Mis Hydref 2022







Sbri Diri
Cafodd disgyblion y Cyfnod Sylfaen hwyl fawr yn Sbri Diri yr Urdd yn Ysgol Penweddig drwy ganu a dawnsio yng nghwmni Siani Sionc a Mr. Urdd wrth gwrs.
Gweithdy Barddoniaeth
Bu disgyblion blwyddyn 5 a 6 mewn gweithdy rhithiol yng nghwmni y prifardd Ceri Wyn Jones. Pwrpas y gweithdy oedd i greu cwpled ar gyfer cerdd arbennig gan Ysgolion Cynradd Ceredigion i dîm pêl-droed Cymru i ddangos ein cefnogaeth iddynt.
Cogurdd
Braf oedd gweld cymaint o blant yn cymryd rhan yng nghystadleuaeth Cogurdd yr Urdd eleni. Bu Telyn, Harrison, Florence, Mya, Cai, Harri, Twm, Elis, Iona a Gruff yn creu brechdanau bendigedig. Diolch yn fawr iawn i Mrs. Watkins am feirniadu. Llongyfarchiadau mawr i Gruff a wnaeth ddod yn fuddugol yn rownd yr Ysgol a da iawn iddo am gymryd rhan yn y rownd rhanbarthol yn Ysgol Bro Teifi.
Coedwig Gogerddan
Aeth plant y Dosbarth Derbyn draw i Goedwig Gogerddan am dro. Cawson nhw llawer o hwyl yn gwneud amryw weithgaredd yna.
Sgwrs PC Dave Goffin
Diolch i PC Dave Goffin am gynnal sgwrs gyda’r disgyblion am ddiogelwch Gŵyl Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt.
Llysgenhadon Gwych
Da iawn i Lysgenhadon Gwych yr Ysgol am hyrwyddo hawliau plant ac annog dysgwyr i gwblhau holiadur Comisiynydd Plant Cymru, Rocio Cifuentes, cyn gwyliau’r hanner tymor.
Cwrdd Diolchgarwch
Cynhaliwyd ein Cwrdd Diolchgarwch yng Nghapel Horeb. Seiliwyd ein gwasanaeth ar stori ‘Y Samariad Trugarog’. Cafwyd darlleniad o’r Beibl, drama o’r Stori, llefaru y gerdd ‘Eisiau ac Angen’ gan Menna Jones, gweddïau ac emyn. Da iawn chi blant am gyflwyniadau gwych!
Ysgolion Pen-llwyn a Penrhyn-coch
Sut mae fy ardal yn fy ysbrydoli?
Dyma gwestiwn ein thema ar hyn o bryd. Bu sawl trip diddorol a chyffrous.
Blwyddyn 1, 2, 3 a 4
Bu cyffro mawr yn yr ysgol pan ffeindiodd blentyn ddilledyn carpiog di enw ar iard yr ysgol. Wedi edrych yn ofalus ar y dilledyn gwelwyd bod neges ddiddorol wedi ei guddio yn y dilledyn. Neges oddi wrth Pat Pen-dam yn holi am gwmni plant Ysgol Penrhyn-coch yn Llyn Pen-dam. Y plant felly yn mynd ati ar google maps i ddarganfod ble roedd Llyn Pen-dam. Roedd y cyffro y diwrnod canlynol gyda’r plant yn mynd ar y bws i Lyn Pen-dam. Ar ôl cyrraedd yno roedd yna neges yn aros iddynt yn ei holi i greu creadur a byddai yn gallu byw yn Llyn Pen-dam yn gwmni i Pat. Roedd y plant yn barod am yr her. Nôl yn yr ysgol bu y plant yn gwrando ar chwedlau enwog – Llyn Y Fan Fach a hanes Llyn Barfog ac yn mwynhau dysgu am greaduriaid a chymeriadau gwahanol. Eu her nawr yw creu cymeriadau eu hun – ysgrifennu portreadau ac yn creu model 3d allan o glai. Mae’r plant wrth eu bodd yn arbrofi ac yn casglu syniadau. Am gyffrous!
Blwyddyn 5 a 6
Y mae blwyddyn 5 a 6 yn cael hwyl arni wrth edrych ar y diwydiant mwyngloddio a fu yn yr ardal. Yn gyntaf, pob clod i’r plant am gerdded taith y mwyngloddwyr o Gwmerfyn i Gwmsymlog – tua 4 milltir. Yna, aethant i Fwynglawdd Llywernog am y dydd i flasu beth oedd y daith tanddaearol a bywyd bob dydd fel i’r mwyngloddwyr yno. Yn olaf, bu’r plant i Gwmystwyth i edrych ar yr adfeilion a dysgu mwy am hanes y mwyngloddwyr yng nghwmni Ioan Lord. Diolch i Ioan am siarad gyda’r plant ac am gynnal gweithdy yn yr ysgol hefyd. Yr oedd pob lleoliad yn sbardun wych i’n gwaith Llythrennedd a Chelfyddydau mynegiannol. Bu’r plant yn sgetsio a thynnu ffotograffau tra yn y 3 lleoliad.
Diolch i Anna ap Robert am ddod mewn i’n helpu i greu dawns i ddangos bywyd y mwyngloddwyr. Diolch hefyd i Miss. Seren am ein helpu i greu darn o waith tecstiliau am fwyngloddio.
Ein cam nesaf yw creu arddangosfa greadigol o’r hyn a ddysgwyd erbyn canol mis Tachwedd. Haws ddweud wrth wynebau’r plant y cyffro a gawson nhw wrth ddysgu am hyn.