Hanes byr (ysgrifennwyd tua 2008)
Cynhaliwyd pwyllgor agored yn Neuadd yr Eglwys – sef yr ysgol ddyddiol amser hynny – ar nos Fawrth, Tachwedd 6ed 1945 i drafod y posibilrwydd o godi Neuadd yn y Penrhyn er budd trigolion y plwyf.
Penderfynwyd yn unfrydol gario ymlaen â’r cynllun ac etholwyd Pwyllgor o ddau ar bymtheg, yn cynnwys Cadeirydd, Is-Gadeirydd, Trysorydd ac Ysgrifennydd. Mae’n ddiddorol sylwi fod y pwyllgor yr adeg honno yn cynnwys Cynghorwyr, Gweinidog, Ficer, Athro, a nifer o adeiladwyr. Mae hynny’n profi fod yna ddiddordeb aruthrol gan y pwyllgor i gario ymlaen â’r gwaith o baratoi a chodi arian tuag at y fenter fawr hon.
Mewn pwyllgor a gynhaliwyd ar Ragfyr 4ydd 1945 fe etholwyd wyth o’r aelodau i fynd o gwmpas y plwyf mewn ymgyrch i godi arian. Byddent yn casglu tair ceiniog y tyddyn a hynny yn wythnosol am gyfnod o amser, a chyflwyno’r casgliad i’r ysgrifennydd ar ddiwedd pob mis. Yn yr un pwyllgor gofynnwyd i ddau o’r aelodau gysylltu a Syr Lewis Pryse, Gogerddan. Roedd teulu Pryse yn berchen Stad Gogerddan a nifer o ffermydd a thyddynnod yn y plwyf yr adeg honno, ac roedd y pwyllgor yn mawr obeithio y byddai Syr Lewis yn barod i werthu darn o dir iddynt i adeiladu arno. Yn y cyfamser bu’r pwyllgor yn brysur iawn yn codi arian drwy gynnal nifer o weithgareddau fel Cyngherddau, Dramâu, Te’r Gwyr (‘Bachelor’s Tea’), Mabolgampau, a nifer fawr o Yrfaon Chwist.
Ar ol cyfnod o saith mlynedd o waith caled a llafurio i godi arian ar gyfer codi’r neuadd fe gynhaliwyd Pwyllgor ar y 6ed o Chwefror 1952, lle y darllenwyd lythyr ‘dyddedig 2ail o Chwefror’ yn cofnodi fod y darn tir at godi Neuadd y Penrhyn wedi ei dderbyn a’i ganiatau am bris o un swllt ar y telerau fod y Pwyllgor yn gyfrifol am unrhyw gostau cyfreithiol. Hefyd y Pwyllgor fyddai’n gyfrifol am ffensio y darn tir. Erbyn hyn roedd Stad Gogerddan wedi cael ei throsglwyddo yn gyfan i’r Coleg yn Aberystwyth, ac mae’n hynod debyg fod Syr Lewis ac awdurdodau’r coleg yn gytun ar y penderfyniad o werthu’r tir i’r pwyllgor. Roedd y tir yn rhan o fferm Cwmbwa ar yr adeg honno ac yn eiddo i Pryse Gogerddan, ac roedd yn ofynnol fod y tenant a oedd yn ffermio Cwmbwa yn rhoi sêl ei fendith ar y gwerthiant tir cyn i’r coleg ei drosglwyddo i’r pwyllgor.
Penderfynwyd dechrau torri’r seiliau Dydd Sadwrn 9fed o Fai 1953, fel y byddid yn barod i adeiladu cyn gynted ag y derbynnid trwydded adeiladu a chael dwr i’r safle.
Pasiwyd i’r Ysgrifennydd, ar ran y Pwyllgor, estyn gwahoddiad i bawb gynorthwyo efo’r adeiladu. Penderfynwyd hefyd wahodd dwy wraig weithgar o’r ardal sef Mrs R R Davies Llwyngronw a Mrs J Davies Pant-drain i osod y ddwy garreg gyntaf yn sail y Neuadd.
Tra bu’r gwyr wrthi yn adeiladu fe fu’r pwyllgor yn ddygn iawn yn codi arian i chwyddo’r gronfa er mwyn prynu nwyddau ar gyfer yr adeilad, ac nid oedd hon yn dasg hawdd gan mai yr un rhai oedd yn cyfrannu bob amser a gwneud hynny fel cefnogaeth i’r fenter fawr hon.
