











Cynhelir gwasanaeth Sul y Cofio ar y 12ed Tachwedd. Cychwynnir yn yr Eglwys am 10.15y.b. cyn yr orymdaith i’r gofgolofn erbyn 11 o’r gloch.
Croeso Cynnes i Bawb.
The Remembrance Service will be held on the 12th of November. It will commence at the church at 10.15am, followed by a procession to the war memorial by11 am.
A Warm Welcome to all who wish to attend.

Diolch i Brian Davies
Gwae fi fy myw mewn oes mor ddreng,
A Duw ar drai ar orwel pell;
O’i ôl mae dyn, yn deyrn a gwreng,
Yn codi ei awdurdod hell.
Hedd Wyn
They shall grow not old, as we that are left grow old:
Age shall not weary them, nor the years condemn.
At the going down of the sun and in the morning
We will remember them.
Robert Laurence Binyon

Sgwâr Penrhyn-coch






Cynhaliwyd Noson Gwis, coffi a raffl yn Neuadd yr Eglwys nos Fawrth (14/3) er cof am y Parchg Lyn Lewis Dafis a Glyn Collins – dau oedd wrth eu bodd yn trefnu ac yn cynnal cwisiau trwy gyfrwng Zoom yn ystod y Cyfnod Clo ac wedi hynny.
Y cwis feistri oedd y Parchg Andrew Loat, y Parchg Lynn Rees, David Lucas, Richard Owen a Richard Huws.
Daeth y noson deyrnged i ben trwy osod portread Iwan Bryn James o Lyn Lewis Dafis ar wal y neuadd.
A packed Church Hall enjoyed a Quiz night, coffee and raffle on Tuesday (14/3) in memory of the Revd Lyn Lewis Dafis and Glyn Collins – both expert quizzers who enjoyed organizing quizzes on Zoom throughout the Covid Lockdown and beyond.
The quiz masters were the Revd Andrew Loat, Revd Lynn Rees, David Lucas, Richard Owen and Richard Huws.
A fitting tribute ended with the hanging of Iwan Bryn James’s portrait of Lyn Lewis Dafis.

