Geiriau i’n Cynnal: Ansicrwydd bywyd

Myfyrdod ar gyfer dydd Sul 25 Ebrill 2021

[Diolch i’r Parchg Judith Morris am y myfyrdod isod]

Gweddi agoriadol: Dad Nefol, wrth inni droi atat yn awr, cydnabyddwn mai Tydi yw crëwr ac awdur bywyd. Plygwn ger dy fron yn wylaidd ac yn ostyngedig gan ddiolch iti am dy ofal trosom ac am dy gariad tuag atom. Pâr inni brofi o’th bresenoldeb dwyfol. Gofynnwn hyn yn enw ein Harglwydd Iesu. Amen.

Darlleniad: Salm 46

Myfyrdod: Roedd newyddion yr wythnos ddiwethaf yn llawn o benawdau oedd yn ein hatgoffa pa mor ansicr a thrist yw bywyd.

Dechrau’r wythnos dyfarnwyd y cyn-heddwas Derek Chauvin yn euog o lofruddiaeth George Floyd. Syfrdanwyd y byd gan y lluniau o’r llofruddiaeth yn Minneapolis y llynedd a’r protestio byd-eang a ddigwyddodd yn enw ‘Mae Bywydau Duon o Bwys’. Cawsom ein hatgoffa bod hiliaeth yn parhau i fod yn bla yn ein byd a phobl o liw a hil gwahanol yn profi’r ansicrwydd o fyw gyda’r fath ragfarn.   

Yn India, gwaethygodd sefyllfa Covid-19 yn ddirfawr. Bu’r cynnydd yn nifer yr achosion yn frawychus; methodd yr ysbytai ag ymdopi â nifer y cleifion ac arweiniodd prinder ocsigen at filoedd o bobl yn marw.  

Dydd Gwener dilewyd euogfarnau pedwar cyn is-bostfeistr o Gymru yn y Llysoedd Cyfiawnder Brenhinol. Yn gyfan gwbl, roedd dros 700 o is-bostfeistri yn y Deyrnas Unedig wedi cael eu herlyn a’u cyhuddo ar gam o fod wedi twyllo a chadw cyfrifon ffug dros gyfnod o 14 mlynedd. Disgrifiwyd y bennod hon fel un o’r sgandalau mwyaf o ran camweinyddu cyfiawnder yn ein hanes diweddar. Bu’r effeithiau ar fywydau’r is-bostfeistri yn ddychrynllyd gan iddynt brofi straen, afiechyd, tor-priodas a hyd yn oed farwolaethau cyn-amserol.   

Ac yna, ddiwedd yr wythnos, daeth y newyddion trist am y llong danfor a oedd wedi mynd ar goll ym moroedd Indonesia i’r gogledd o wlad Bali gyda chriw o 53 o bobl ar ei bwrdd. Er gwaethaf ymdrechion rhyngwladol, mae’n ymddangos nad oes fawr o obaith bellach o ddod o hyd i’r criw yn fyw.  

Yn ddi-os mae bywyd yn llawn ansicrwydd, siom a thristwch ac nid oes yr un ohonom yn cael ei eithrio o brofiadau fel hyn.    

Ond pan fyddwn yn teimlo fod bywyd yn ein llorio ac yn ein bygwth, diolchwn am yr Un a ddaw atom i ganol ein profiadau i roi i ni o ddiddanwch a chynhesrwydd ei bresenoldeb. Nid yw hyn o anghenraid yn golygu y bydd y sefyllfa yn newid ac anawsterau bywyd yn diflannu, ond yn ei gwmni Ef cawn brofi cadernid a nerth sydd yn ein galluogi i wynebu a goresgyn y sefyllfaoedd mwyaf heriol ac anodd. Dyma’r Duw Atgyfodedig sydd yn ein gosod ar dir cwbl gadarn a sicr na ellir ei chwalu er gwaethaf pob un her. Am hynny, fe ddiolchwn.

Arglwydd Iesu, arwain f’enaid
at y graig sydd uwch na mi,
craig safadwy mewn tymhestloedd,
craig a ddeil yng ngrym y lli;
llechu wnaf yng nghraig yr oesoedd,
deued dilyw, deued tân,
a phan chwalo’r greadigaeth
craig yr oesoedd fydd fy nghân.  (MORSWYN, 1850–93)

Gweddi: O Dduw ein Tad, pan gawn ein llorio gan siomedigaethau bywyd tyrd atom o’r newydd yn dy gadernid a’th nerth.

Wrth inni edrych yn ôl dros yr wythnos a aeth heibio cyflwynwn ger dy fron bawb sydd wedi dioddef o hiliaeth. Gweddïwn dros y sawl sydd yn ymddwyn yn hiliol gan ofyn iti ddangos i ni sut i fyw mewn ysbryd o gariad gyda phob un brawd a chwaer beth bynnag fo eu hil a lliw eu croen.

Gweddïwn dros yr India sydd yng nghanol argyfwng Covid-19 a phob gwlad arall sydd yn ei chael hi’n anodd i reoli lledaeniad y firws. Cofiwn yn arbennig am feddygon a staff yr ysbytai sydd o dan bwysau affwysol wrth iddynt geisio ymateb i holl anghenion y cleifion.

Cofiwn am yr is-bostfeistri a ddioddefodd am flynyddoedd lawer o ganlyniad i’r camweinyddu. Cynorthwya hwy yn awr i ailafael yn eu bywydau.  

Gweddïwn dros deuluoedd criw y llong danfor yn Indonesia. Boed iddynt brofi o dangnefedd dy bresenoldeb yn eu cynnal yn eu galar a’u hiraeth.

A phâr i ninnau hefyd wybod, Arglwydd, yng nghanol pob profiad anodd a ddaw i’n rhan, dy fod ti yn gydymaith cadarn a di-syfl bob amser.

Gras ein Harglwydd Iesu Grist a chariad Duw a chymdeithas yr Ysbryd Glân a fyddo gyda ni oll. Amen.   

Geiriau i’n Cynnal: Tymor y Pasg

MYFYRDOD AR GYFER DYDD SUL, 18 EBRILL 2021

[Diolch i’r Parchg Judith Morris am y myfyrdod isod]

Annwyl gyfeillion,

Gweddi agoriadol: O Dduw ein Tad, a Thad ein Harglwydd Iesu Grist, trown atat o’r newydd gan gydnabod mai Tydi yw awdur bywyd. Diolchwn i Ti am dymor y Pasg ac am neges orfoleddus y bedd gwag. Pâr inni dy weld o’r newydd yn dy wedd atgyfodedig a phrofi o rym a nerth dy bresenoldeb. Yn enw ein Harglwydd a’n Gwaredwr Iesu Grist. Amen.

Darlleniad: Luc 24: 13–35

Myfyrdod: Er bod pythefnos bellach wedi mynd heibio ers dathlu Gŵyl yr Atgyfodiad, yng nghalendr yr Eglwys y mae Tymor y Pasg yn parhau am rai wythnosau eto tan y Sulgwyn. Priodol felly yw dwyn i gof rai o hanesion hyfrytaf y Testament Newydd am yr Iesu yn ymddangos i’w ddisgyblion yn ei wedd atgyfodedig.

Un o’r hanesion hynny yw’r daith i Emaus a gofnodir yn Efengyl Luc. Fe ddywedir mai hon yw stori fer brydfertha’r byd. Mae’n berffaith fel darn o lenyddiaeth, ‘a story of singular charm and grace’, yn ôl un esboniad Beiblaidd. Yn sicr, mae’n stori hyfryd, gyda’r ddau deithiwr a oedd mor ddigalon ac isel eu hysbryd yn cael eu trawsnewid wrth gyfarfod â’r Crist atgyfodedig.

Pentref bach tua 7 milltir a hanner o ddinas Jerwsalem oedd Emaus, yn ddigon agos i’r brifddinas i fod yn rhan o bopeth a oedd yn digwydd yno ond eto’n ddigon pell i osgoi unrhyw gyfrifoldeb petai pethau’n troi’n beryglus. Roedd Cleopas a’i gydymaith ar eu ffordd yno o Jerwsalem ac yn teimlo’n gwbl ddigalon yn dilyn croeshoelio’r Iesu. Yn ystod y daith ymunodd ‘dieithryn’ â hwy a holi pam yr oeddent yn teimlo mor drist. Rhannwyd yr hyn a ddigwyddodd yn Jerwsalem, ynghyd â’r siom o golli cyfaill ac arweinydd arbennig. Ond wrth i’r daith i Emaus barhau, dyma’r ‘dieithryn’ yn dechrau egluro arwyddocâd y croeshoeliad gan gyfeirio at yr Ysgrythurau. Wedi cyrraedd Emaus, estynnwyd gwahoddiad iddo i aros gyda hwy gan ei bod yn nosi. Wrth eistedd o gwmpas y bwrdd yn ystod swper sylweddolodd Cleopas a’i gydymaith ‘ar doriad y bara’ mai Iesu oedd y ‘dieithryn’. Diflannodd yntau yn sydyn o’u golwg ac aeth y ddau ar garlam yn ôl i Jerwsalem i ddweud wrth y disgyblion eu bod wedi gweld Iesu’n fyw.

Mae’r darn hwn yn un o dri sy’n cofnodi sut yr oedd rhai o ddilynwyr agosaf Iesu wedi methu â’i adnabod yn ei wedd atgyfodedig. Pan ddaeth Mair Magdalen wyneb yn wyneb â’r Crist atgyfodedig yn yr ardd ar fore’r Pasg roedd hi’n argyhoeddiedig mai’r garddwr ydoedd. Nid oedd y disgyblion ar lan Môr Tiberias wedi sylweddoli mai Iesu oedd y ‘dieithryn’ ar y traeth ac yma eto yn yr hanes hwn mae Cleopas a’i gyfaill yn cael trafferth i adnabod Iesu. Eto, yn y pen draw, maent i gyd yn llwyddo nid yn unig i’w weld ond i’w adnabod hefyd fel y Crist byw.

Mae hanes y daith i Emaus yn un hynod gyfoethog ac yn gyforiog o wirioneddau oesol. Dyma dri ohonynt.   

Yn gyntaf, mae Cleopas a’i gydymaith yn ein hatgoffa mai taith yw bywyd, neu bererindod yng nghwmni Duw. Hyd yn oed os gwnawn fyw yn yr un lle yn ddaearyddol ar hyd ein hoes, ni allwn sefyll yn yr unfan yn ysbrydol. Mae Duw yn ein gwahodd i fod yn gyd-deithwyr gydag Ef ar y ddaear hon ac i dyfu yn ein hymwybyddiaeth ohono wrth inni ddirnad ei ewyllys. Golyga hyn fod yn rhaid i ni ddyfnhau ein perthynas ag Ef a dod i’w adnabod yn well. Yn union fel y byddwn yn dod i adnabod person arall yn well, gallwn ddod i adnabod Duw yn well. Nid perthynas statig yw’r berthynas hon ond un sydd yn cael ei grymuso o fod mewn cymdeithas gyda’n cyd-Gristnogion.  

Yn ail, mae’r Arglwydd Iesu gyda ni bob cam o’r daith. Fel y dengys yr hanes hwn, er na allai Cleopas a’i gydymaith ei weld yn eu tristwch a’u hiraeth, yr oedd Iesu’n agos iawn atynt. Yr un yw’r gwirionedd heddiw. Mae’r Iesu gyda ni ar holl lwybrau amrywiol bywyd: mae’n bresennol yn ein tristwch, ein galar a’n poen, yn ogystal ag yn ein cyfnodau o lawenydd. Ni fyddwn byth ar ein pennau ein hunain beth bynnag fo’r amgylchiadau sydd yn ein hwynebu. Yn ddi-os fe fydd Ef gyda ni ar y daith ac ni fydd byth yn ein gadael yn amddifad o’i gwmni dwyfol. O dreulio cyfnodau rheolaidd mewn myfyrdod a gweddi gallwn ddod yn fwyfwy ymwybodol o’i bresenoldeb.  

Yn olaf, mae’r hanes yn ein hannog i beidio byth â throi cefn ar Iesu. Er na wyddom beth oedd y rheswm penodol dros fynd i Emaus mae yna ryw awgrym yn yr hanes fod Cleopas a’i gydymaith wedi profi cymaint o siom nes iddynt benderfynu cefnu ar Jerwsalem. Nid oedd pethau wedi datblygu fel yr oeddent wedi gobeithio. Roedd y freuddwyd fawr ar ben a gwell efallai oedd anghofio’r cyfan am weinidogaeth y gŵr o Galilea. Mae’n breuddwydion ninnau hefyd yn aml yn cael eu chwalu, a ninnau’n fynych yn profi siom. O ganlyniad, cawn ein temtio i roi’r gorau i’n ffydd am nad yw bywyd yn ein trin yn deg ac yn garedig. Ond mae hanes y daith i Emaus yn ein herio i beidio â rhoi’r gorau i’n hymlyniad wrth yr Arglwydd Iesu ond i ddal ati yn ffyddlon ac yn gadarn yn ei gwmni ac i weithredu yng ngrym gwirioneddau yr Efengyl. 

Gweddïwn: Diolchwn i Ti, O Dduw ein Tad, am dymor y Pasg ac am neges yr Atgyfodiad. Diolchwn i Ti am yr hanesion hyfryd sy’n cofnodi ymddangosiadau’r Crist atgyfodedig. Cynorthwya ninnau heddiw hefyd i weld y Crist byw o’r newydd yn ein plith.

Tydi, fu’n rhodio ffordd Emaus
rôl torri grym y bedd,
enynna mewn calonnau oer
y fflam o ddwyfol hedd.

Tydi fu’n cerdded gyda’r ddau
i’w cartref wedi’r brad,
cerdd gyda ni bob awr o’n hoes
hyd drothwy tŷ ein Tad.

Tydi, fu’n agor cloriau’r gair
a dangos meddwl Duw,
llefara wrthym ninnau nawr
dy wirioneddau byw.