Wedi blynyddoedd o weithgarwch dygn agorwyd Neuadd y Penrhyn yn swyddogol Nos Fercher 28ain o Fedi 1960 am 7 o’r gloch gan Mr J Garfield Davies, Penlan, Llandre (o hen deulu Penyberth).Y mae’n werth nodi fod y llyfr cofnodion yn cynnwys braslun o hanes yr amgylchiad a ymddangosodd yn y papurau lleol. Talwyd teyrnged hefyd i’r pwyllgor bychan a fu wrthi’n ddiwyd dros y blynyddoedd yn casglu a threfnu dulliau i chwyddo’r gronfa. At hynny y mae’n deg talu gwrogaeth i’r dynion a fu’n llafurio’n wirfoddol i godi’r neuadd; dim ond am blastro y bu’n rhaid talu.
Yn ystod yr amser hyn bu nifer o gyfeillion y gymdeithas yn taeru droeon na fyddai’r neuadd fyth yn cael ei chodi. Mwy o glod, felly, i’r ychydig rai am ddal ati a llwyddo.
Fel y soniwyd yn gynharach fe ddechreuwyd trwy dewis pwyllgor cyfyng yn union wedi’r Ail Ryfel Byd (1939-1945) cyn i nemor neb o’r bechgyn ddychwelyd o’r lluoedd arfog, ond ym mis Mai 1946 rhoddwyd y gorau i’r pwyllgor hwn a phenderfynwyd ei wneud yn bwyllgor cyhoeddus.
Cynhaliwyd dramâu ac ati yn Neuaddau Tal-y-bont, Rhydypennau, a Neuadd y Brenin Aberystwyth am gyfnod maith, a gwelwyd gwragedd y pwyllgor yn gwerthu tocynnau am ddyddiau cyn belled â Thre’r-ddol, Taliesin, Goginan, Llanfarian, Penparcau, Llanbadarn, Capel Bangor ac Aberystwyth.
Bu’r dasg yn un hir, ond ni fu erioed fwy o gydweithio hapus nag a gafwyd rhwng y ffyddloniaid. Er mwyn arbed arian i’r pwyllgor aeth y Cadeirydd a’r Ysgrifennydd ynghyd i gynllunio’r neuadd. Paratodd yr Ysgrifennydd y cynllun, a derbyniwyd ef gan y pwyllgor cynllunio (hen Gyngor Sir Ceredigion) heb unrhyw newid.
Bu’r ysgrifennydd yn dadlau’n hir efo’r Cyngor Sir ynglyn â chael Grant o’r Gronfa Ddegwm, ac o’r diwedd cytunodd y Cyngor i roddi grantiau i Bwyllgorau Neuaddau yn y Sir (a) tuag at adeiladu, a (b) at gynnal Neuaddau. Derbyniodd Neuadd y Penrhyn £400 at gost yr adeiladu.
Rhaid talu teyrnged fawr i aelodau’r gangen leol o Sefydliad y Merched (‘Women’s Institute’) am eu gwaith enfawr yn gwau a gwnio dros y blynyddoedd wrth baratoi ffeiriau haf i chwyddo’r gronfa adeiladu.
Defnydd a wneir o’r Neuadd
Ysgol Feithrin
Mae Neuadd y Penrhyn yn gartref sefydlog i’r Ysgol Feithrin ers pymtheg mlynedd ar hugain bellach. Ar y dechrau roeddent yn defnyddio’r neuadd dri bore’r wythnos ond bellach maent yn ei ddefnyddio bum bore ers rhyw bedair blynedd. Yn y neuadd maent yn cynnal llawer o weithgareddau eraill fel y bore coffi, Ffair Haf a phartion Nadolig er mwyn codi arian i gynnal y mudiad ac i sicrhau y dechreuad gorau posibl i’r plant cyn symud ymlaen i?r ysgol gynradd.
Cylch Ti a Fi
Mae’r mudiad hwn, sef y grwp rhiant a phlentyn, yn cyfarfod unwaith yr wythnos. Mae’n rhoi’r cyfle i blant o dan bedair oed chwarae’n ddiogel, ac i’r rhieni i ddod allan a chwrdd â’i gilydd. Mae’n bwysig cael grwp fel hyn mewn pentre fel Penrhyn-coch sydd wedi datblygu gymaint yn diweddar, achos dyw rhai rhieni sy’n symud i mewn ddim yn nabod rhieni eraill yn y pentre, ac maent yn gallu teimlo’n unig iawn. Hefyd mae’r Cylch yn trefnu bod pobol yn dod i mewn i siarad â’r rhieni, er enghraifft TWF, y mudiad sy’n cefnogi rhieni i fagu plant yn ddwyieithog.
