aid is again through this JustGiving page, as in 2020 and 2021; there will be no door-to-door collection. 
PLEASE DONATE HERE
If you do not wish to donate through this page, you can donate by cheque payable to ‘Christian Aid’ and please send to William Howells,  Rhyd-y-gof, Penrhyn-coch SY23 3EQ or to St John’s Church, c/o Y Ficerdy, Garth, Penrhyn-coch SY23 3EP. The churches will send your contribution on to Christian Aid.

Collection boxes are also available during this week at the Shop and at NISA Tŷ Mawr Garage.

Teyrngedau i Lyn / Tributes to Lyn

Trist yw cofnodi marwolaeth y Parchg Lyn Lewis Dafis, Gweinidog Cynorthwyol, ardal weinidogaeth Bro Padarn.
Colled fawr i’r pentref a’r gymuned.

19 Mawrth Sadwrn 12.00 o’r gloch: gwasanaeth byr o weddi a diolchgarwch er cof am Y Parchedig Lyn Lewis Dafis, yn Eglwys S Ioan, Penrhyn-coch.

Cynhelir gwasanaeth angladd preifat yn Amlosgfa Aberystwyth fore Sadwrn, 26 Mawrth, a gwasanaeth coffa cyhoeddus i ddilyn am 2.00pm yn Eglwys Llanbadarn Fawr. Blodau’r teulu yn unig. Rhoddion os dymunir at Uned Gofal Dwys Ysbyty Bronglais trwy law’r ymgymerwr, D J Evans, Kairali, Penrhyn-coch, Aberystwyth SY23 3EQ.

The community of Penrhyn-coch is saddened by the passing of Revd Lyn Lewis Dafis, Associate minister, Bro Padarn.
A great loss to the village and the local community.

19 March Saturday 12.00: a short service of prayer and thanksgiving in memory of the Revd Lyn Lewis Dafis at St John’s church Penrhyn-coch.

A private funeral service will be held on the morning of Saturday, 26 March at Aberystwyth Crematorium, followed by a public memorial service at 2.00pm in Llanbadarn Fawr Church. Family flowers only. Donations if desired towards the Bronglais Intensive Therapy Unit, c/o D J Evans, Funeral Directors, Kairali, Penrhyn-coch, Aberystwyth SY23 3EQ.


Teyrnged gan Richard E. Huws
(Gwefan Esgobaeth Tyddewi)

Tribute by Richard E. Huws
(Diocese of St Davids website)

Y Parchg Lyn Lewis Dafis

Pod Penrhyn

PODCAST

Trefeurig: Sul y Cofio / Remembrance Sunday 14.11.21

Gwasanaeth byr wrth y Gofeb, Penrhyn-coch am 10.45. Dim canu.

Short service at Penrhyn-coch Memorial at 10.45.
No singing.

Cofeb Penrhyn-coch / Memorial
Pen-bont Rhydybeddau

Sul y Tractorau! / Tractor Sunday!

Cynhaliwyd Taith Tractorau eleni eto er budd Ysgol Penrhyn-coch. Diolch i bawb fu’n trefnu a chymryd rhan, ac a gyfrannodd yn hael at yr achos.

A Tractor Run was held again this year in aid of Ysgol Penrhyn-coch. Thanks to all who organised the event, those who took part and all who contributed generously to the cause.