Horeb: 2008–20

2008

1 Mehefin Diaconiaid Newydd

Y Parchg Judith Morris, Mrs Mairwen Jones, Mrs Sandra Beechey a Mr Henry Thomas.

11 Mehefin Cyngerdd Cymorth Cristnogol

29 Mehefin Taith Bethel a Horeb i Lwyndafydd


Brynhawn Sul 29 Mehefin 2008 cynhaliwyd Oedfa yn Llwyndafydd dan arweiniad y Parchedig Judith Morris.
Yn ystod yr Oedfa cyflwynwyd anrheg i Mrs M. Morris. Bu’r diweddar Barchg A P Morris yn weinidog yn Llwyndafydd rhwng 1949 a 1952.

7 Medi Ymweliad y Parchg Ddr P L Lianzula o Aizawl, Mizoram, India

Cafwyd cyfraniad gwerthfawr gan y Parchg P L Lianzula i’r oedfa gymun pnawn Sul yn Horeb. Anerchodd ar hanes sefydlu’r Bedyddwyr yn Mizoram, ac ar gyflwr gobeithiol y grefydd Gristnogol yn India.
Daeth â’i anerchiad i ben â gweddi rymus yn ei iaith ei hun.

21 Rhagfyr Oedfa Nadolig

2009

10 Mai Cymanfa Ganu

5 Gorffennaf Taith i Salem

Teithiodd 35 o aelodau Horeb, Bethel a ffrindiau i Salem, Cwm Nantcol ddydd Sul 5 Gorffennaf 2009.
Cafwyd oedfa fendithiol dan arweiniad y Parchg Judith Morris, a bregethodd ar y testun: ‘Tyrd i weld’ Ioan 1:46. Darllenwyd o’r Ysgrythur gan Isaias Grandis, o Drefelin yn y Wladfa, a chanwyd yr emyn ‘Wel dyma hyfryd fan’ gan Bryn Roberts. Cyflwynwyd yr emynau gan aelodau o Fethel a Horeb. Yr organydd oedd Ceris Gruffudd.
Yn dilyn yr oedfa, difyr oedd gwrando ar ysgrifennydd Salem yn dweud hanes y capel a stori’r llun enwog ‘Salem’ o waith Curnow Vosper.
Mwynhawyd te blasus yn Yr Hen Feudy, Llanbedr, cyn cychwyn adref.

2010

3 Ionawr Bedydd Manon a Derfel ym Methel

27 Mehefin Ymwelwyr o Lesotho

Elen o Joppa, Caryl o Horeb (y ddwy yn fyfyrwyr o Goleg y Drindod), Moleboheng o Lesotho, Myfyrwraig yn Ngholeg Addysg Lesotho a Christine (Tiwtor yng Ngholeg Addysg Lesotho) a’r Parchg Judith Morris

2–10 Hydref

Taith Dewi

2011

15 Ebrill Cyngerdd er budd ‘Cronfa Tirion’

7 Mai Taith ar hyd llwybr y Crynwyr o gwmpas Dolgellau

12 Mehefin Taith i Soar y Mynydd

1931–2011 Y Festri yn 80 oed!
Cynhaliwyd Barbeciw i ddathlu’r achlysur nos Wener 22 Gorffennaf yn Stablau Siân.

24 Gorffenaf Y Capel, y Gymdeithas a pherfformiad

Huw, Rhiannon a Judith


Ddydd Sul 24 Gorffennaf 2011 cafwyd oedfa arbennig yn Horeb yng nghwmni Rhiannon Williams a’i gŵr Huw, a oedd yn cyfeilio iddi. Mae Rhiannon yn paratoi traethawd doethuriaeth ym Mhrifysgol Morgannwg ar y Capel, y Gymuned a Pherfformiad. Cafwyd perfformiad yn seiliedig ar ei phrofiadau yn ei chapel ym Mhontiets gan ddwyn atgofion i bawb o brofiadau cyffelyb.

