Dyddiadur 2025 Calendar 2025

Tachwedd 19 – Nos Fercher – Cymdeithas y Penrhyn – Horeb, Penrhyncoch – 7.30 – Meinir Howells

Tachwedd 21 – Nos Wener – Cymdeithas Lenyddol y Garn – 7.30 – Noson yng nghwmni Georgia Ruth

Tachwedd 29 – Neuadd yr Eglwys , Penrhyncoch – Bore sadwrn, Bore Coffi, te a chacen i ddathlu’r Nadolig – stondin danteithio tymhorol

Merched y Wawr Penrhyncoch

Dewch i ymuno gyda ni Neuadd Y Penrhyn yr ail nos iau o bob mis am 7 yh

Cysylltwch gyda Glenys Morgan 07792967925 glenysmorgan10@gmail.com am fwy o fanylion. Croeso i siaradwyr cymraeg a dysgwyr cymraeg.

Dechrau 6 Awst – Bob nos Fercher
Peldroed 5 bob ochr, troi fynny a chwarae, Merched a Menywod yn y Cwrtiau Cymuned Kevin Jenkins Penrhyncoch FC – 7.30-8.30

Start 6 August – Every Wednesday
Turn up and Play 5 a side Football League for Girls and Women at the Kevin Jenkins Community Courts at Penrhyncoch FC – 7.30-8.30

Merched y Wawr (Tachwedd 2023)

Heno cafwyd noson hwyliog gyda changen Penrhyn-coch yng nghwmni Elen Bowen.  Roedd yn ddifyr iawn clywed ei stori am greu gemwaith. Cafwyd gwledd o gacennau a phaned flasus a diolch am wahodd clwb gwawr y Pennau ac Angylion Aber, Cangen Llanafan, Mynach, Capel Iwan a rhai gwragedd lleol i’r noson gymdeithasol hon. 

Trwy caniatad y Tincer

Taith Cymdeithas y Penrhyn 2022

Taith Cymdeithas y Penrhyn wedi cyrraedd Eglwys Llanrhaeadr-ym-Mochnant – mewn pryd i weld y cerflun o’r Esgob William Morgan yn cael ei osod yn ei le y tu mewn i’r eglwys. Roedd wedi bod y tu allan i’r eglwys ers 2012 pan y’i dadorchuddiwyd gan y Prif Weinidog Carwyn Jones.

Members of Cymdeithas y Penrhyn in Llanrhaeadr-ym-Mochnant Church. They arrived just in time to witness the sculpture of Bishop William Morgan being relocated inside the church. It had stood outside the church since 2012 when it was unveiled by First Minister Carwyn Jones.

Yr Esgob William Morgan yn ei le y tu mewn i Eglwys Llanrhaeadr-ym-Mochnant.
Y cerflunydd yw Barry Davies.

Cyngor Sir Ceredigion / County Council: Trefeurig

Llongyfarchiadau
i Caryl Roberts!

Congratulations
to Caryl Roberts!

Cyng. / Clr. Caryl Roberts

Diolch i Dai Mason am ei wasanaeth dros y degawd diwethaf.

Thanks to Dai Mason for his service over the last decade.