Eisteddfod Gadeiriol y Penrhyn
Mae Eisteddfod Penrhyn-coch yn dyddio yn ôl i’r tridegau, ond fe fu yna doriad am gyfnod wedi hynny, ac fe ailddechreuwyd eto yn y chwedegau. Pryd hynny roedd yr Eisteddfod yn cychwyn brynhawn ddydd Sadwrn am un o’r gloch a chyfarfod yr hwyr yn dechrau am chwech o’r gloch ac yn gorffen tua dau o’r gloch fore Sul. Erbyn heddiw mae cyfarfod cyntaf yr Eisteddfod ar nos Wener, gyda?r holl gystadlaethau yn gyfyngedig i fechgyn a merched dan ddeunaw oed o fewn cymuned Trefeurig ac yn rhoi cyfle gwych i’r bobl ifanc yma i fynd ar y llwyfan, rhai ohonynt am y tro cyntaf. Mae’n deg cofnodi fod amryw sydd wedi cystadlu ym Mhenrhyn-coch wedi cyrraedd Eisteddfod yr Urdd a hefyd yr Eisteddfod Genedlaethol; tipyn o gamp yn wir. Mae’r Eisteddfod yn ailddechrau brynhawn dydd Sadwrn am un o’r gloch, a’r cystadlaethau hyn yn agored i rai dan ddeunaw oed. Mae cyfarfod yr hwyr yn cychwyn am saith o’r gloch ac yn agored i rai dros ddeunaw oed.
Dosbarthiadau Cymraeg
Gan fod Penrhyn-coch wedi datblygu gymaint yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf ac yn parhau i ddatblygu heddiw mae llawer iawn o deuluoedd di-gymraeg yn symud yma i fyw. Felly mae’n braf i weld rhai ohonynt yn gwneud ymdrech i ddysgu’r iaith drwy gyfrwng y dosbarthiadau gan fawr obeithio y byddant yn barod i gymdeithasu yng ngweithgareddau’r ardal ac yn cefnogi yr hyn sydd yn digwydd yn y Neuadd a mudiadau eraill. Oherwydd hyn mae’n hanfodol bwysig fod dosbarthiadau o’r math hyn yn cymryd lle mewn cymdeithas.
Sioe Penrhyn-coch
Pwyllgor y Neuadd sydd yn gyfrifol am gynnal y Sioe yn flynyddol. Mae nifer o gystadlaethau yn y sioe, gan gynnwys cynnyrch gardd, coginio, cyffaith, gosod blodau, gwaith llaw, gwnio a gwau, crefftau, gwaith coed a metal, a chystadlaethau plant. Mae llwyddiant y sioe yn amlwg yn denu cystadleuwyr o bell ac agos i gystadlu, ac mae’r safon yn go arbennig a’r byrddau yn edrych yn urddasol a lliwgar ac yn wledd i’r llygaid.
Partion Pen blwydd
Un peth sydd ar gynnydd ac yn cael ei gynnal yn y neuadd ydi partion pen blwydd. Mae’r rhieni yn teimlo fod y neuadd yn lle delfrydol i’w cynnal gan fod ganddynt ddigon o le i’r plant chwarae a chael castell neidio (‘bouncy castle’), a hefyd mae hyn yn arbed llanast yn eu cartrefi. Felly mae yn hynod bwysig ein bod yn barod i frwydro i sicrhau dyfodol y neuadd.
Cyngor Cymuned
Mae Cyngor Cymuned Trefeurig wedi arfer cyfarfod yn y neuadd bob yn ail fis ag Ysgol Trefeurig.
Gweithgareddau codi arian y Neuadd
Mae’n ddigon naturiol fod Pwyllgor y Neuadd yn cynnal ei weithgareddau yn y neuadd hefyd, er enghraifft gyrfaon chwist ac amryw o gyngherddau, y cyfan er mwyn chwyddo’r gronfa i’n galluogi i dalu biliau fel yswiriant, olew, trydan, a nifer o fanion bethau eraill.
