Pobol y Topie : Bont-goch Lives, Richard E. Huws

Hanes difyr dros 100 o ddynion a merched a wnaeth gyfraniad i fywyd cyfoethog un o gymunedau gogledd Ceredigion,  ac eraill a anwyd yn Bont-goch  ac a  wnaeth eu cyfraniad y tu hwnt i Geredigion, mewn mannau eraill yng Nghymru, neu Loegr, ac mewn nifer o wledydd tramor.

Yn eu plith mae arlunwyr, athrawon, awduron, beirdd, bonedd, cenhadon, crefftwyr, ffermwyr, gweinidogion ac offeiriaid, milwyr, mwynwyr a pheirianwyr mwyngloddio, a detholiad o gymeriadau gwledig sy’n cynnwys ambell ecsentrig. 

Mae’r awdur wedi byw yn Bont-goch ers bron ugain mlynedd. Cyn ei ymddeoliad bu’n Bennaeth Gwasanaethau Darllen ac Ymholiadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth. 

Testun dwyieithog (Cymraeg a Saesneg cyfochrog).  
168 pp. Clawr meddal /  168 pp. Paperback. 
Dyddiad Cyhoeddi: 9 Tachwedd 2020 / Publication date:  9 November 2020
Pris: £12-00 / Price: £12.00
ISBN: 978-1-5272-7577-5

Bydd y gyfrol ar gael mewn rhai siopau lleol, siopau llyfrau, ac ar wefan Cyngor Llyfrau Cymru www.gwales.com

The fascinating story of over 100 men and women who shaped the life of a small community in north Ceredigion whilst others left Ceredigion to make their contribution in other parts of Wales, England, and in a number of foreign countries. 

Persons noted include artists, authors, clergymen, craftsmen, farmers, gentry, miners and mining engineers, missionaries, poets, politicians, schoolteachers, soldiers and a selection of rural characters including the odd eccentric.

The author has lived in Bont-goch for nearly twenty years. Prior to his retirement he was Head of Reader & Enquiry Services at the National Library of Wales, Aberystwyth.

Bilingual (Welsh and English parallel text) 
168 pp. Clawr meddal /  168 pp. Paperback. 
Dyddiad Cyhoeddi: 9 Tachwedd 2020 / Publication date:  9 November 2020
Pris: £12-00 / Price: £12.00
ISBN: 978-1-5272-7577-5

The book will available in some local shops, bookshops, and on the Books Council of Wales website www.gwales.com

Geiriau i’n Cynnal: Cofio

Sul, 8fed Tachwedd, 2020
[Diolch i’r Parchg Peter Thomas]


GEIRIAU I’N CYNNAL ‘Cofio’

Anwyliaid yr Anwel,

Eleni, oherwydd lledaeniad haint Covid 19 a’r angen i ymgadw rhag cynnull mewn niferoedd, penderfynwyd rhoi heibio’r arfer mewn llawer man o gynnal gwasanaeth wrth gofebau rhyfel ar Sul y Cofio. Penderfynwyd yn hytrach gyflwyno digwyddiadau rhithiol dros y we ac ar deledu mewn ymgais i gofio ymdrech ac aberth y rhai a gollodd eu bywyd mewn dau ryfel byd ac mewn brwydrau eraill.

Mi fydd yr arfer o wisgo pabi coch ar got a gosod plethdorchau ar gofebau yn fynegiant o’r cofio hwnnw. 

Ni ddaw henaint i’w rhan hwy,
Fel i ninnau, a adawyd.
Ni ddwg oed iddynt ludded
Na’r blynyddoedd gollfarn mwy.
Pan elo’r haul i’w orwel
Ac yn y bore,
Ni a’u cofiwn hwy,
Ni a’u cofiwn hwy.

(efel. Cymraeg o eiriau Laurence Binyon)

Aeth canrif a mwy heibio bellach ers diwedd y rhyfel byd cyntaf – ac eto fe erys yr arfer o gofio.

Mi fydd cofio yn gyfrwng  i gysylltu digwyddiadau ddoe â’n byw heddiw ac yn ein galluogi i uniaethu â’u profiadau, a hynny oherwydd ein bod yn rhannu o’r un ddynoliaeth, ac o’r gwead dirgel, chwedl Waldo, ‘sy’n cydio pob dyn byw; cymod a chyflawn we, Myfi, Tydi. Efe …’

Ni chyfyngir y cofio hwnnw chwaith gan y rheidrwydd inni fod yno. Nid oes neb yn byw bellach a brofodd erchylltra brwydrau’r Liège, y Somme, Ypres a Passchendaele – bu farw Henry John Patch, y milwr olaf a frwydrodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, yn 111 oed ym mis Gorffennaf 2009, ac eto ar y Sul hwn ganrif a mwy wedi’r digwydd yr ydym yn dal i goffáu eu haberth hwy mewn tosturi a chydymdeimlad, yn dawel a dwys; fe barchwn ac anrhydeddwn eu coffadwriaeth.