Tydi fu’n torri’r bara gynt
tyrd eto atom ni
a dwg ni oll o gylch y bwrdd
i’th lwyr adnabod di.  (J. Edward Williams)

Gras ein Harglwydd Iesu Grist, a chariad Duw a chymdeithas yr Ysbryd Glân a fyddo gyda chwi oll. Amen.

Geiriau i’n Cynnal: Canfod a Chredu

MYFYRDOD Y SUL WEDI’R PASG

[Diolch i’r Parchg Peter Thomas am y myfyrdod isod]

Anwyliaid yr Anwel,

Cyfeirir at y Sul wedi’r Pasg yn y Llyfr Gweddi Gyffredin fel Sul y ‘Pasg Bach’ – ‘Low Sunday’ yn Saesneg – a’r teitl hwnnw yn rhyw awgrymu fod yr ŵyl wedi ei dathlu, fod y Pasg drosodd am flwyddyn arall, a’i bod bellach yn amser dychwelyd ac ailgydio drachefn yng ngalwadau arferol bywyd. Ond onid dyna yw’r her a berthyn i bob gŵyl Gristnogol – yr her i ddychwelyd, heb fynd yn ôl, hynny yw bod profiadau’r ŵyl rywsut wedi llwyddo i ddyfnhau’n ffydd ac i’n cyfeirio at lwybrau newydd a gwahanol. 

Yn ddieithriad wrth im deithio’r ffordd fawr sy’n arwain allan o dref Aberystwyth i gyfeiriad Capel Bangor mi fyddaf yn cofio’r oedfa gyfareddol honno o faes Gelli Angharad adeg Eisteddfod Genedlaethol 1992 ac am yr afiaith a brofasom. Y ma’na ryw leoedd felly yn rhan o’n profiad ni i gyd mae’n siŵr – mannau’r profiadau mawr, y profiadau ysbrydol. Er bod dathliadau’r Pasg eleni wedi bod yn wahanol i’r arferol yn hanes y mwyafrif ohonom, eto i gyd fe erys ei neges oesol i’n cyflyru a’n herio.

Ym mis bach 1992 roeddwn yn arwain taith i wlad Israel a buom yn ymweld â llecynnau a oedd gynt ond yn enwau ar dudalennau cyfarwydd. Ond bu sangu’r mannau lle bu ein Gwaredwr yn cerdded ganrifoedd ynghynt a chael olrhain yr hanes a’r digwydd yn wefr cwbl arbennig. Prynhawn Llun o’dd hi, pan ddaethom i’r lle – roedd y bore wedi bod yn un llawn o ran ei brofiadau. Croesi’r môr wrth i’r wawr dorri, ac oedi i ganu emyn cyn glanio’r ochr draw. Dringo wedyn i ben mynydd ac acenion y bregeth a draddodwyd yno unwaith yn llifo i’n clyw wrth ddarllen y penodau o Efengyl Mathew. Ond roedd cael torri’r bara wrth ymyl y trochion a chlywed y tonnau yn bwrw’u hewyn ar y lan yn brofiad a fydd yn aros yn hir yng nghof y rhai oedd yno.

Ar lan môr Galilea yr oeddem y diwrnod hwnnw, yno yn rhannu cymun yn yr awyr agored, a’r profiad yn un ysgytwol wrth inni uniaethu â’r cyfaredd a’r cyffro a deimlodd saith disgybl o gyfarfod yno â’r Crist Atgyfodedig drannoeth y Pasg. Y cyfarfyddiad rhyfeddol hwnnw oedd y sbardun a lansiodd y gymdeithas genhadol fwyaf grymus a welodd y byd erioed, ac y mae acenion y cymhelliad yn dal i gael ei glywed – yn alwad i ddilyn ac i ymgysegru i’r Crist.

Mae’n rhaid inni droi i bennod glo Efengyl Ioan er mwyn canfod y digwydd. Mae’r bennod yn canoli ar brofiadau saith disgybl sydd wedi bod yn pysgota drwy’r nos heb ddal yr un pysgodyn ac wrth iddynt helmio’r cwch i gyfeiriad y lan maent yn gweld dyn yn cerdded y trochion a hwnnw yn eu holi a oedd ganddynt bysgod. Hwythau yn eu hembaras yn gweiddi’n ôl – ‘Sorri, dim un.’ Yna mae’r dyn ar y traeth yn eu cymell i fwrw’r rhwyd eto i’r môr ac o wneud cawsant fod y rhwydau’n llawn.

Wedi glanio, maent yn rhannu brecwast ar y traeth ac yn canfod pwy oedd dyn y trochion – taw ef oedd Iesu a’i fod wedi atgyfodi’n fyw.

Ond mae’r bennod yn mynd yn ei blaen gan nodi’r hyn a ddigwyddodd wedi’r brecwast hwnnw.

Y mae Iesu yn cymryd Pedr o’r neilltu, o gwmni’r gweddill; ma’n nhw’n mynd am dro bach ar hyd y traeth ac medde Iesu wrtho fe: ‘Seimon fab Ioan, a wyt ti yn fy ngharu i yn fwy na’r rhain?’

Sylwch ar yr enw y mae Iesu yn ei alw. Nid Simon Pedr, ond Seimon fab Ioan – a ’dyw Iesu byth yn gwneud dim yn ddibwrpas.

Yr enw a roddodd Iesu iddo fe o’dd Pedr – yr enw hwnnw a gafodd yng Nghesarea Philipi pan ofynnodd Iesu i’w ddisgyblion: ‘Pwy meddwch chwi ydwyf fi?’ Cafwyd mwy nag un ateb, on’d do? Eseia, Jeremeia neu un o’r proffwydi. Ond cyhoeddodd Pedr yn gryf a phendant: ‘Ti yw y Crist, Mab y Duw Byw.’ Ac mae Iesu’n ymateb trwy ddweud: ‘Ti yw Pedr ac ar y graig hon yr adeiladaf fy eglwys.’

Ond dyw E’ ddim yn defnyddio’r enw Pedr fan hyn. Yr hyn y mae Iesu yn ei ddweud wrth holi ei gwestiwn yw: ‘Clyw, dwy’ ddim yn siŵr iawn ynglŷn â thi erbyn hyn; dwy’ ddim yn siŵr ai ti yw’r graig; dwy’ ddim yn siŵr bellach a fedraf adeiladu eglwys arnat ti.’

‘Simon, mab dy Dad – Simon fab Ioan, a wyt ti yn fy ngharu i?’

‘Odw,’ medde Pedr, ‘wrth gwrs fy mod i yn dy garu di.’

Ac yna ymhen rhai munudau mae E’n gofyn y cwestiwn eto: ‘Seimon fab Ioan, a wyt ti yn fy ngharu i?’

Rywsut, fe synhwyrwn wrth ddarllen y brawddegau hyn fod y tensiwn yn cynyddu. Pam? Wel, am ei fod yn sarhad i Iddew fod rhywun wedi amau ei air.

Mi o’dd ei ‘ie’ fe yn ‘ie’ a’i ‘nage’ fe yn ‘nage’ ac ro’dd e’ wedi dweud yn barod: ‘Odw, rwy’ yn dy garu di.’

Ac yna ymhen ychydig amser wedyn, mae E’n gofyn yr un cwestiwn y drydedd waith: ‘Seimon fab Ioan, a wyt ti yn fy ngharu i?’

Ac os do fe! Ma’ Pedr yn colli ei dymer yn llwyr, ac medde fe: ‘Arglwydd, rwyt ti’n gwybod pob peth, ac os nad wyt ti’n gwybod fy mod i yn dy garu di, rwyt ti’n gwybod dim.’

Mae’n ddiddorol sylwi fod Iesu yn holi’r cwestiwn deirgwaith i ddisgybl a oedd rai dyddiau ynghynt yng nghyntedd llys yr Archoffeiriad wedi gwadu ei Arglwydd deirgwaith yng ngŵydd morwynion a gweision.

Ond efallai yn fwy treiddiol yw’r geiriau a ddefnyddir yma.

Yn y cofnod gwreiddiol y gair am gariad sydd yng nghwestiwn y Crist yw’r gair sy’n disgrifio’r cariad rhwng Meistr a Disgybl – agape – y cariad sy’n clymu enaid wrth enaid, y cariad sy’n anwesu’r ysbrydol.

Ond bob tro y mae Pedr yn ateb y cwestiwn, mae’n defnyddio gair gwahanol – philo – ac ystyr hwnnw yw ‘hoffter’ neu ‘gyfeillgarwch’.

Gallwn ni hoffi lot o bethe, ond pan mae Iesu Grist yn galw am ein hymlyniad a’n teyrngarwch mae E’n gofyn am fwy na’n hoffter. Fe eilw am fwy na rhyw ymateb llac – mwy na jyst ein cyfeillgarwch ni. Mae e’n gofyn am ein cariad – gant y cant.

A dyna sy’n digwydd fan hyn; mae Iesu yn dweud wrth Pedr: ‘Os wyt ti o ddifrif yn fy ngharu i, gad y cychod a’r rhwydau a chanlyn fi. Gosod dy flaenoriaethau’n reit. Ti’n gweld, os nad wyf fi yn ca’l y rhan flaenaf yn dy fywyd di, nid wyf am ran yn dy fywyd di o gwbwl.’

Y mae hwnnw’n rhywbeth y mae’n rhaid inni i gyd ei gofio yn glir ac yn aml: os nad yw Iesu yn ca’l bod yn Arglwydd ein bywyd ni, dyw e’ ddim ishe rhan yn ein bywyd ni o gwbwl. Y cyfan neu ddim.

Mae e’n fodlon i ni ga’l y pethe eraill mewn bywyd, ond mae’n rhaid iddo Fe fod yn Arglwydd ar y cyfan i gyd.

Galwad i ymgysegru yw galwad Iesu Grist, nid galwad i statws. Galwad i wasanaeth y Pen-gwas a’r Pen-Arglwydd. Galwad sy’n galw am ymateb ein cariad ni i’w gariad anorchfygol Ef.

Fe ddaw i draethell wiw ein profiad ni,
A’i Air yw’r un fu’n cymell gynt
Y Deuddeg, ’slawer dydd, i fentro hynt
Eu bywyd arno Ef,
A phrofi grym y gwynt sy’n chwythu lle y myn.
A’r un yw’r Neges, ’run yw’r Gwir;
Er treiglo y canrifoedd hir
Ma’r bwriad ’run a fu erioed
I Dduw a Dyn gael cadw oed.  (PMT)

Fy nghofion a’m cyfarchion cynnes, Peter

DARLLENIAD: Ioan 21

GWEDDI: Mawrygwn dy enw, O Dad, fod Iesu Grist yn orchfygwr angau a bedd, yn Arglwydd Bywyd ac yn Arglwydd ein bywyd ni. Yn Un sy’n gyson gamu i ganol ein bywydau’n barhaus. Yno, yng nghanol ei ferw a’i fwrlwm, ei broblemau a’i amheuon, ei bryderon a’i ansicrwydd, ei ofid a’i drais, yn estyn inni o’i dangnefedd a’i nerth. Yno, yn Un i’w ganfod a’i adnabod; yno’n Un i ni ymddiried ynddo, ei garu a’i dderbyn yn Geidwad a Gwaredwr.

GWEDDI’R ARGLWYDD

Geiriau i’n Cynnal: Buddugoliaeth

Myfyrdod ar gyfer Sul y Pasg 2021

[Diolch i’r Parchg Peter Thomas am y myfyrdod isod]

Anwyliaid yr Anwel,

‘Ffrwydrodd bom mewn bws yn Jerwsalem y bore ’ma gan ladd pump ar hugain o bobl.’

Fel yna y cyflwynwyd y newyddion ar donfeddi radio a theledu y bore Sul hwnnw. I lawer, roedd clywed am act arall o derfysgaeth mewn ardal bellennig o’r byd, ymhell, bell o libart eu hiard gefn hwy, yn ddim byd newydd a heb ennyn rhyw lawer o ymateb mae’n siŵr, ond i eraill bu’r newydd yn gyfrwng anesmwythyd a dychryn.

Mae sŵn y bom yn ffrwydro yn dal i acennu yn fy nghlustiau – roeddwn i yn Jerwsalem y bore Sul hwnnw. Yr oedd hi tua ugain munud i chwech; cawsom ein deffro’n sydyn gan y sŵn. Roedd terfysgwr wedi gosod bom ar fws yn cludo pobl i’w gwaith – lladdwyd pump ar hugain o bobl.

Hwnnw oedd diwrnod olaf ein harhosiad yn Jerwsalem – penllanw wythnos gofiadwy wrth i ni ‘sangu’r man lle sangodd Ef’. Wythnos a’i chwpan yn llawn o deimladau a phrofiadau a fyddai’n aros yn hir yn y cof.

Ond gwelsom yr wynebau trist ac ynghanol y gyflafan honno fe ddaethom yn ymwybodol o’n breuder a’n sefyllfa fregus.

Rywsut fe lwyddodd y tensiynau a’r tyndra gwleidyddol sy’n gyson bresennol yn y lle hwnnw i gyffwrdd â’n bywydau ni. Oni allai’n hawdd fod ffrwydriad wedi digwydd ar ein bws ni – i’n grŵp ninnau?

Dim ond deuddydd ynghynt yr oeddem wedi sefyll o fewn llathenni i’r lle y ffrwydrodd y bom a ninnau yn hwyr y prynhawn wedi ein tywys i fan nid nepell o Borth Damascus – i ardd brydferth ac ynddi fedd gwag.

Mae’r ardd wedi ei lleoli yng nghysgod craig a honno ar ffurf penglog – Golgotha yw enw’r lle, y man y credir i’r Crist gael ei groeshoelio, a’r bedd cyfagos mewn gardd, y fan lle y gosodwyd ei gorff i orwedd ar nos Wener y Grog.

