Dydd Gwener Groglith:
Cantorion Penrhyn-coch yn canu o gwmpas y pentref i rai sy’n gaeth i’w cartrefi.
Good Friday:
Penrhyn-coch singers on their way around the village singing to the housebound.
Dydd Gwener Groglith:
Cantorion Penrhyn-coch yn canu o gwmpas y pentref i rai sy’n gaeth i’w cartrefi.
Good Friday:
Penrhyn-coch singers on their way around the village singing to the housebound.



Mae’r canlynol wedi’u hethol heb wrthwynebiad fel Cynghorwyr Cymuned Trefeurig :
The following have been duly elected as Community Councillors for Trefeurig without a contest:
| Enw / Name | Disgrifiad / Description |
| Emlyn, Lowri | Annibynnol / Independent |
| Evans, Mel | |
| James, Delyth Mary | Plaid Cymru / The Party of Wales |
| James, Shan | |
| Owen, Robert Richard | Plaid Cymru / The Party of Wales |
| Price, Gwenan | |
| Reynolds, Eirian Wyn | Independent |

Dydd Calan, cynta’r flwyddyn,
‘Rwy’n dyfod ar eich traws,
I ymofyn am y geiniog,
Neu glwt o fara a chaws;
O dewch i’r drws yn siriol.
Newidiwch ddim o’ch gwedd,
Cyn daw Dydd Calan nesaf
Bydd llawer yn y bedd.
Hel Calennig Penrhyn-coch, 1960au. (Diolch i Brian Davies)



Mae’n siwr fod rhai ohonoch wedi sylwi ar ychwanegiad lliwgar iawn o flaen y garej!
Mae elusen Nisa Making a Difference Locally wedi lansio menter newydd i helpu busnesau i godi arian ar gyfer elusennau lleol ar ffurf banciau dillad.
Er mwyn gwneud defnydd gwell o’ch hen ddillad, lleihau’r effaith ar yr amgylchedd a hefyd ein helpu i gyfrannu at achosion lleol, defnyddiwch fanc dillad Tymawr.
Dyma gyfle perffaith i glirio’ch wardrob a chyfrannu at achosion lleol yr un pryd!
Some of you may have spotted a new and very pink addition to the forecourt .
Nisa’s Making a Difference Locally charity has launched a new initiative to help retailers to raise additional funds for local causes, in the form of clothes banks.
Designed to put communities unwanted clothes to better use, reduce environmental impact and also increase stores MADL funds to donate locally, charity clothing bank is now available at Nisa Local Tymawr.
What a perfect opportunity to have a clean out of your wardrobe and make a difference locally

Codwyd £765 at achos Macmillan yn lleol mewn Stondin Gacennau o flaen Neuadd yr Eglwys ar 14 Medi.
Dymuna Frances a Rhiannon ddiolch o galon i bawb a gyfrannodd mewn unrhyw fodd.
A sum o £765 in aid of Macmillan locally was raised at the Cake Stall in front of the Church Hall on 14 Sept.
A big thank you from Frances and Rhiannon to all who contributed.
