Trefn arferol y gwasanaethau (a hysbysebir yn wythnosol yn y Cambrian News ac yn fisol yn y Tincer) yw oedfaon am 2.30 ar y Sul cyntaf a’r trydydd o’r mis ac am 10.30 ar yr ail Sul (pan gynhelir oedfa deuluol), a’r pedwerydd Sul, ac ar y pumed pan mae pum Sul yn y mis. Mae oedfa gyntaf y mis fel rheol yn oedfa gymun. Cynhelir Clwb Sul am 10.30 ac eithrio yn ystod gwyliau ysgol a chroesewir plant sy’n byw yn lleol neu sy’n mynychu’r ysgol leol.
Gweinidog 2016+ Y Parchg Peter Thomas, Garth Celyn, Ffordd Ddewi, Aberystwyth,(01970 625370)