Mae Gardd y Bedd Gwag yn fan tawel a thangnefeddus – yn fan i fyfyrio ac i weddïo, yn gyrchfan i bererinion gasglu ynghyd yn nhes y prynhawn. Ond fe ddaeth yn fan llofruddio ac yn fangre trais a marwolaeth.

Tarddodd hen ddialedd a gwrthdaro ar lonyddwch y lle ac ro’dd pobl yn gweiddi, yn sgrechain ac yn wylo yn y lle hwnnw.

Bu’r digwydd yn gyfrwng i greu ynom ofid a dychryn. Digwyddodd y peth ond rhyw dafliad carreg i lawr y ffordd o’r gwesty lle roeddem yn lletya.

Mae’n eironig ar un olwg ein bod wedi llwyddo yn ystod ein hamser yn Jerwsalem, wrth ymweld â’r mannau a gysylltwn â gweinidogaeth Iesu, i gau allan pob meddwl am drais a gwrthdaro, artaith a marwolaeth. Buom yn camu’n hamddenol yng ngwres yr haul dros lethrau Mynydd yr Olewydd ac yn edrych draw dros ddyffryn Cedron i gyfeiriad muriau’r ddinas, a chyda’n dychymyg yn drên buom yn dilyn y criw bychan hwnnw ’slawer dydd – yr un ar ddeg a Iesu ar y blaen – wrth iddynt wneud eu ffordd i lawr y grisiau o’r oruwchystafell, lle y rhannwyd swper y Bara Croyw; i Ardd Gethsemane a’i choed olewydd, lle y cawn Judas, a oedd wedi’i esgusodi ei hun o’r bwrdd, bellach wedi troi’n fradwr ac yn arwain mintai o filwyr i restio Iesu. 

Yr oeddem wedi dringo’r codiad tir i mewn i’r hen ddinas a sefyll yng nghyntedd llys Caiaffas yr archoffeiriad ac wedi dwyn i gof y sham hwnnw o dreial a weinyddwyd yno.

Dringasom balmentydd y Via Dolorosa – ffordd y groes – a chamu i ganol berw’r marchnadoedd bychain a’u hogleuon sawrus sy’n ymylu’r ffordd, ond efallai heb synhwyro mai dyma’r union ffordd y llusgwyd Iesu arni unwaith, ei groen yn blingo o’r chwipiadau a chroesbren wedi cleisio ei ysgwydd a choron ddrain ogylch ei ben ac yntau ar ei ffordd i’w groeshoelio ar fryn tu fas i fur y dref.

Ond, rhywsut ynghanol dinistr a chyflafan y bore Sul hwnnw yn Jerwsalem, yn sgil ffrwydrad y bom, llwyddodd realiti oer dydd Gwener y Grog i’n cyffwrdd ni, ein hanesmwytho, a’n herio.

Mor hawdd yw i ni gamu yn ôl o ddigwyddiadau, i fod yn ddiduedd a di-gonsýrn, i basio’r ochr arall heibio, i osgoi’r cyfrifoldeb a’r dewis.

Ond y mae digwyddiadau’r Pasg hwnnw yn ein gosod ni yn y ffrâm – yn galw arnom ni i wynebu realrwydd y sefyllfa a thystio gyda’r Canwriad hwnnw wrth droed y groes: ‘yn wir, Mab Duw oedd y gŵr hwn.’ Taw ef yw’r Crist croeshoeliedig a fu farw trosom a thros ein pechodau ni. Mai ef yw’r Un a wireddodd broffwydoliaeth Eseia; ‘efe a archollwyd am ein camweddau ni, efe a ddrylliwyd am ein hanwireddau ni; cosbedigaeth ein heddwch ni oedd arno ef, a thrwy ei gleisiau ef yr iachawyd ni …’

Shwd forthwyl o’dd e’, tybed, fu’n dyrnio’r hoelion dur?
Shwd hoelion o’dd y rhai fu’n brathu’r dwylo pur?
Shwd bren a gas ’i iwso i hongian Brenin Ne’?
Shwd ddrain a gaed yn goron a’i sigo yn ’i lle?


A beth a dda’th o’r pethe a iwswyd yno’n syn
I grogi T’wysog Bywyd ar fythgofiadwy fryn?
Mae’r ordd yn rhwd yn rhywle, a’r hoelion yn rhy frau
I gario llwyth cyn drymed, o bechod byd a’i fai;
A phydru wna’th y plethyn fu’n goron gylch ’i ben,
A rhan o lwch yr amser, mae’n siŵr, yw’r trawstiau pren.
Ond rhywsut maent yn atgof, na fyn yn angof fod
O’r hyn sy’n drech nag angau, ac iddo Fe ma’r clod.
A phan fydd rh’wyn yn holi – ‘Shwd bethe ro’ nhw wir?’
Drwy’r gêr fu ar Galfaria – da’th BYWYD– dyna’r gwir.   (P.M.T.)

Yn y digwydd hwnnw y mae dirgelwch cred. Y groes yw canolbwynt ein ffydd. Fe ddengys yn glir nad dysgeidiaeth nac athrawiaeth na moeseg yw sail ein hymlyniad ond gweithred waredol Duw ar y groes. Duw yn achub y byd, yn ein prynu i fywyd trwy ei waed – ‘A thrwy ei gleisiau ef yr iachawyd ni.’

Felly, nid holi’r cwestiwn ‘Beth y mae Duw yn ei geisio gennym?’ yw hanfod blaenaf ein ffydd, ond cydnabod yr hyn a wnaeth Duw trosom ni: ‘Yr oedd Duw yng Nghrist yn cymodi’r byd iddo ef ei hun.’

Ef yw’r Un a fedr ddod i’n hymyl ni y Pasg hwn a’i air fydd yr un fu’n cymell gynt y deuddeg ’slawer dydd i fentro hynt eu bywyd arno ef.

Tybed a fydd ein clustiau ni yn ddigon agored i’w glywed, a’n llygaid i’w weld? A fydd y ffigwr unig hwnnw ar groesbren yn abl i gyffwrdd â’n bywydau ni a dod yn ffrind ac yn Waredwr i ni?

Ac a fyddwn ni ymhlith y rhengoedd hynny ar draws y byd fydd yn rhannu’r disgwyliad gogoneddus a ddaeth gyda gwawr y Trydydd Dydd? – ‘Yr Arglwydd a gyfododd, efe a gyfododd yn wir.’

Mae’r emyn ‘Were you there when they crucified my Lord?’ yn ein holi ni:

A oeddem yno pan groeshoeliwyd f’Arglwydd cu?
A oeddem yno pan yr hoeliwyd ef i’r pren?
Weithiau mae’n peri imi gryndod, cryndod, cryndod!
A oeddem yno pan osodwyd ef mewn bedd?
A oeddem yno pan gododd ef yn fyw?

Boed i realrwydd y Pasg a’i neges rymus am goncwest a buddugoliaeth dreiddio’n ddwfn i’n calonnau fel bod modd inni droi’n dystion o’r digwydd ac o Atgyfodiad Iesu Grist o’r bedd.

Bendithion y Pasg, cofion cynnes, Peter

DARLLENIADAU: Eseia 53; Mathew 28.

GWEDDI: ‘Yr Arglwydd a gyfododd, efe a gyfododd yn wir.’

O Dad, mawrygwn dy enw am genadwri Sul y Pasg, am fedd gwag ac Arglwydd Byw, Atgyfodedig, yn Waredwr a Gorchfygwr. Helpa ni i droi’n dystion o’r digwydd, i amlygu ei fywyd Ef yn ein bywydau ni ac i gyflwyno’r gobaith na fedr dim oll ein gwahanu ni oddi wrth dy gariad yng Nghrist Iesu ein Harglwydd. Amen.

GWEDDI’R ARGLWYDD

Geiriau i’n Cynnal: Ystafell

Myfyrdod ar gyfer Sul y Blodau 2021

[Diolch i’r Parchg Peter Thomas am y Myfyrdod isod]

Anwyliaid yr Anwel,

Mae’n Sul y Blodau unwaith eto, penllanw’r Grawys a chychwyn yr Wythnos Fawr. Ar y Sul hwn flwyddyn yn ôl yr oeddem ond yn cychwyn cynefino â rheolau’r cloi lawr cyntaf yn sgil lledaeniad Coronafirws. Prin fyddai neb wedi breuddwydio bryd hynny ganlyniadau niweidiol yr haint fyddai’n crymanu’n rheibus drwy’n cymunedau ac yn difa bywydau cynifer. Bu’n flwyddyn o gyfyngu ar weithgaredd ac o ymgadw rhag ymgynnull mewn niferoedd, o ymbellhau ac o warchod. Blwyddyn pan gofiwn am ymroddiad y gwasanaethau gofal mewn ysbytai a chartrefi gofal ac am ymdrechion gwirfoddol a chonsyrniol o fewn ein cymunedau.

Yn draddodiadol mae’r Sul hwn yn gyfle i roi blodyn ar fedd ac i gofio am anwyliaid. Eleni, ma’na gymaint mwy o feddau, a chymaint mwy o deuluoedd yn hiraethu a chymaint o ystafelloedd gwag ar aelwydydd o ganlyniad.

Stafell Gynddylan ys tywyll heno,
Heb dân, heb wely;
Wylaf wers; tawaf wedy. 

Geiriau agoriadol cân Heledd o’r nawfed ganrif sy’n disgrifio’r ystafell honno yn llys Pengwern ym Mhowys yn dilyn marwolaeth ei brawd – y brenin Cynddylan – ar faes y gad. Ystafell a ddaeth i gynrychioli dinistr, anfadwaith a cholled.

Lleoedd diddorol yw stafelloedd, a bydd camu iddynt yn creu ynom ddyhead ar adegau i’r muriau hynny lefaru gan ddatgelu’r profiadau a’r cyfrinachau a rannwyd o’u mewn. Ac er mai rhyw ddyhead gwag i bob pwrpas ydyw peth felly, gan nad oes i furiau na chlustiau na llais, eto i gyd mi fyddai’n dda gennym wybod shwd rai oeddynt – y rhai a fu yno gynt yn creu cwmnïaeth a chymdeithas o’u mewn, eu sgwrs a’u hymddiddan, naws y cyffwrdd, y cofleidio a’r croesawu, nes codi ynom ninnau hefyd yr hiraeth hwnnw y soniodd Waldo Williams amdano: ‘yr hiraeth am eich nabod chi bob un’.

Ymdeimlad felly a ddaw i ran nifer fawr o bobl wrth iddynt ddringo’r grisiau cerrig hynny, nid nepell o borth Damascus yn ninas Jerwsalem, sydd yn eich arwain o’r stryd islaw i oruwchystafell, y man a’r lle y rhannwyd swper ynddo unwaith.

Oriau hunllefus oedd y rhai a ddilynodd cyfeillach yr ystafell honno; dilewyd gobeithion a chwalwyd holl gastelli bywyd y disgyblion.

Daeth y groes a’i waradwydd yn ddychryn ac yn siom, ac er i’r hunllef droi’n orfoledd gwyllt mewn tridiau, a bedd gwag yn faen gobaith, eto fe dreiddiodd y digwydd a’r dweud, y geiriau a’r arwyddion yn ddwfn i galonnau ac i eneidiau Ei ddilynwyr syn.

Ac i Ioan yr ydym yn ddyledus am osod ar gof a chadw yn ei Efengyl brofiadau’r ystafell honno ar nos Iau Cablyd wrth i Iesu a’i ddisgyblion gasglu ynghyd i ddathlu Gŵyl y Bara Croyw.

Ioan sy’n rhyw gilagor drws yr ystafell i ni fel petai, er mwyn i ni syllu mewn cyfaredd ar y digwydd a chlustfeinio ar y dweud oddi mewn.

Yno o gylch y bwrdd ma’na un disgybl ar ddeg; ma’na un ohonynt wedi codi ac wedi mynd allan i’r nos i gynllwynio a bradychu, ond mae’r gweddill yno, ac y mae Iesu yno, ac o’i gylch Ef y try holl ddrama a digwydd yr ystafell.

Ma’r swper bellach wedi dod i ben, ac arwyddocâd arbennig wedi ei leisio mewn perthynas â rhai o’r elfennau a rannwyd yn y wledd gofiadwy honno: y bara a’r gwin – y cyfryngau cyffredin, grymus hynny a fyddai yn ysgogi cof ei ddilynwyr Ef ym mhob cenhedlaeth, ‘y cof am Galfaria ac aberth y groes’.

Ond yna, mae ystafell y dathlu a’r cofio yn dod yn ystafell y plygu a’r taeru, wrth i Iesu eiriol dros ei ddisgyblion gerbron ei Dad.

Yn yr ail bennod ar bymtheg o’i Efengyl y mae Ioan yn crynhoi cynnwys y weddi. Mae’n weddi sy’n datgelu perthynas Tad a Mab. Mae’n weddi sy’n deisyf ac yn eiriol – fe dynnir iddi ddisgyblion dyddiau’i gnawd, ynghyd â’r rhai ymhob cenhedlaeth fydd yn arddel yr enw hwnnw sydd uwchlaw pob enw arall; ac ma’na alw ynddi i neilltuo a gwarchod a gwneud yn un.

Yn y penodau sy’n blaenori’r bennod hon mae Iesu wedi bod yn calonogi ei ddilynwyr, yn eu paratoi ar gyfer yr hyn a oedd i ddigwydd; mae wedi bod yn sôn wrthynt am addewid ei Ysbryd – ‘Ysbryd y Gwirionedd a fyddai yn eu harwain i bob gwirionedd.’ Ond yn awr mae Iesu’n troi ei olygon at ei Dad nefol ac yn cyflwyno ger ei fron ef y criw brith, ofnus yma oedd wedi bod gydag ef yn ystod blynyddoedd ei weinidogaeth – y rhai a fu’n rhannu gydag ef brofiadau cyffrous ac ysgytwol y weinidogaeth honno, y rhai y bu ef yn eu gwarchod a’u cyfarwyddo.

