Gwar y Garth

Cafodd plant Ysgol Penrhyn-coch gyfle i roi cynnig ar enwi stad o dai newydd yn y pentref yn ddiweddar. Pleser oedd cael gweithdai gwych gydag Angharad Fychan, ysgrifennydd Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru. Yr oedd hyn yn plethu yn dda gyda gwaith y dosbarth ar y thema “Cynefin”.

Edrychon nhw ar fapiau a thrafod ystyr gwahanol enwau’r ardal e.e. Garth – dyma hen enw rhan uchaf y pentre (Penrhyn Uchaf gynt), a Garth Uchaf a Garth Isaf yw’r ddwy stryd gyferbyn â’r Neuadd. Ystyr Garth yw ‘cefnen’ – mae’n ddisgrifiad o’r trwyn o dir sy’n codi i fyny o Gae Mawr i gyfeiriad Garej y bysys.

Diolch yn fawr iawn i Angharad Fychan am y gweithdai. Rydyn ni’n edrych ymlaen nawr i weld yr enw ar arwydd ar ben y stad newydd ac ar fap yn y dyfodol.

The pupils of Ysgol Penrhyn-coch were recently invited to name a new estate in the village. They thoroughly enjoyed the excellent workshops with Angharad Fychan, secretary of the Welsh Place Name Society. These supplemented the classwork on the theme of “Cynefin”, the local environment.

They studied local maps and discussed the meaning of various place names in the area, e.g. Garth – the old name for the top end of the village (formerly Penrhyn Uchaf) and Garth Uchaf and Garth Isaf, two streets opposite the village hall. ‘Garth’ means ‘cefnen’ (ridge) – it describes the slope rising from Cae Mawr to the bus garage.

Many thanks to Angharad Fychan for the workshops. We now look forward to seeing the sign on the new estate and on local maps.

Gadael sylw