18.12
Cynhaliwyd oedfa Nadolig Horeb pnawn Sul 18 Rhagfyr o flaen llond capel o aelodau a ffindiau. Cafwyd cyfraniadau gan Barti Merched Horeb, Bryn Roberts a Sian, ‘y proffwydi’, plant yr Ysgol Sul a Sion Corn.

Parti Merched

Oedfa hel atgofion

Yn ystod yr wythnos 9-13 Ionawr, fel rhan o ddathliadau pen blwydd Festri Horeb yn 80 oed a chyfle i ymuno mewn prosiect arbennig gan Rhiannon Williams, trefnwyd arddangosfa o hen luniau a chreiriau yn ymwneud â hanes y capel. Galwodd nifer o’r aelodau a chyfeillion o bell ac agos i mewn i fwynhau paned o de a chyfle i hel atgofion.

Dydd Sul 15 Ionawr cynhaliwyd oedfa arbennig i ddathlu’r achlysur ymhellach. Bu nifer o’r aelodau yn sôn am eu plentyndod mewn amryw o gapeli ar draws Cymru. Cafwyd atgofion yn ymwneud â thraddodiad yr Undodwyr, y Methodistiaid-Calfinaidd a Wesleaidd, Yr Eglwys yng Nghymru a’r Bedyddwyr. Erbyn hyn mae’n braf ein bod yn cydaddoli o dan yr un to.

10 Mehefin Derfel a’r Fflam Olympaidd

24 Mehefin PERERINDOD HOREB a BETHEL I BANTYCELYN

Eleni penderfynwyd ymweld â Phantycelyn, cartref yr emynydd William Williams (1717–91). Cychwynnwyd yn brydlon am 12.00 ac fe’n croesawyd yn gynnes i’r ffermdy gan Mr a Mrs Cecil Williams.

Ar ôl treulio peth amser yn y tŷ aethom draw i Gapel Pentregwyn, lle y cynhaliwyd oedfa dan arweiniad y Parchg Judith Morris. Cafwyd hwyl a bendith wrth ganu rhai o emynau enwog Pantycelyn i gyfeiliant ein horganydd Ceris Gruffudd. Cyflwynwyd rhodd fechan i Mr a Mrs Williams i ddiolch am eu caredigrwydd a’u hamser.

Ymlaen wedyn i Lanymddyfri lle y cawsom de blasus iawn yn y Tea Rooms, ynghyd â phenillion gan Mairwen Jones, ac ymweliad â Chapel Coffa Pantycelyn gerllaw. Trist meddwl fod yr adeilad mewn perygl o gael ei ddymchwel. Daeth y daith i ben ag ymweliad â bedd Pantycelyn ym mynwent Eglwys Normanaidd Llanfair-ar-y-bryn. Fe’n tywyswyd o gwmpas yr eglwys gan David Gealy a chawsom gyfle i weld y creiriau diddorol a’r ffenestri lliw hardd a gwerthfawr.

O gwmpas bedd William Williams, Pantycleyn

30 Medi

6 Hydref DIWRNOD I’R BRENIN

30 Tachwedd

Meryl Thomas yn dangos sut i baratoi ar gyfer y Nadolig o flaen cynulleidfa Horeb a Bethel, Aberystwyth. Cafwyd gwersi defnyddiol iawn a chyfle i flasu’r canlyniadau ar y diwedd.

2013 20 Ionawr
Oedfa Hoff Adnod ac Emyn

Hydref Diolchgarwch

Anerchiad gan Carol Hardy

12 Tachwedd Noson Pwdin, Paned a Chwis

Difrod i’r to 18.12.13. Nôl yn y Capel 26.1.14.

2014

Tachwedd
Project Cofio a Myfyrio

2015
Oedfa Ffarwelio â Judith

Y Parchg Judith Morris (Ysgrifennydd Undeb Bedyddwyr Cymru) a’r Parchg Eirian Wyn Lewis

11 Mehefin Oedfa Coda Ni

17 Mehefin Undeb Bedydddwyr Cymru yn dathlu’r 150

2018

Y festri’n llawn ar gyfer darlith Mererid Hopwood ar Waldo i gloi Project Cofio a Myfyrio y Tair Gofalaeth 10.5.18

GWAITH AR Y TO