Yn oedfa’r oruwchystafell mae Iesu yn eiriol dros y rhai sy’n dal perthynas ag ef ac yn tystio i’w enw.

Nid wyf yn gweddïo ar i ti eu cymryd allan o’r byd, ond ar i ti eu cadw’n ddiogel rhag yr un drwg. Nid ydynt yn perthyn i’r byd, fel nad wyf finnau’n perthyn i’r byd. Cysegra hwy yn y gwirionedd. Dy air di yw’r gwirionedd. (Ioan 17:15–17)

Sylwch, nid yw Iesu’n gofyn i Dduw eu lapio nhw mewn gwlân cotwm na’u gosod o afael pawb a phopeth. Ro’dd yn gwybod yn iawn y byddent yn siŵr o brofi anawsterau a gofidiau ac ofnau; nid eu cymryd hwy allan o’r byd yw’r bwriad – y byd oedd maes eu gweithgarwch a’u hymwneud, maes eu cenhadaeth a’u tystiolaeth i’r Enw ac i’r gwirionedd.

Yn hytrach, mae’n gofyn i Dduw eu cadw rhag yr un drwg – ma’na adlais o eiriau’r salmydd fan hyn: ‘Ni ad efe i’th droed lithro ac ni huna dy Geidwad. Ni huna ac ni chwsg Ceidwad Israel.’

Ac y mae’r Apostol Paul yn ei lythyr at yr eglwys yn Effesus yn cyflwyno’r un meddylfryd: ‘Gwisgwch amdanoch holl arfogaeth Duw, er mwyn i chwi fedru sefyll yn gadarn yn erbyn cynllwynion y diafol … ac wedi cyflawni pob peth, sefyll yn gadarn.’

A dyna yw craidd eiriolaeth Iesu Grist dros ei ddisgyblion yn y weddi hon yn yr ystafell honno: ar iddynt fod yn feddiannol o’r arfogaeth unigryw hwnnw er mwyn iddynt fedru sefyll a thystio – i fod yn eglwys Crist yn y byd.

Nid lle yw’r eglwys, ond pobl. Nid corlan, ond praidd. Nid adeilad cysegredig ond cynulliad crediniol, a rhaid i’w eglwys gofio ym mhob oes taw ei adeiladwaith Ef ydyw hi.

Yn y weddi honno mewn goruwchystafell ar drothwy cyflafan Calfaria, a’r  groes a’r dioddefaint wrth yr adwy, fe gwyd eto’r anogaeth i’w ddilynwyr rannu’r undod hwnnw sy’n cyfannu a thynnu ynghyd, yn clymu ac eto’n rhyddhau. Mae’n gweddïo ar iddynt fod yn ‘UN’ – i fyw mewn undod â’i gilydd.

Ar hyd y canrifoedd y mae’r eglwys wedi cael ei rhannu gan enwau dynion. Llwyddodd enwau Paul, Apolos a Ceffas i rannu’r eglwys yng Nghorinth, ac mae enwau Acweinas, Luther, Calfin, Newman, Wesle wedi rhannu’r eglwys ers hynny. Os dyrchefir enwau dynion nes i bobl eu gweld mewn goleuni amgenach na gweision y Crist Croeshoeliedig, yna mi fydd yr eglwys yn ymrannu; ond os dyrchefir enw’r Crist uwchlaw pob enw arall, fe ddaw’r eglwys ynghyd.

Yn enw’r Crist fe’n hunir – yn enw Crist y saif ei eglwys gerbron y byd yn rym i newid bywydau ac i achub eneidiau. A daw’r undod hwnnw nid drwy orchest neu ymdrech ond trwy wasanaeth a gostyngeiddrwydd – a dyna yw’r gyfrinach y mae’r ystafell hon yn ei datgelu. Mewn gostyngeiddrwydd a gwasanaeth yr amlygir yr undod hwnnw ar ei orau. Trwy oddef ein gilydd a rhannu â’n gilydd mewn cariad y mae sylweddoli dibenion ei deyrnas Ef.

Gellir holi: pam arddel yr enw? Pam yr angen i ymgysegru i waith? Pam yr angen i fod yn un? Mae’r ateb yng nghlo’r ail bennod ar bymtheg o Efengyl Ioan: ‘Er mwyn i’r byd gredu.’ A dyna, medd Ioan, oedd y bwriad dros gofnodi’r geiriau, y geiriau a rannwyd unwaith mewn ystafell, geiriau’r Crist wrth iddo eiriol ar ran ei eglwys ddoe a heddiw – ar i ni arddel yr enw ac ymgysegru i’r enw a bod yn un drwy’r enw i rannu i’r byd dystiolaeth o’r Un sy’n ein caru a’n gwaredu.

Boed inni brofi o’i gwmnïaeth a’i arweiniad wrth inni fyfyrio ar ddigwydd yr Wythnos Fawr, y Groglith a’r Pasg.

Gyda’m cofion cynhesaf, Peter

Darlleniadau: Salm 121; Ioan 17; Effesiaid 6:13.

Gweddi: Diolch i ti, O Dad, am ddyfodiad yr Wythnos Fawr ym mhenllanw’r Grawys. Arwain ni trwy ein defosiwn a’n myfyrdod i gadw ffydd â’r Crist a fu’n eiriol tros ei ddisgyblion a thros ei ddilynwyr ymhob oes. Pâr i ni arddel yr enw, i ymgysegru i’w waith a’i wasanaeth ac i gael ein huno’n un ynddo. Ar drothwy’r Pasg gad i ni olrhain o’r newydd y ‘llwybrau a gerddodd Efe’ ac mewn dwyster a rhyfeddod i sylweddoli mai trosom ni y ‘rhoes Efe ei ddwylo pur ar led a gwisgo’r goron ddrain’. Ac er bod ugain canrif yn gwahanu’r digwydd, gad i ni, O Dad, brofi cymdeithas ei ddioddefiadau, a grym ei atgyfodiad ym mhrofiadau’r funud hon. Amen.

Gweddi’r Arglwydd

Geiriau i’n Cynnal: Sul y Dioddefaint

Myfyrdod ar gyfer Dydd Sul, 21 Mawrth 2021

[Diolch i’r Parchg Judith Morris am y myfyrdod isod]

Annwyl gyfeillion,

Gweddi agoriadol: O Dduw ein Tad, a Thad ein Harglwydd Iesu Grist, trown atat gan gydnabod mai Tydi yw awdur bywyd. Ti yw’r Duw Hollalluog a’r Sanctaidd Un. Dyro i ni brofi yn awr o’th bresenoldeb dwyfol wrth i ni blygu ger dy fron mewn gweddi a myfyrdod. Gwna ni’n ymwybodol o’th gwmni yn ein cynnal ac yn ein gwroli. Cynorthwya ni i dreiddio’n ddyfnach i wirioneddau mawr y ffydd Gristnogol ac i werthfawrogi o’r newydd maint dy gariad trosom. Yn enw ein Harglwydd a’n Gwaredwr Iesu Grist. Amen.

Darlleniad: Luc 23: 26–49

Myfyrdod: A glywsoch chi erioed am Ffaldybrenin yng Nghwm Gwaun, Sir Benfro? Mae’n ganolfan encil a thŷ gweddi a bûm yno droeon yng nghwmni fy nghyd-weinidogion a chyd-aelodau. Mae’n bosib mynd yno am ddiwrnod, neu fe ellir aros am ychydig o ddyddiau a mwynhau cyfle i weddïo a gorffwys ynghanol prydferthwch Cwm Gwaun. Yn wir, dyma le i enaid gael llonydd. Disgrifiwyd Ffaldybrenin gan rai fel ‘a thin place’, man lle’r mae’r ffin rhwng daear a nefoedd yn ‘denau’ a phresenoldeb Duw yn agos a bron yn gyffyrddadwy. Ar hyd yr amser, bu pobl yn chwilio am lecynnau arbennig fel hyn lle mae’n haws ymdeimlo â phresenoldeb Duw er mwyn derbyn cysur ac arweiniad. Bu rhai yn dringo mynyddoedd ac yn chwilio am Dduw ar y copaon neu’n ceisio ei bresenoldeb yng nghyfoeth byd natur. Bu eraill yn pererindota ar hyd llwybrau hynafol ac yn ymdeimlo ag agosatrwydd Duw mewn capeli ac eglwysi diarffordd fel Soar y Mynydd neu Pennant Melangell.

Mae’r Beibl ar ei hyd yn cyfeirio at gymeriadau di-ri a ddaeth yn ymwybodol o bresenoldeb Duw ar adegau arbennig yn eu bywydau. Wrth weld y berth yn llosgi, ond eto heb ei difa, clywodd Moses yr Arglwydd Dduw yn siarad ag ef; sylweddolodd y bachgen ifanc Samuel nad yr offeiriad Eli oedd yn galw arno ond Duw ei hun; daeth Elias yn ymwybodol o bresenoldeb Duw ar fynydd Horeb yn y distawrwydd ac mae’r Salmydd droeon yn tystio i bresenoldeb yr Arglwydd yn ei fywyd.

Wrth droi at y Testament Newydd gwelir presenoldeb Duw yn amlwg yng ngwaith ac ym mywyd yr Arglwydd Iesu. Roedd Teyrnas Dduw yn agos wrth i unigolion gael eu hiacháu yn ysbrydol ac yn gorfforol, ac wrth i’r Iesu bregethu a dysgu. Yn ddiau, uchafbwynt gwaith Iesu oedd ei farwolaeth ar Galfaria ac yn y digwyddiad hwn o bosib y deuir at y man hwnnw lle mae’r ffin rhwng daear a nef ar ei theneuaf.  

Wrth ddarllen yr adroddiad am farwolaeth Iesu yn Efengyl Luc roedd yn amlwg fod y nef ar waith a Duw ei hun yng nghanol y cyfan: syrthiodd tywyllwch dros yr holl wlad hyd dri o’r gloch y prynhawn, rhwygwyd llen y deml yn ei chanol ac, er gwaethaf y poen a’r dioddefaint erchyll, cyflwynodd Iesu ei ysbryd i ofal ei Dad nefol. Dywedodd Eduard Schweizer: ‘Nid cri o anobaith oedd geiriau Iesu, ond mynegiant o ymddiriedaeth ffyddlon. Yr oedd Iesu wedi cael ei draddodi i ddwylo dynion, ond mae’n ei gyflwyno ei hun i ddwylo ei Dad.’ Mae adroddiad Luc hefyd yn cyfeirio at y canwriad, y milwr Rhufeinig, a dystiodd mai dyn cyfiawn oedd Iesu, yn gwbl rydd o gasineb, dicter a hunandosturi. At hynny, fe aeth yr holl dyrfaoedd a oedd wedi ymgynnull i wylio’r olygfa adref gan guro eu bronnau, yn amlwg wedi’u dwysbigo gan farwolaeth Iesu. Roedd Duw yn bresennol ac ar waith hyd yn oed ar yr awr dywyllaf un.

Cawn ninnau gyfle eleni eto i fynd i Galfaria, y ‘lle tenau’, ac i blygu gerbron y groes i gofio am yr aberth ac i ddiolch am y bywyd newydd sydd i’w gael ym marwolaeth Mab Duw.

Dacw’r nefoedd fawr ei hunan
nawr yn dioddef angau loes;
dacw obaith yr holl ddaear
heddiw’n hongian ar y groes:
dacw noddfa pechaduriaid,
dacw’r Meddyg, dacw’r fan
y caf wella’r holl archollion
dyfnion sydd ar f’enaid gwan.  (William Williams, 1717–91)

A hithau heddiw yn Sul y Dioddefaint awn i Galfaria, lle mae’r ffin rhwng y nefoedd a’r ddaear mor denau. Gwrandawn o’r newydd ar hanes y croeshoeliad. Oedwn a myfyriwn ar yr hyn a ddigwyddodd. Ymdeimlwn â phresenoldeb y Crist byw yn ein calonnau yng nghysgod y ‘nefoedd fawr ei hunan’.

Gweddïwn: Diolch i Ti o Dduw, ein Tad, am gyfle i droi atat o’r newydd. Diolchwn am dy Air ac am dy arweiniad. Diolch am dy ofal trosom. Cyflwynwn ger dy fron y sawl sydd yn cael bywyd yn anodd. Cofiwn am bawb sydd yn anhwylus, mewn profedigaeth a galar ac yn teimlo’n amddifad o gwmni anwyliaid a chyfeillion. Nertha hwynt a chynnal eu breichiau.

Maddau i ni ein holl feiau a chynorthwya ni i fyw yn unol â’th ewyllys, ac wrth inni agosáu at yr Wythnos Fawr cynorthwya ni i blygu o’r newydd ger dy fron mewn rhyfeddod pur.  

Gras ein Harglwydd Iesu Grist, a chariad Duw a chymdeithas yr Ysbryd Glân a fyddo gyda chwi oll. Amen.

Geiriau i’n Cynnal: ‘Mam’

Myfyrdod Sul y Mamau 2021

[Diolch i’r Parchg Peter Thomas am y myfyrdod isod]

Anwyliaid yr Anwel,

Efallai bod tuedd ynom i ystyried y Grawys yn gyfnod mwy syber a thrist na gweddill tymhorau’r calendr eglwysig; yn gyfnod o ddisgyblaeth, o ymprydio ac ymbaratoi wrth inni gyfeirio’n pererindod i gyfeiriad y Pasg a dwyn i gof groeshoelio’r Crist, ei aberth a’i ddioddefaint. Ond yna’n sydyn, yn blwmp yn ei ganol, fe ddown at y Sul hwn – y pedwerydd yng nghyfnod y Grawys, yn Sul y cyfeirir ato fel Sul y Fam.

Mam, fy anwylyn a’m hedd
A gwrthrych fy edmygedd;
Ei hanian yn fy neunydd brau
A’i gwaed yn fy ngwythiennau,
Ac yng nghôl ei chariad hi
Roedd o hyd ymgeledd imi.  (PMT)

Acenion, mae’n siŵr, y medr y rhelyw ohonom uniaethu â nhw wrth inni feddwl am ein mamau, am y cariad a’r gofal a rannwyd ganddynt, eu hymdrech a’u cefnogaeth a bod mesur helaeth o’r hyn ydym yn gynnyrch dylanwad mam.