Beth wnewch chi â’ch pabi coch wedi Sul y Cofio tybed? Fyddwch chi’n ei daflu i ffwrdd, neu yn ei gadw tan flwyddyn nesaf? Fyddwch chi’n ei osod mewn drôr ynghanol trangwns eraill a’i anghofio neu a fyddwch yn ei osod mewn lle amlwg a gweladwy? Ond, yn fwy penodol efallai, ga i holi – beth a wnawn ni â’n cofio wedi i Sul y Cofio fynd heibio?

Heddiw ar y Sul hwn, mi fydd llawer un yn cofio am aberth y rhai a gollodd eu bywyd o ganlyniad i gyflafan rhyfel ac yna ddydd Mercher mi fydd y cofio’n parhau gan fod yr 11eg Tachwedd yn Ddydd y Cofio. Am 11.00 o’r gloch ar y dyddiad hwnnw yn 1918 y daeth y Rhyfel Byd Cyntaf i ben. Ond beth am ddydd Iau a’r diwrnod wedyn – a fydd y cofio wedi gorffen wedyn? A fyddwn yn rhoi heibio ein cofio am flwyddyn arall fel a wnawn gyda’n trimins a’n haddurniadau ’Dolig ddeuddeg diwrnod wedi’r digwydd?

Mi ddylai’n cofio wneud gwahaniaeth i’r modd y byddwn yn byw ein bywydau wedi’r digwydd.

Ar gychwyn y nawdegau cyhoeddwyd cyfres o ysgrifau ar hanes Cymru o dan y teitl COF CENEDL ac yn ei ragymadrodd i’r gyfres y mae’r golygydd, yr Athro Geraint Jenkins, yn cyfeirio at yr elfennau nodedig hynny a gyfranna i’n bodolaeth fel cenedl. Hebddynt, meddai, ‘Nid oes gennym nac enw, na llais, na hawliau, nac aelodaeth ym mrawdoliaeth dynolryw; oherwydd o fewn y frawdoliaeth honno saif y cyfrifoldeb i ni hybu a diogelu’r gwerthoedd hynny sy’n esgor ar gariad, heddwch a chymod rhwng dyn a’i gyd-ddyn – y rhain yw seiliau gwareiddiad a gobaith pobloedd y byd.’

Mae Gair Duw yn ein hatgoffa’n gyson o’r angen i gofio. Y mae’r Hen Destament yn frith o gyfarwyddiadau i’r genedl gofio ymwneud Duw yn eu hanes ac am ei berthynas unigryw â hwy, ei ddarpariaeth a’i waredigaeth.

Yn y Deg Gorchymyn a dderbyniodd Moses gan Dduw ar fynydd Sinai y mae gofyn i’r genedl ‘gofio’r dydd Sabath i’w sancteiddio’ (Exodus 20:8) ac wrth inni gamu i Lyfr Deuteronomium cawn yno restr o’r gorchmynion yr oedd disgwyl i’r genedl eu cofio a’u dilyn: ‘Gofalwch na fyddwch yn anghofio’r Arglwydd eich Duw nac yn gwrthod cadw ei orchmynion …’(Deut. 8:11).

Y mae Llyfr y Pregethwr yn ein hannog ‘i gofio’r Creawdwr yn nyddiau ein hieuenctid, cyn i’r dyddiau blin ddod …’ (Preg.12:1).

Ac yna mae’r proffwyd Eseia yn cymell y genedl i ymgadw rhag loetran uwchben hen hanes ond i gofio fod y Duw sydd wedi darparu yn cyflawni pethau newydd yn barhaus (Eseia 43: 18–19).

Fel rhan o ddefod Gŵyl y Bara Croyw i gofio gwaredigaeth yr Aifft, y mae Moses yn gorchymyn: ‘Cofiwch y dydd hwn, sef y dydd y daethoch allan o’r Aifft, o dŷ caethiwed oherwydd â llaw nerthol y daeth yr Arglwydd â chwi oddi yno.’ (Exodus 13:3)  

Wrth inni droi i’r Testament Newydd wedyn gwelwn y cofio yn fynegiant o’n ffydd a’n hymddiriedaeth yn ein Harglwydd Iesu Grist. Mi fydd cofio ei aberth a’i fuddugoliaeth ar Galfaria yn ein hatgoffa taw ef a roes ei ddwylo pur ar led ac a wisgodd goron ddrain – trosom ni. Ar groesbren Calfaria y gwelwyd yr aberth eithaf – ym marwolaeth Iesu, ei ddioddefaint a’i goncwest ef ar angau a bedd, y mae inni waredigaeth a bywyd.

