
Cynhaliwyd cinio blynyddol Cymdeithas y Penrhyn yn Nhafarn y Maes, Capel Bangor nos Sadwrn 18 Mawrth.
Cafwyd amser difyr yng nghwmni’r siaradwr gwadd, Catrin M. S. Davies, Tal-y-bont.
Dechreuodd drwy ddangos un o’i thrysorau personol, sef hen lun o ferched ei theulu ar ochr ei mam, o ardal Cofadail, a dynnwyd yn stiwdio y ffotograffydd Ebenezer Morgan (1820-1906) yn Aberystwyth.
Hefyd, cafwyd straeon difyr am ei thaith ym Mangladesh wrth baratoi un o raglenni Dylan ar daith ar S4C.
Cymdeithas y Penrhyn’s annual dinner was held at Tafarn y Maes, Capel Bangor on Saturday 18 March.
The guest speaker was Catrin M. S. Davies, Tal-y-bont.
She showed us one of her favourite possessions – an old family photograph of her ancestors from Cofadail, taken in the studio of the photographer Ebenezer Morgan (1820-1906) in Aberystwyth.
She also spoke of her experiences in Bangladesh during the filming of a programme in the Dylan ar daith S4C series.