Y ma’na ddihareb Iddewig sy’n nodi (gyda thafod mewn boch): ‘Gan na fedr Duw fod ym mhobman, fe greodd famau!’, ac mae’n dda cael neilltuo Sul penodol i gofio, i gydnabod ac i ddiolch am ddylanwad a gofal – Mam.

Yn wahanol i’r arfer yn yr Unol Daleithiau o ddathlu Dydd y Fam ar ddyddiad penodol, y mae Sul y Mamau yn yr ynysoedd hyn yn rhan annatod o’r calendr eglwysig.

Yn hanesyddol, roedd y Sul yn gyfle i weision a morwynion a oedd mewn gwasanaeth gael egwyl er mwyn dychwelyd adref a bwrw’r Sul yng nghwmni eu mam, a chafwyd cyfle i blant mewn ysgolion preswyl yn yr un modd dreulio’r dydd gyda’u mamau.

Y mae’r arfer o gyflwyno cacennau simnal yn gysylltiedig â’r Sul hwn – gan gofio taw mam, mae’n siŵr, a baratôdd y pecyn bwyd o bum torth haidd a dau bysgodyn i’w phlentyn a bod hwnnw o’i gyflwyno wedi bod yn gynhysgaeth yn nwylo’r Crist i borthi’r pum mil.

Mae’n siŵr fod gan y Gwaredwr ei hunan feddwl go arbennig o’i fam ddaearol: Mair, ‘yr hon a gadwodd yr holl bethau hyn,’ meddai’r Gair, ‘gan eu trysori yn ei chalon.’ A dyna chi stôr o brofiadau ac atgofion oedd gan hon.

Fe gofiwn iddi hi a Joseff fynd â’r baban Iesu i’w gyflwyno yn y deml yn unol â deddf puredigaeth yr Iddew a’u bod wedi cyfarfod yno â hen ŵr duwiol o’r enw Simeon a’i fod yntau wedi cymryd y plentyn yn ei freichiau ac wedi bendithio Duw: ‘Yr awr hon, Arglwydd, y gollyngi dy was mewn tangnefedd yn ôl dy air, canys fy llygaid a welodd dy iachawdwriaeth …’ Simeon hefyd sy’n rhagfynegi y byddai ei fam yn ei thro yn profi ei siâr hithau o ofidiau a phryder: ‘A byddi di’n dioddef hefyd, fel petai cleddyf yn trywanu dy enaid.’ (Luc 2:35)

Gwireddwyd y dweud hwnnw droeon, mae’n siŵr, wrth iddi dystio i ymateb adweithiol tyrfa neu unigolyn yn ystod gweinidogaeth Iesu. Ond efallai yn fwy dirdynnol yw’r ymadrodd hwnnw ar derfyn efengyl Ioan lle y nodir fod Mair mam Iesu ymhlith y tystion syn i’w ddioddefaint ar y groes: ‘yn ymyl croes Iesu yr oedd ei fam yn sefyll.’ (Ioan 19:25)

Yn y drydedd ganrif ar ddeg cyfansoddodd mynach Ffransisgaidd o’r enw Jacopone da Todi emyn o fawrhad i Fair mam Iesu, ac yna yn y ddeunawfed ganrif cyfansoddodd y cerddor Giovanni Pergolesi ddarn o gerddoriaeth gysegredig yn seiliedig ar y geiriau. Cyfeiriwyd at y gwaith fel ‘Stabat Mater’. Daw’r teitl o eiriau agoriadol yr emyn: ‘Stabat mater doloroso …’

‘Wrth y groes, er gwaetha’i thrallod, Mair ei fam a ddeil i warchod. Yno’n gwylied yn ei dagrau Mab ei mynwes yn ei glwyfau.’ (cyf. PMT)

‘Pan welodd Iesu ei fam yn sefyll wrth droed y groes a’r disgybl yr oedd Iesu’n ei garu yn sefyll gyda hi, meddai wrth ei fam, “Mam annwyl, cymer e fel mab i ti,” ac wrth y disgybl, “Gofala amdani hi fel petai’n fam i ti.”’ (Ioan 19:26) (beibl.net)

Bron yn ddieithriad wrth i mi ddarllen y geiriau hynny yn efengyl Ioan, y maent yn llwyddo i gyflyru’r emosiwn ac efallai yn fwyfwy eleni.

Yn arferol mi fyddai’r Sul hwn yn gyfle i deuluoedd ymgynnull a rhannu, i gyflwyno cardiau cyfarch a rhoddion yn fynegiant o’u serch a’u cariad.

Rwy’n ymwybodol hefyd fod yna ddwyster a thristwch yn rhan o ddigwydd y Sul hwn eleni o gofio fod cynifer o deuluoedd wedi colli anwyliaid yn ystod y flwyddyn o ganlyniad i effeithiau brawychus haint y coronafirws a chyfran uchel o famau yn eu plith.

Efallai fod rhai o’r farn fod dathliad tawelach a llai masnachol i’w groesawu, gan hepgor y torchau blodau a’r siocledi arferol.

Ond os medrwn gamu’n ôl am ennyd i ystyried arwyddocâd y dydd a synhwyro ei neges, fe’i gwelwn yng nghyd-destun ein pererindod trwy gyfnod y Grawys a’i weld yn gyfle i gynnal breichiau, i estyn tosturi a chydymdeimlad ac i ennyn perthynas ac adnabyddiaeth.

Wrth droed y groes y mae Iesu yn ymddiried gofal ei fam i Ioan y disgybl annwyl ac i’w fam yn ei thro dderbyn Ioan fel mab. Yn y weithred honno gwelwn gnewyllyn yr hyn yw eglwys – sef pobl sy’n rhannu’r argyhoeddiad taw Iesu yw Mab Duw a Gwaredwr y Byd, yn camu i berthynas â’i gilydd ac yn dod yn deulu’r ffydd. Yno wrth droed y groes y mae cymuned ffydd yn cael ei ffurfio, perthynas newydd yn cael ei chreu – ynghanol trallod, gofid ac ing yr amgylchiadau y mae llaw yn cael ei hestyn, braich yn cofleidio, cysur yn cael ei fynegi.

A dyma yw dilysnod yr eglwys ar hyd y cenedlaethau – cariad, cymorth, caredigrwydd, lletygarwch.

Mewn dyddiau ansicr bydd yr elfennau hynny yn fodd i’n cynnal a’n calonogi wrth inni gyda’n gilydd gyfeirio’n taith ymlaen i gyfeiriad y Pasg, ei oruchafiaeth a’i obaith.

Y mae geiriau emyn Richard Gillard yn fynegiant o’r hyn yw cymuned ffydd ac o’n cyfrifoldeb i estyn cymorth a thosturi wrth inni gerdded ymlaen:

Brother, sister, let me serve you,
Let me be as Christ to you,
Pray that I may have the grace
To let you be my servant too.
We are pilgrims on a journey
And companions on the road,
We are here to help each other
Walk the mile and bear the load. (R.G.)

Brawd a chwaer, gad imi weini,
Gad im fod fel Crist i ti,
A boed imi’n rasol dderbyn
Dy gynhorthwy parod di.
Pererinion ar ein trywydd,
Cyd-ymdeithwyr law yn llaw,
Yma ’nghyd i helpu’n gilydd,
Rhannu’r baich beth bynnag ddaw.
(addasiad PMT)

Gyda’m cofion cynhesaf atoch i gyd, Peter

Darlleniadau: Eseia 66:13–14; 49 15; Diarhebion 3:10–31; Luc 2: 22–35, 51; Ioan19:25–27.

Gweddi: Mawrygwn dy enw, O Dad, am Sul y Mamau, yn ddydd i goffáu ac i ddiolch am gariad mam, am eu hymdrech a’u haberth, eu cyfarwyddyd a’u cyngor ac am y dylanwad o’u bywyd a roes gyfeiriad i’n bywydau ni.

Diolch am fywyd Mair, mam Iesu. Helpa ni i efelychu ei hesiampl a’i hymroddiad, dyfnha ein cred a chrea ynom y parodrwydd i estyn llaw a rhannu baich, i gynnal a chysuro yn enw Crist, Arglwydd ein bywyd, Amen. 

Gweddi’r Arglwydd

Geiriau i’n Cynnal: ‘Llythyr’

Myfyrdod ar gyfer dydd Sul 7 Mawrth 2021
[Diolch i’r Parchg Peter Thomas am y myfyrdod isod]

Anwyliaid yr Anwel,

Ychydig dros wythnos yn ôl ymddeolodd Mrs Menna Jones o’i swydd fel rheolwraig swyddfa Undeb Bedyddwyr Cymru ar ôl cyflawni dros ugain mlynedd o wasanaeth egnïol. Menna oedd fy ysgrifenyddes bersonol i yn dilyn fy mhenodiad yn Ysgrifennydd Cyffredinol yr Undeb yn niwedd 2004 ac os bu ysgrifenyddes ddelfrydol erioed, wel, yn ddi-os, Menna oedd honno ac rwy’n ddyledus iddi am ei dygnwch, ei chymorth a’i theyrngarwch trwy gydol y degawd y bûm i wrth y llyw.

Roedd cyfran helaeth o’m gwaith fel Ysgrifennydd Cyffredinol yn cael ei dreulio bob wythnos yn llunio llythyron. Câi’r llythyron swyddogol eu teipio ar bapur pennawd yr Undeb tra byddai’r gweddill yn cael eu danfon fel e-byst a’u gwibio’n electronig ar hyd rhwydweithiau’r We heb yr angen am stamp nac amlen.

Roedd cynnwys y llythyron hynny’n amrywio’n fawr. Y mwyafrif ohonynt yn ymateb i geisiadau unigolion ac eglwysi am wybodaeth neu gyfarwyddyd. Mi fyddai eraill yn cario cyfarchion yr Undeb i achlysuron penodol, boed yn ddathliad eglwysig neu’n gwrdd neilltuo gweinidog. Ambell lythyr wedyn yn gyfle i fynegi llawenydd neu’n gyfrwng i gyfleu cydymdeimlad yn dilyn profedigaeth, ac yna, nawr ac eilwaith mewn gwewyr, bu’n rhaid llunio ymateb i ambell lythyr llym o feirniadaeth a gyfeiriwyd atom.

Mi fyddai Menna wedi dethol rhai o’r llythyron a ddeuai drwy’r post cyn iddynt gyrraedd fy nesg i, gan gyfeirio’r ‘trash’, fel y byddai’n dweud, i’r bin sbwriel.

Mae’r ddawn o lythyru bellach wedi mynd yn beth prin; mae’r dechnoleg a greodd e-byst chwim a negeseuon testun, heb sôn am ddulliau cyfathrebu drwy drydar a gwefannau’r cyfryngau cymdeithasol, wedi peri fod y grefft o ysgrifennu llythyron yn araf ddiflannu.

Mi fydde Mam yn danfon llythyr ataf bob wythnos pan o’n i yn y coleg yn sôn shwd odd pethe gartre ar y ffarm a hynt a helynt y tylwyth ac yn cynnwys ambell bapur pumpunt nawr ac yn y man, gan fy siarsio i’w wario’n ddoeth a’m hatgoffa ‘nad odd rheini yn tyfu ar goed’.

Mi fydd cyfran go lew o’r post a ddaw’n ddyddiol i’n tŷ ni yn syrthio i gategori’r ‘trash’ ac yn mynd i’r fasged sbwriel i’w ailgylchu. Ond bob hyn a hyn daw llythyr wedi ei gyfeirio’n bersonol a hwnnw mewn llawysgrifen gan amlaf – llythyr i fynegi diolch am gymwynas neu garedigrwydd, llythyr o werthfawrogiad am yr hyn a rannwyd, llythyr i galonogi ac i ysbrydoli – a dyna i chi drysorau yw’r llythyron hynny.

Mae Meryl a finne wedi ysgrifennu ein siâr o lythyron dros y tair blynedd diwethaf – yn llythyron i garchar. Mi fydd pob amlen wedi ei hagor a’r cynnwys wedi ei ddarllen cyn iddo ddod i law’r derbynnydd a bellach, er mwyn diogelu nad yw’r papur wedi ei heintio gan gyffuriau, dim ond llungopi o’r gwreiddiol a estynnir i’r derbynnydd – trist!

Ymhlith y toreth llyfrau sydd gennyf yn fy llyfrgell ma’na un sy’n dwyn y teitl Letters from Prison – llyfr sy’n cynnwys ysgrifau gan weinidog Lutheraidd o’r enw Dietrich Bonhoeffer. Ysgrifau ydynt sy’n ymwneud â’r ffydd Gristnogol – llythyrau a ysgrifennwyd ganddo yn ystod ei garchariad gan y Natsïaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

O gofio lleoliad eu hysgrifennu, y mae’r llythyron yn rhai hynod obeithiol ynghanol sefyllfa gyfyng ac argyfyngus. Ei ymgais yw holi’r cwestiwn beth bellach yw rôl a swyddogaeth yr Eglwys mewn byd sydd wedi dod i oed ac na wêl yr angen mwyach am ddimensiwn ysbrydol mewn bywyd? Awgryma Bonhoeffer fod yn rhaid i’r Eglwys ryddhau ffydd o harnais crefydd, ei drefn a’i gonfensiwn, er mwyn canfod y gwrthrych sy’n rhoi ystyr i’n holl fodolaeth a galluogi pobl i ganfod Crist, i ymddiried ynddo a’i adnabod. I acennu geiriau Ann Griffiths yn ei hemyn grymus: ‘Ni ddichon byd a’i holl deganau fodloni fy serchiadau nawr … O am syllu ar ei Berson, rhyfeddod pob rhyfeddod yw.’ Ni ryddhawyd Bonhoeffer o’r carchar. Fe’i dienyddiwyd, yn 39 mlwydd oed, ychydig ddiwrnodau cyn terfyn y rhyfel a chollodd yr eglwys Gristnogol un o’i meddylwyr a’i diwinyddion pennaf.