Yng nghyd-destun ein haddoliad mi fydd yr anghenraid i gofio yn elfen amlwg o’r digwydd. Mi fydd y weithred o dorri bara ac yfed y cwpan mewn cymun yn fynegiant o aberth Iesu Grist ac fe wnawn hyn ‘er cof amdano’.

Fe rydd Thomas Lewis, y gof o Dalyllychau, lais a mynegiant i’r cofio hwnnw yn ei emyn grymus:

Wrth gofio’i riddfannau’n yr ardd a’i chwys fel defnynnau o waed,
Aredig ar gefn oedd mor hardd, a’i daro â chleddyf ei Dad,
A’i arwain i Galfarî fryn a’i hoelio ar groesbren o’i fodd;
Pa dafod all dewi am hyn, pa galon mor galed na thodd?

Ynghanol pob argyfwng – ynghanol cwestiynau nad oes iddynt ateb a thristwch nad oes iddo ymwared – diolchwn fod inni ‘Ŵr dirmygedig sy’n gynefin â dolur – yr Hwn a gymerth ein gwendid ni ac a ddug ein doluriau ni’, sydd yno ynghanol pob adfyd a chaledi yn uniaethu â dioddefaint y byd, am iddo yn ei gariad anhraethol ein prynu ni i fywyd trwy ei waed.

‘Efe a archollwyd am ein camweddau ni, efe a ddrylliwyd am ein hanwireddau ni; cosbedigaeth ein heddwch ni oedd arno ef, a thrwy ei gleisiau ef yr iachawyd ni …’ 

Fy nghofion cynhesaf atoch i gyd, Peter

DARLLENIADAU: Eseia 53; 1Corinthiad 11 23-26

GWEDDI: Ar y Sul hwn, O Dad, cysegra di ein cofio a rho dy gymorth inni fyw mewn cymod a chariad â’n gilydd. Cofia am y rhai sy’n gorfod ymgodymu ynghanol sefyllfaoedd o wrthdaro a thrais, cysgoda trostynt ac estyn iddynt o’th gymorth a’th amddiffyn. Cyflwynwn i’th ofal y rhai hynny sydd â’u sefyllfaoedd yn fregus ac yn anodd, cylcha o’u cwmpas a dyro iddynt dy nerth a’th ymgeledd. Diolchwn, O Dad, y medri di gamu i’n hymyl yn ein hadfyd a’n siom, yn ein gwynfyd a’n gorfoledd gan rannu inni o’th dangnefedd a’th gariad. Helpa ni i ymddiried ynot o’r newydd a phwyso arnat am dy arweiniad. Yn enw Iesu Grist, Amen.

GWEDDI’R ARGLWYDD

Sul y Cofio : Remembrance Sunday

CYNGOR CYMUNED TREFEURIG COMMUNITY COUNCIL

Yn anffodus, oherwydd pandemig Covid-19 ni fydd Cyngor Cymuned Trefeurig yn trefnu gwasanaeth Sul y Cofio wrth y gofgolofn eleni.

Regrettably, due to the Covid-19 pandemic Trefeurig Community Council will not be organizing a Remembrance Service at the war memorial this year.

Delyth James
Cadeirydd Cyngor Cymuned Trefeurig
22.10.20

O Benrhyn-coch i Bow St a’r byd… From Penrhyn-coch to Bow St and the world…

Mae’r llwybr rhwng Penrhyn-coch a Bow Street ar agor a chyfle i gerddwyr a seiclwyr deithio yn hamddenol rhwng y ddwy bentref. Pan fydd gorsaf drên Bow St yn agor tua diwedd 2020, gall y wâc i stesion Bow St (neu i Sgwar Penrhyn-coch) fod yn un o uchafbwyntiau’r wythnos i lawer!

The footpath and cycleway between Penrhyn-coch and Bow Street is now open and gives an opportunity for walkers and cyclists to to travel leisurely between the two villages. When Bow Street station opens towards the end of 2020, a walk to Bow St station (or vice-versa to Penrhyn-coch square) might be the highlight of the week for many!