Ganrifoedd lawer ynghynt cawn enghraifft arall o ŵr mewn carchar yn danfon llythyron ac fe lwyddodd y llythyron hynny hefyd i galonogi a chyfarwyddo’r Cristnogion a’u darllenodd. Yr Apostol Paul oedd y gŵr hwnnw. Gwyddai yntau’n dda am rwystredigaethau a diflastod gorfod treulio cyfnodau hir mewn carchar – yn Philipi unwaith, lle y bu ef a Silas yn canu mawl i Dduw mewn cyffion. Yng Nghesarea wedyn, ac fe awgryma rhai iddo dreulio cyfnod yng ngharchar Effesus yn ogystal. Fe’i dygwyd i Rufain mewn cyffion ac yn ystod ei garchariad yno ysgrifennodd ei lythyron at Gristnogion Philipi a Colosia ac oddi yno hefyd yr ysgrifennodd ei lythyr at Philemon i achub cam ei was Onesimus. Mi fyddai’r Testament Newydd wedi bod dipyn tlotach pe na fyddai’r llythyron hynny o garchar wedi eu cynnwys, gan eu bod ymhlith trysorau’r ffydd.

Mae’r Apostol Paul yn ei ail lythyr at Eglwys Corinth yn cyfeirio at ei gyd-Gristnogion fel llythyrau’r Crist. ‘Llythyr Crist ydych chwi, nid wedi ei ysgrifennu ag inc ond ag Ysbryd y Duw Byw.’ (2 Cor. 3:3).

Y mae’r neges (sef yr Efengyl) yr wyf fi wedi ei rannu i chwi, medde Paul, yn neges na chofnodwyd mewn inc a fyddai’n pylu gydag amser, ond a ysgrifennwyd ar galonnau pobl gan greu afiaith ac argyhoeddiad.

Ro’dd hi’n arferol yn yr hen fyd i bobl gario llythyron cymeradwyaeth gyda nhw pan fyddent ar ymweliad â gwlad ddieithr, llythyron wedi eu hysgrifennu gan rywrai a oedd yn eu hadnabod ac a fedrai dystio i’w buchedd a’u hymarweddiad.

Braint a chyfrifoldeb y Cristion ydyw dangos Iesu a rhannu ei neges i eraill; bod ein bywyd ni a’n holl ymwneud yn adlewyrchu ei ogoniant a’i allu a bod modd i eraill ei ganfod ynom ni a dod i’w adnabod a’i dderbyn. ‘Llythyr Crist ydych chwi.’

Boed i ni fod yn llythyrau cymeradwyaeth Crist ac yn gyfryngau newyddion da i’r byd. ‘A boed i eraill trwof fi adnabod cariad Duw.’

Gyda’m cyfarchion cynhesaf, Peter

DARLLENIADAU: 2 Corinthiaid 3:1–6; 2 Thesaloniaid 2:15–16; Rhufeiniaid 1:1–6

GWEDDI: ‘O na bawn yn fwy tebyg i Iesu Grist yn byw, yn llwyr gysegru ’mywyd i wasanaethu Duw.’ O Dduw pob gras, cynorthwya fi trwy fy mywyd a’m tystiolaeth i fod yn Llythyr Crist a’i ddangos Ef yn ei gyfoeth anchwiliadwy a’i brydferthwch digymar. Mor aml fy ngweld i a wna pobl yn hytrach na’i ganfod Ef. Ysgrifenna ar fy nghalon eiriau dy wirionedd a thrwy dy Ysbryd cyfeiria fy mywyd yn glod ac yn ogoniant i’th enw. Amen.

GWEDDI’R ARGLWYDD

Geiriau i’n Cynnal: Grym geiriau

Myfyrdod Sul olaf Chwefror 2021
[Diolch i’r Parchg Peter Thomas am y myfyrdod isod]

Anwyliaid yr Anwel,

Ar gychwyn y gyfrol Creu Argraff, sy’n olrhain hanes Gwasg Gomer, Llandysul, y mae John Lewis, ŵyr J.D. Lewis a sefydlodd y wasg yn 1892, yn nodi fod y gyfrol yn gyflwynedig: ‘Er cof am Dad-cu a Mam-gu Gomerian – y dewrion a gamodd i fyd y gair.

Ers cychwyn y cloi i lawr cyntaf ym mis Mawrth 2020 fy ngobaith wrth baratoi’r myfyrdodau wythnosol hyn oedd iddynt fod yn ‘eiriau i’n cynnal’ mewn dyddiau anodd. Diolch i William am ei gymwynas yn eu llwytho ar wefannau a diolch i Ceris, Joan a’r ddau John a fu’n dosbarthu’r deunydd ymhlith aelodau’r gwahanol gapeli. Diolch hefyd am eich ymateb caredig a’ch gwerthfawrogiad.

Mi fydd gan eiriau’r gallu i drawsnewid bywydau, boed ar lafar neu mewn ysgrifen. Medrant ysgogi ynom hyder a gwroldeb, angerdd a brwdfrydedd, ond medrant hefyd ein clwyfo a’n tristáu. Medr geiriau gyflyru ein hemosiwn neu dynnu’r gwynt o’n hwyliau, ein dwysbigo neu ennyn ynom orfoledd – Grym Geiriau!

‘Bydded ymadroddion fy ngenau a myfyrdod fy nghalon yn gymeradwy ger dy fron, O Arglwydd, fy nghraig a’m prynwr.’ (Salm 19:14) ‘Y geiriau a ddaw o’m genau.’ Unwaith eto safwn ar drothwy gŵyl ein nawddsant Dewi – dydd i ymhyfrydu yn ein tras a’n treftadaeth fel cenedl a chyfle i ddwyn i gof y geiriau hynny a briodolir iddo: ‘Arglwyddi, frodyr a chwiorydd, byddwch lawen, a chedwch eich ffydd a’ch cred, a gwnewch y pethau bychain a welsoch ac a glywsoch gennyf i.’

Geiriau ydynt a ynganwyd gan Dewi oddeutu’r flwyddyn 589 O.C. ac eto maent yn dal i osod cyweirnod a chyfeiriad i’n dathlu blynyddol bymtheg canrif yn ddiweddarach. Ac onid dyna yw grym geiriau – fod iddynt barhad a’u bod yn medru goroesi a phontio’r canrifoedd?

Byddwch – Cedwch – Gwnewch, meddai Dewi Sant ac y mae llawenydd a ffydd a chred yn dilyn wedyn a’r trysor hwnnw’n cael ei drosglwyddo o un genhedlaeth i’r llall.

O stôr ddoe dy stori ddaw
Yn ei hôl, fel sain alaw,
A hyder mwyn d’eiriau mad
Yn ennyn eu harweiniad.  (PMT)

Byddwch lawen, medd Dewi Sant, ac onid yw honno’n rhinwedd werthfawr? Y llawenydd a fedr ein codi uwchlaw ein cyfyngiadau a’n hanawsterau a pheri inni weld pethe o bersbectif gwahanol. Y llawenydd sy’n creu bodlonrwydd a dedwyddwch, y llawenydd fydd yn tynnu gwên i’n hwyneb a chwerthiniad ar dro.

Roedd yna weinidog gan yr Annibynwyr yn ardal Clunderwen nôl yn y pumdegau o’r enw Joseff James. Roedd yn bregethwr praff a thra phoblogaidd ar waetha’r ffaith fod arno atal dweud difrifol. Ma’na stori anfarwol amdano yn camu ar y trên yn stesion Clunderwen ryw fore, a phwy o’dd yn eistedd yn yr un compartment ond y Parchg Ifan Afan, gweinidog Blaenwaun, ac ro’dd atal dweud ar hwnnw hefyd.

Wrth i’r trên adael yr orsaf dyma Ifan Afan yn dweud wrth Joseff James: ‘JJJ-JO, wi-w-w-wedi gw-w-witho englyn. Licset t-ti ei gl-glywed e?’ A bod Joseff James wedi ateb: ‘D-dw-dwed e’ g-g-gloi. W-wi’n mynd m-m-mas yn Abertawe.’

Mi fyddaf yn gwenu o gofio’r stori, ond mi fedraf uniaethu â phrofiad y ddau gan i mi brofi’r un anhawster pan o’n i’n grwt bach. Do’dd y geiriau rywsut ddim yn dod mas yn iawn, rhyw atal ar fy lleferydd, ac fe lusgodd Mam fi rownd sawl clinic yn ardal Llanelli i geisio delio â’r broblem. Ond pan ddes i yn un ar ddeg yr hyn a ges i am basio’r 11+ oedd gwersi adrodd gan Madam Tydfil Jones, y Bynea. Ro’n i’n mynd bob nos Iau ar ôl ’rysgol ar y bws i’r Bynea am wers adrodd ac iddi hi rwy’n ddyledus am orchfygu’r anabledd hwnnw. Ond ers y cyfnod hwnnw mae gen i gydymdeimlad mawr â rhai sy’n dioddef anabledd o bob math, ac yn arbennig anabledd llefaru.

Cedwch eich ffydd – Ffydd a rydd fynegiant i’r hyn a gredwn ac sy’n gymhelliad i’n gweithredu. Y mae’r Beibl yn datgan fod Gair Duw yn air i’w gredu – yn air sydd byth yn dychwelyd yn wag ac yn air sy’n cynnig ei oleuni a’i gyfeiriad. Awgrymodd y Pab Gregori fod y Beibl yn debyg i afon lydan, lle medr ŵyn bach stablan yn ei throchion ac eliffantod nofio yn ei chanol – hynny yw, fod yna ddigon yn ei gynnwys ar gyfer un sydd newydd ddod i’r ffydd ynghyd â’r sant pennaf. Ond er mwyn profi o’i rin a’i sylwedd, rhaid camu i’w ddyfroedd.

Ffydd wedi ei gwreiddio mewn hanes yw’r Ffydd Gristnogol, ffydd sy’n seiliedig, nid ar ryw theori haniaethol, ond ar ddigwyddiadau mewn gofod ac amser – nid ar y syniad o Dduw, ond Duw ei hunan, a bod y Duw hwnnw wedi tynnu’n agos atom yn Iesu Grist ac wedi datguddio ei ewyllys a’i fwriadau i’w fyd. Dyna a rydd i’n ffydd awdurdod a hygrededd: ‘Yr hyn oedd yno o’r dechreuad, yr hyn yr ydym wedi ei glywed, yr hyn yr ydym wedi ei weld â’n llygaid, yr hyn yr edrychasom arno, ac a deimlodd ein dwylo, ynglŷn â gair y bywyd – dyna’r hyn yr ydym yn ei gyhoeddi.’ (Llythyr 1af Ioan, 1:1)

Mynegwch y llawenydd ac efelychwch y ffydd yw anogaeth Dewi, ond y mae hefyd am gyplysu’r ymarferol: ‘a gwnewch y pethau bychain a welsoch ac a glywsoch gennyf fi.’ Y mae’r gyfrinach honno wrth wraidd pob cyffro, pob datblygiad a phob symud mlân. Os ydym am newid y byd ac ennyn gwerthoedd safadwy, mae’n rhaid gwneud y pethau bychain, a’u gwneud yn ymroddgar a chyson.

Y mae’r Beibl yn rhoi amlygrwydd i’r bychan hefyd. Y proffwyd Sechareia sydd yn ein hatgoffa: ‘Na ddiystyrwch ddydd y pethau bychain.’ Proffwyd yr ailgydio yw Sechareia, yn awyddus i galonogi’r genedl mewn cyfnod anodd. Ar eu dychweliad o gaethglud Babilon mae’r genedl yn canfod fod Jerwsalem yn ddiffaith a’r deml yn adfail; yr oedd yr adnoddau a’r deunydd yn brin a’r gwrthwynebiad o gyfeiriad byddinoedd taleithiol yn eu llethu. Rywsut mae’r beichiau’n ymddangos yn ormod iddynt eu hysgwyddo, yn griw bychan, diymadferth wyneb yn wyneb â’r dasg enfawr oedd i’w chyflawni ac y ma’na rai yn eu plith sydd am roi’r ffidil yn y to a rhoi gorau i’r ymdrech.

Geilw Sechareia ar y genedl i ymddiried nid yn eu hadnoddau bregus ond yn adnoddau digonol Duw a gweld mewn pethau bychain botensial y pethau mawr.

Y mae Iesu Grist yn dweud wrthym: ‘Os gallwn fod yn ffyddlon yn yr ychydig, cawn brofi bendithion mwy.’ (Luc 16:10) Y mae’r pum talent yn troi’n ddeg a’r deg talent yn troi’n ugain ac y mae yna wahoddiad i ni dderbyn o lawnder a llawenydd yr Arglwydd.

Rhodd Duw yw cenedl: ‘Ac efe a wnaeth o un gwaed bob cenedl o ddynion i drigo ar wyneb y ddaear, ac a’u clymodd ynghyd yn un sypyn bywyd – yn un teulu i fyw ynghyd mewn brawdgarwch a chymod.’

Un o’r cenhedloedd hynny yw ein cenedl ni – cenedl y Cymry – cenedl a gododd, ac sy’n dal i godi, gwŷr a merched blaengar ymhob cylch o fywyd, a thrwy eu hymdrech a’u hymwneud, eu doniau a’u dysg, yn dwyn amlygrwydd byd i’r genedl fechan hon. 

Ar ŵyl ein nawddsant Dewi boed inni ymfalchïo yn ein tras a’n treftadaeth, yn ein crefydd a’n cân. Dyma’r elfennau nodedig sydd wedi cyfrannu at ein bodolaeth fel cenedl; hebddynt nid oes gennym nac enw, na llais, na hawliau, nac aelodaeth ym mrawdoliaeth y ddynoliaeth. Ac fe saif y cyfrifoldeb arnom ni i hybu a diogelu’r gwerthoedd hynny. I fynegi’r llawenydd, i wneud y pethau bychain ac i amlygu’r ffydd sy’n esgor ar gariad a heddwch a chymod rhwng dyn a’i gyd-ddyn.

Geilw ddoe ein Gŵyl Ddewi – i fychan
A’i fuchedd i’n llonni,
Ei nawdd a fynnwn heddi
A’i nwyd i’n cyflyru ni.   (PMT)

Gyda’m cofio’n cynhesaf, Peter

DARLLENIAD: Sechareia 4:10; Salm 19; Ioan 1:1–18

GWEDDI: Mawrygwn dy enw, O Dduw, am ein nawddsant Dewi; am ei fywyd a’i fuchedd, ei esiampl a’i ymarweddiad ac am ei anogaeth inni fyw bywydau a fydd yn esgor ar lawenydd, yn seiliedig ar ffydd ac sy’n rhoi mynegiant i’r ymarferol. Pâr i ni yn ein cylchoedd a’n cymunedau adlewyrchu’r egwyddorion hynny, i ymarfer ein hiaith a chadw’r urddas a rydd i’r genedl hon ei hunaniaeth a’i harbenigrwydd.

Gweddïwn dros genhadaeth dy eglwys di yn y byd. Diolch i ti am y rhai hynny a daniwyd gan gomisiwn dy Fab, ein Harglwydd Iesu, i fynd i’r holl fyd ac i bregethu a chyfathrebu’r ffydd. Gweddïwn am dy nerth a’th gymorth i’r afiach a’r anghenus, ac am dy dangnefedd a’th gysur i’r rhai sydd mewn galar a hiraeth. Gweddïwn am dy gysgod a’th amddiffyn trosom a thros bawb sy’n annwyl yn ein golwg. Gofynnwn hyn yn enw Iesu Grist, Amen. 

GWEDDI’R ARGLWYDD

Geiriau i’n Cynnal: Sul Cyntaf y Grawys

Myfyrdod ar gyfer Dydd Sul, 21 Chwefror 2021

[Diolch i’r Parchg Judith Morris am y Myfyrdod isod]

Annwyl Gyfeillion,

Darlleniadau: Luc 4: 1–13; Luc 9:51.

Gweddi agoriadol: O Dduw ein Tad, a Thad ein Harglwydd Iesu Grist, diolchwn i Ti am gyfle newydd i’th addoli. Cynorthwya ni yn awr i agosáu atat ac i ymdeimlo â’th bresenoldeb. Tydi yw’r Duw sydd yn ein caru ac yr ydym oll yn werthfawr ac yn bwysig yn dy olwg. Dyro i ni brofi o’th arweiniad. Yn enw ein Harglwydd a’n Gwaredwr Iesu Grist. Amen.

Myfyrdod:Ddydd Sul diwethaf, am y tro cyntaf ers 56 o flynyddoedd, arhosodd trên yng ngorsaf Bow Street ar ei ffordd o Fachynlleth i Aberystwyth. Dyma oedd diwrnod ailagor yr orsaf ar ei newydd wedd! Agoriad swyddogol tawel a gafwyd gan fod swyddogion Trafnidiaeth Cymru yn awyddus i sicrhau na fyddai tyrfa o bobl yn heidio i’r orsaf a chael eu temtio i dorri rheolau cyfredol Covid-19. Bu’r digwyddiad yn eitem newyddion ar y teledu a’r radio a chaed sylwadau di-ri ar y cyfryngau cymdeithasol. Edrychwn ymlaen yn eiddgar at fynd ar daith o orsaf Bow Street yn y dyfodol agos!

Ychydig o ddyddiau yn ddiweddarach yn y calendr eglwysig roedd hi’n Ddydd Mercher Lludw, sef cychwyn Tymor y Grawys, a chawsom ein hatgoffa am daith arall, sef taith ein Harglwydd Iesu i fyny i Jerwsalem. Meddai Luc: ‘Pan oedd y dyddiau cyn ei gymryd i fyny yn dirwyn i ben, troes ef ei wyneb i fynd i Jerwsalem …’. Dyma drobwynt Efengyl Luc.

Cyfnod o ddeugain niwrnod yw’r Grawys sy’n arwain i fyny at y Pasg pan ddethlir atgyfodiad Crist o’r bedd a’i fuddugoliaeth dros angau. Cawn ninnau hefyd gyfle i droi ein golygon o’r newydd i gyfeiriad Jerwsalem y dyddiau hyn ac i fyfyrio ar wythnosau olaf ein Harglwydd Iesu ar y ddaear, yn ogystal â chofio rhai o’r digwyddiadau ingol hynny, megis y weddi ddwys yng Ngethsemane, sefydlu’r Swper Olaf, y croeshoelio a’r atgyfodiad.

O Fab y Dyn, Eneiniog Duw, fy Mrawd a’m Ceidwad cry’,
ymlaen y cerddaist dan y groes a’r gwawd heb neb o’th du;
cans llosgi wnaeth dy gariad pur bob cam,
ni allodd angau’i hun ddiffoddi’r fflam.  (George Rees, 1873–1950)

Sut felly y gallwn ni ddefnyddio’r cyfnod hwn fel adeg o ymbaratoi wrth agosáu at yr wythnos bwysicaf yn y calendr Cristnogol, sef yr Wythnos Fawr? A ydym yn credu y bydd ychydig o baratoi yn gymorth inni yn ein bywydau ysbrydol wrth inni geisio treiddio’n ddyfnach i ymdeimlo â’r cariad pur a welwyd wrth i’r Arglwydd Iesu ildio’i fywyd trosom? Beth allwn ei wneud yn ymarferol?

Er mwyn ceisio uniaethu â phrofiad yr Iesu yn gwrthsefyll temtasiynau yn yr anialwch fe fydd rhai Cristnogion yn ymarfer disgyblaeth arbennig trwy ymwrthod â phethau melys dros gyfnod y Grawys. Bydd eraill yn penderfynu treulio llai o amser ar y cyfryngau cymdeithasol ac ar y We. Efallai mai darllen deunydd a grëwyd yn arbennig ar gyfer y Grawys a wna’r mwyafrif ohonom a cheir pob math o adnoddau wedi’u paratoi gan rai o’r enwadau, mudiadau Cristnogol ac awduron unigol i’n cynorthwyo. Wrth gwrs, gellir troi at y Beibl a chanolbwyntio ar y penodau arbennig sy’n olrhain hanes dioddefaint Crist a threulio ychydig mwy o amser mewn gweddi. Syniad arall yw myfyrio uwchben un emyn bob dydd. Er ei bod bellach yn Sul Cyntaf y Grawys, nid yw hi’n rhy hwyr i ddechrau! Ond yn sicr, mae defnyddio tymor y Grawys fel cyfnod i baratoi ar gyfer dathlu’r Pasg yn ddisgyblaeth sydd yn medru dwyn ffrwyth yn ein bywydau ysbrydol.

Ond ym mha bynnag ffordd y byddwn yn treulio’r deugain niwrnod nesaf boed inni dynnu’n nes at Iesu ac at y cariad hwnnw a fu’n llosgi trosom ar Galfaria. Yn aberth yr Arglwydd Iesu gwelwn rym nad oes modd ei orchfygu a chariad sy’n mynnu dal ati er gwaethaf yr ymdrechion mwyaf creulon i’w dawelu a’i ddiddymu. Dyma gyfle inni ganolbwyntio o’r newydd felly ar y pethau hyn a’u harwyddocâd i ni heddiw fel y gallwn dystio i weithgarwch y grym dwyfol a’r cariad pur yn ein bywydau.

Tydi yw’r ffordd, a mwy na’r ffordd i mi, tydi yw ’ngrym:
pa les ymdrechu, f’Arglwydd, hebot ti, a minnau’n ddim?
O rymus Un, na wybu lwfwrhau,
dy nerth a’m ceidw innau heb lesgáu.  (George Rees, 1873–1950)

Gweddïwn: Diolch i Ti Arglwydd am y tymor arbennig hwn. Diolch am gyfle i fyfyrio o’r newydd ar arwyddocâd marwolaeth ac atgyfodiad Crist. Cynorthwya ni yn ystod yr wythnosau nesaf i droi ein golygon i gyfeiriad Jerwsalem ac i weld o’r newydd gariad a grym Crist ar waith yn ein bywydau ninnau.

Cofiwn am y rhai sydd yn cael bywyd yn anodd ac yn heriol ar hyn o bryd. Cyflwynwn hwynt yn dyner ac yn annwyl ger dy fron. Taena d’adain drostynt a dyro iddynt brofi o’th dangnefedd a’th ofal dwyfol.

Maddau inni ein holl feiau, ac am i ni dy siomi droeon. Cynorthwya ni i fyw bob amser yn unol â’th ewyllys gan gyflawni’r hyn sy’n gymeradwy gennyt.

Clyw ein gweddi a dyro inni o’th fendith.

Gras ein Harglwydd Iesu Grist, a chariad Duw a chymdeithas yr Ysbryd Glân a fyddo gyda chwi oll. Amen.

Geiriau i’n Cynnal: ‘Cariad’

Myfyrdod 14 Chwefror 2021
[Diolch i’r Parchg Peter Thomas am y myfyrdod isod]

Anwyliaid yr Anwel,

Prin fod angen nodi arwyddocâd y diwrnod hwn o gofio’r dyddiad. Mae’n ddydd gŵyl Sant Ffolant – Gŵyl y Cariadon – ac er ei bod bellach wedi datblygu’n ŵyl seciwlar i bob pwrpas, y mae ei seiliau mewn gweithred aberthol. Merthyrwyd Sant Ffolant yn 269 O.C. yn ystod ymerodraeth Claudius, ond mae’r serch a’r cariad a amlygwyd rhyngddo ef a merch ceidwad y carchar wrth iddo aros ei dynged wedi goroesi’r blynyddoedd ac yn parhau i ysgogi’n cyfarchion a’n rhoddion ddeunaw canrif yn ddiweddarach.

Yn ystod blynyddoedd cynnar y ganrif hon darlledwyd cyfres o raglenni ar nos Sul ar donfeddi Radio Cymru yn ymdrin â geiriau a’u hystyron. Yr unigryw Twm Morys oedd yn llywio’r rhaglen, ac mi fyddech yn clywed llais yr actor (y diweddar, bellach) Stewart Jones – a ymgorfforodd y cymeriad hwnnw Ifans y Tryc ’slawer dydd – yn darllen yn goeth ac ystyrlon gynnwys y drydedd bennod ar ddeg o lythyr cyntaf Paul at y Corinthiaid. Y bennod sy’n cychwyn gyda’r geiriau: ‘Pe llefarwn â thafodau dynion ac angylion, a heb fod gennyf gariad, efydd swnllyd ydwyf, neu symbal aflafar …’ Ond wedi i ni glywed agorawd y bennod, mi fyddai lleisiau gwahanol i’w clywed wedyn yn darllen gweddill yr adnodau yn nhafodiaith eu bro a’u hardal. Yr oedd yr arbrawf yn un difyr a dadlennol a dweud y lleiaf. Ond yna wedi i bob datganiad orffen, mi fydde Stewart Jones i’w glywed yn darllen eto’r adnod glo: ‘Yr awron y mae yn aros ffydd, gobaith, cariad, y tri hyn, a’r mwyaf o’r rhain yw cariad.’

Ie, ‘yn aros’ – yn sefyll yr un – yn ddiddarfod.

O ran mynegiant, y mae cynnwys y bennod hon gyda’r hyfrytaf o holl benodau’r Testament Newydd ac mewn byd o symud a chyfnewidiadau mawr, fe rydd inni’r sicrwydd fod ’na rai pethe’n aros yn ddigyfnewid.

Y mae’r bennod yn nodi pump o enghreifftiau o bethau y bydd pobl o bryd i’w gilydd yn rhoi gwerth arnynt ac yn awyddus i fod yn gyfrannog ohonynt.

Y cyntaf yw huodledd: ‘pe llefarwn â thafodau dynion ac angylion’. Dawn yr areithydd, y ddawn i drin a chyfathrebu geiriau, i ddweud yn ysgubol a grymus; y gallu i berswadio ac argyhoeddi. Cafodd amryw feddiannu’r ddawn honno a’i sianelu er daioni weithiau, er drygioni dro arall. Yn eu plith y mae athronwyr, diwygwyr, militarwyr a gwleidyddion. Pobl â’r ddawn i symud cynulleidfaoedd trwy huodledd eu dweud.

Gwybodaeth yw’r ail beth: ‘a gwybod ohonof y dirgelion oll, a phob gwybodaeth’. Y ddawn i ddeall ac i dreiddio trwy ddirgelion er mwyn canfod y gwirionedd. Dawn ydoedd a rannwyd i rai dethol ar un adeg; dawn a gyplyswyd â statws a sylw, a dawn a borthwyd ag arian a modd. Ond bellach daeth yr hyn a oedd gynt yn eiddo escliwsif yr ychydig yn eiddo’r mwyafrif trwy fanteision addysg a gwyrth technoleg gan gynnig, ar wasgiad botwm, doreth o wybodaeth dros rwydweithiau’r We.

Y mae’r trydydd rhinwedd yn dilyn yn dynn yn ei sodlau, sef proffwydoliaeth: ‘a phe byddai gennyf ddawn proffwydo a gwybod ohonof y dirgelion oll’. Y ddawn i ddarogan beth all ddigwydd – i rannu cyfrinach y dydd cyn iddo wawrio. Dyma diriogaeth yr entrepreneur, y mentrwr, a’r meddyg-sbin, y ddawn i rag-weld ffortiwn a cholled y farchnad stoc, i ddilyn hynt masnach ac i ganfod ei helynt cyn i’r helynt hwnnw ein cyrraedd.

Darllenwn yn Llyfr Cyntaf Cronicl i’r brenin Dafydd gynnwys ymhlith ei fyddin rai o lwyth Issachar, a dyma a ddywedir amdanynt – eu bod yn rhai a oedd yn medru ‘darllen yr amserau ac yn ymwybodol o’r hyn a ddylai Israel ei wneud’ (1 Cron. 12:32). Pobl oedd â’r gallu i ddirnad, i broffwydo ac i gynnig arweiniad. Yn feddiannol o’r ddawn i ddarllen yr amserau ac i ganfod y man lle’r ydym, a’r fan lle dylem fod, a’r modd i ni gyrraedd y nod.

Grym ewyllys yw’r peth nesaf – bod yr hyn yr ydych yn ei ewyllysio yn cael ei wireddu. Y grym a ddaw yn sgil statws ac awdurdod: ‘fel y gallwn hyd yn oed symud mynyddoedd’.Ac ma’na ddigon o enghreifftiau o bobl a lwyddodd trwy eu dyfais a’u dylanwad i gyrraedd y stad honno.

Ac yna’r peth olaf a ddeisyfir yw’r ‘gallu i ymddangos yn hael a rhinweddol gerbron y byd’, trwy ennill sylw, enw a pharch ein cyd-fforddolion: ‘a phe porthwn y tlodion â’m holl dda, a phe rhoddwn fy nghorff i’w losgi, a hynny er mwyn ymffrostio’.

Ond er mor atyniadol ydyw’r rhinweddau yma, y mae iddynt i gyd eu cyfyngiadau, a byr yw eu parhad: ‘Proffwydoliaethau, fe’u diddymir hwy … gwybodaeth, fe’i diddymir hithau. Oherwydd amherffaith yw ein gwybod ac amherffaith ein proffwydo.’

Ond fe erys rhyw bethau’n ddigyfnewid, rhyw bethau na fedr rhawd y blynyddoedd eu difa na’u cyfyngu, ac ymhlith y pethau hynny y mae ‘ffydd, gobaith a chariad, a’r mwyaf o’r rhain yw cariad’.

Y mae Paul ar derfyn y bennod yn crynhoi’r dweud trwy ddatgan fod Cariad Cristnogol yn ei hanfod yn barhaol, yn gyflawn, yn anorchfygol.  

Yn barhaol: pan fydd pob dim y mae pobl yn ymddiried ynddynt wedi dod i ben, mi fydd cariad yn sefyll.

Yn Llyfr Caniad Solomon yn yr Hen Destament (pen. 8: adn. 7) ceir yr addewid yma: ‘Ni all dyfroedd lawer ddiffodd cariad, ac ni all afonydd ei foddi.’

‘Nid yw cariad yn darfod byth,’ medde Paul fan hyn: ‘mae’n goddef i’r eithaf, yn credu i’r eithaf, yn gobeithio i’r eithaf, yn dal ati i’r eithaf.’

Y mae cariad hefyd yn gyflawn: ‘Yn awr, gweld mewn drych yr ydym a hynny’n aneglur ond yna cawn weld wyneb yn wyneb.’ I bobl Corinth roedd yna arwyddocâd yn y dweud hwnnw gan fod dinas Corinth yn enwog am gynhyrchu drychau o fetel sgleiniog, ond er cystal eu hansawdd a’u sglein roedd yr adlewyrchiad yn parhau’n aneglur. ‘Felly carodd Duw y byd fel y rhoddodd efe ei unig anedig fab …’ meddai Ioan yn ei efengyl.Yn nyfodiad Iesu Grist i’r byd fe ddaw’r datguddiad yn eglur: ‘y neb a’m gwelodd i a welodd y Tad’.

Ac yna’r drydedd nodwedd a berthyn i gariad yw ei fod yn anorchfygol. Tystiolaeth y Testament Newydd yw mai ‘Duw Cariad Yw’ – y cariad nad yw’n oeri, y cariad sy’n bwrw allan ofn, yn cymodi gelynion; a byth, byth yn darfod. Fel y mae’r Duw sy’n ffynhonnell y Cariad yn anorchfygol, felly ni all dim ddileu gwir gariad. Er bod ffydd a gobaith yn nodweddion pwysig, eto ‘y mwyaf o’r rhain yw cariad’. Y mae ffydd heb gariad yn oer a gobaith yn ddi-rym. Cariad yw’r gwres sy’n meithrin ffydd a gwneud gobaith yn sicrwydd.

Gelwir arnom i adlewyrchu’r cariad hwnnw a’i fynegi mewn gair a gweithred.

Y mae i’r bennod hon ben a chynffon mewn penodau eraill. Y mae adnod glo’r ddeuddegfed bennod yn nodi: ‘yr wyf am ddangos i chwi ffordd ragorach fyth’, ac yna mae’r bedwaredd bennod ar ddeg yn cychwyn trwy ddatgan: ‘Dilynwch gariad yn daer.’

Ac onid hynny ddylai anogaeth a neges y Sul hwn fod yn ein hanes ni i gyd. Rhown y flaenoriaeth i gariad.

Pwy all fesur lled y cariad
Sydd yn nyfnder calon Duw?
Pwy all ddirnad beth yw’r uchder,
Beth yw hyd y ddyfais wiw?
Ond fe wn ar waetha’r holi
Ei fod yn fy nghofio i
Ac yn fy ngharu, ac yn fy ngharu
Fy Arglwydd cu.    (P.M.T.)

Gyda’m cofion a’m cyfarchion cynhesaf, Peter

Darlleniadau: 1 Corinthiaid pen. 13; Ioan 3:16–21

Gweddi: Arglwydd Dduw’r Cariad, gosod dy ddwylo clwyfedig mewn bendith dros dy bobl ymhob man, i’w cofleidio a’u cynnal; i’w hiacháu a’u hadfer, eu tynnu atat ti dy hun, ac at ei gilydd mewn cariad.

Arglwydd, gwna ni yn offeryn dy dangnefedd: lle bo casineb, boed i ni hau cariad; lle bo tramgwydd – maddeuant; lle bo anobaith – gobaith; lle bo anghydfod – undeb; lle bo tywyllwch, boed inni hau goleuni; lle bo amheuaeth – ffydd; lle bo tristwch – llawenydd. Er mwyn dy drugaredd a’th wirionedd. Yn Iesu Grist, Amen.

Gweddi’r Arglwydd

Geiriau i’n Cynnal: ‘Calonogi’

Myfyrdod Sul cyntaf Chwefror 2021
[Diolch yn fawr i’r Parchg Peter Thomas am y myfyrdod isod]

Anwyliaid yr Anwel,

Yn ystod yr wythnos hon cyflwynwyd nifer o deyrngedau haeddiannol i’r Capten Syr Tom Moore a fu farw ddydd Mawrth yn 100 oed. Bu ei ymdrechion glew yn ystod misoedd cynnar y pandemig yn ysbrydoliaeth i gynifer. Llwyddodd i gydio yn nychymyg pobl gan esgor ar haelioni rhyfeddol. Grymusodd ein gwerthfawrogiad o’r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol, o ymdrech ac ymroddiad meddygon, nyrsys a gofalwyr a chyfrannwyd dros £33 miliwn mewn nawdd. Roedd ei foneddigeiddrwydd a’i wyleidd-dra, ei ddygnwch a’i wên yn fodd i godi’n calon ynghyd â’i air calonogol a gobeithiol: ‘Bydd yfory yn well na heddiw – bydd yfory yn ddiwrnod da.’

Diolch am bobl o’i galibr ef a’i debyg a lwyddodd i ennyn ynom yr hyder i ddal ati mewn dyddiau anodd.

Ym mhennod glo ei lythyr at y Colosiaid y mae’r Apostol Paul yn cyfeirio at ŵr o’r enw Tychicus, a’r hyn a ddywed amdano yw ei fod ‘yn frawd annwyl, yn weithiwr ffyddlon sy’n gwasanaethu’r Arglwydd gyda mi’, ac yna fe â ymlaen i ddweud: ‘yr wyf yn ei anfon atoch yn unswydd er mwyn iddo eich calonogi.’

Gŵr o dalaith Rufeinig Asia oedd Tychicus – roedd yn un o’r bobl hynny yr ymddiriedwyd iddo’r cyfrifoldeb o fynd â’r casgliad cenhadol yn enw’r dalaith i Jerwsalem er mwyn cynorthwyo’r tlodion yno.

I Tychicus yr ymddiriedwyd y cyfrifoldeb hefyd o gludo’r ‘Llythyron o Garchar’ fel y’u gelwir, sef y llythyron a ysgrifennodd Paul tra oedd mewn carchar yn Rhufain at eglwysi Effesus, Colosia a Philipi. Er mai cynnil yw’r wybodaeth sydd gennym amdano – cyfeiriadau prin yn Llyfr yr Actau a’r llythyr at yr Effesiaid ynghyd â’r cyfeiriad hwn ym mhennod glo’r Colosiaid – mae’n amlwg ei fod yn fwy na phostman epistolau a bod ymhlith ei briod ddoniau y ddawn i galonogi ac i ysbrydoli.

Y ma’na stori am ddyn, pan oedd ar wyliau un haf, yn canfod tyrfa o bobl wrth lanfa gychod. Yno mewn cwch bychan, bregus yr oedd gŵr wrthi’n paratoi i gychwyn ar fordaith. Yr oedd nifer yn y dyrfa yn ceisio ei berswadio rhag mynd, gan ei atgoffa o’r peryglon ac o’r holl bethau a fedrai fynd o’i le. Ond wrth i’r cwch adael y lanfa fe deimlodd yr ymwelydd ryw gymhelliad taer i galonogi’r morwr yn ei gwch bach ac fe waeddodd yn uchel: ‘Dos amdani, gyfaill, pob hwyl iti. Ryn ni’n falch ohonot.’

Y mae angen llai o feirniaid arnom a mwy o ysgogwyr llawenydd – y bobl hynny sy’n medru taro nodyn cadarnhaol ynghanol llif o leisiau negyddol, sy’n medru gweld gyda llygaid gwahanol a rhannu gweledigaeth a fydd yn destun llawenydd a gobaith.

A phan fydd rhywrai yn enw Crist yn mentro allan mewn ffydd ac yn taenu eu rhwydau, peidiwn â son am y rhwystrau a’r stormydd ond yn hytrach am wyrth a chyfaredd y rhwydau llawn.

Mi fydd rhai ohonoch, mae’n siŵr, yn cofio’r canwr gwlad o’r 80au Willie Nelson a’r gân ‘On the road again’:

Just can’t wait to get on the road again,
Goin’ places that I’ve never been,
Seein’ things that I have never seen,
And I can’t wait to get on the road again.

O’r pum cyfeiriad at Tychicus yn y Testament Newydd, y mae pob un ohonynt yn ei ddarlunio ar y ffordd ac ar dramp, naill ai gyda Paul, neu’n cario negeseuon neu lythyrau drosto.

Fe ddaeth Tychicus ar wŷs yr Apostol Paul o ddinas Effesus i Colosia er mwyn calonogi’r eglwys yno. Roedd eisoes wedi ennill enw iddo’i hun fel calonogwr o fewn yr eglwys yn Effesus. Sonia Paul amdano wrth y gynulleidfa honno yn ei lythyr: ‘Y mae yn frawd annwyl ac yn weinidog ffyddlon yn yr Arglwydd ac yn un i’ch calonogi.’ Bu’r rhinwedd honno yn fodd i ddwyn cymod a gwell dealltwriaeth ymhlith aelodau’r eglwys yn Colosia a thanlinellu swyddogaeth a blaenoriaethau’r Ffydd.

Yr oedd gau-athrawon yn Colosia a oedd am dwyllo’r eglwys ifanc trwy geisio llanw eu meddyliau â dysgeidiaeth a syniadaeth a oedd yn estron i’r Ffydd. Roedd hyn yn amlwg wedi cythruddo Paul ac yn ei lythyr at yr eglwys honno y mae’n tanlinellu egwyddor sylfaenol y ffydd – taw Iesu Grist yw pen yr eglwys ac ynddo Ef yn unig y mae inni brofi bywyd.

Rhoddwyd i Tychicus y ddawn i galonogi, a defnyddiodd y ddawn honno i feithrin ffydd ac argyhoeddiad aelodau eglwys Colosia wrth eu cyfeirio at Iesu. Nid oedd ganddo Destament Newydd i ddarllen ei stori – onid oedd yntau’n rhan o’r stori oedd ar gerdded ym mlynyddoedd cynnar y Ffydd.

Y mae’r stori honno’n parhau a ‘rhyw newydd wyrth o’i angau drud a ddaw o hyd i’r golau’ wrth inni efelychu esiampl a rhannu tystiolaeth a fedr newid y byd a newid bywydau pobl. Ymddiriedwn yn y Crist digyfnewid, yr Un sydd â’r yfory yn ei law, a gallwn fod yn siŵr o hyn – y bydd yr yfory hwnnw yn ddiwrnod gwirioneddol dda.

Ynghanol bwrlwm cymysg ein profiadau,
Yr oriau lleddf a’r llon a leinw’n byw,
Ond in ymddiried, ma’na Un i’n harbed
A rhannu wna o stôr adnoddau Duw.   P.M.T.

Gyda’m cofion cynhesaf a’m dymuniadau da,

Peter

Darlleniad: Colosiaid 4:7–8; Actau 20:4; Effesiaid 6:21.

Gweddi: Derbyn ein diolch Arglwydd am funudau tawel a fedr newid gwerth y byd i’n golwg, ac am lonyddwch i synhwyro dy bresenoldeb.

Gweddïwn am dy nerth a’th amddiffyn inni mewn dyddiau anodd, pan fydd gofidiau a phryderon yn bygwth, pan fydd afiechyd yn llesteirio neu hiraeth a thristwch yn llenwi’n bron.

Bydded i’th dangnefedd di, sydd uwchlaw pob deall gylchu o’n cwmpas a’n cynnal y foment hon ac i bob yfory newydd a ddaw i’n rhan. Amen.

Gweddi’r Arglwydd