Mudiadau eraill sy’n defnyddio’r Neuadd
Mudiadau eraill sy’n defnyddio’r neuadd o bryd i’w gilydd yw’r Clwb Pêl-droed, Dosbarthiadau Gwnio, Aelwyd Trefeurig, Cangen Plaid Cymru Bro Dafydd a phwyllgor y cae chwarae, PATRASA, a dau grwp o bobl ifanc yn ymarfer chwarae band yn eithaf rheolaidd yn ystod misoedd y gaeaf.
Gwelliannau
1.Y To
Mae’r to yn un gwreiddiol ers pan gafodd y Neuadd ei chodi yn ôl yn y pumdegau, a gyda threiglad y blynyddoedd mae bellach yn eithaf bregus gan ei fod o wneuthuriad asbestos ac yn dechrau gollwng dwr drwyddo. Mae hyn yn peri cryn bryder i ni fel pwyllgor oherwydd y perygl i iechyd pobl. Gore po gyntaf y medrwn ei waredu er diogelwch y cyhoedd.
2. Cyfleusterau i’r Anabl
Mae rheolau wedi cael eu gyflwyno sy’n ein gorfodi ni i wneud yn siwr fod pobl anabl yn gallu defnyddio’r neuadd. Mae’r gwaith sydd yn angenrheidiol os ydym i gwrdd â’r gofynion yn cynnwys lledu’r drysau i ganiatau mynediad i gadair olwyn, toiledau arbennig i’r anabl, a ‘hearing loop’ yn y brif neuadd a’r ystafell bwyllgor er lles y byddar.
3. Cegin ac Ystafell Bwyllgorau
Pan adeiladwyd Neuadd y Penrhyn ym 1953-60 mae’n amlwg nad oedd rheolau iechyd a diogelwch yn bodoli i raddau helaeth, a dyma un o’r rhesymau ein bod am ail leoli y gegin a’r ystafell bwyllgor. Ar hyn o bryd mae’r ddwy ystafell yng ngwaelod y neuadd. Mewn geiriau eraill maent o dan y llwyfan a grisiau yn arwain i fyny i gefn y llwyfan. Mae’r grisiau yn hynod o beryglus gan ei bod yn gul a’r nenfwd yn sobr o isel. Mae’n drafferthus a pheryglus iawn i fynd â phrydau bwyd, llestri a diodydd twym i fyny’r grisiau i gefn y llwyfan ac i’r brif neuadd. Mae rheolau iechyd a diogelwch yn ein hannog ni i gymryd y camau hyn er diogelwch y rhai sydd yn defnyddio’r Neuadd. Y bwriad yw codi cegin ac ystafell bwyllgor newydd yng nghefn y Neuadd fel bod y cyfan ar yr un lefel â’r brif neuadd.
4. Drysau a Ffenestri
Mae’r drysau a’r ffenestri presennol wedi bodoli ers dros ddeugain mlynedd a phump, ond erbyn hyn maent mewn cyflwr truenus ac wedi gweld eu hamser gorau. Ein bwriad yw eu newid am rhai uPVC, a hynny gobeithio yn torri i lawr ar gostau cynnal a chadw, a hefyd yn fwy cyfeillgar i’r amgylchedd.
Mae’n rhaid cofnodi ein bod fel pwyllgor wedi rhoi llawr newydd ar y neuadd rhyw bum mlynedd yn ôl ar gost o £4,200. Hefyd rydym wedi gorfod ailweirio’r trydan drwy’r neuadd gan nad oedd i fyny i’r safon diogelwch. Digwyddodd hyn fis Mawrth 2005 ar gost o £11,182. Roedd yn hanfodol fod y gwaith uchod wedi ei gwblhau cyn diwedd Mis Mawrth 2005, neu byddai’r Cyngor Sir wedi gwrthod trwydded berfformio i?r neuadd. Byddai hynny wedi golygu cau’r drysau am gyfnod hyd nes y cwblheid y gwaith ac mi fyddai hynny wedi bod yn drychineb o’r mwya ac wedi effeithio’n niweidiol ar lawer o fudiadau. Rydym hefyd ar fin gwario swm sylweddol ar system larwm tân.
A short history (written c. 2008)
On 6 November 1945 an open meeting was held in the Church Hall, where the village day school was held at that time, to discuss the possibility of erecting a village hall for the benefit of the parish residents.
It was unanimously agreed to go ahead with this plan and a committee of fifteen was elected, comprising a Chairman, Vice-chairman, Treasurer and Secretary. The original committee included councillors, a minister, a vicar, a teacher and several builders, proving that there was a broad spectrum of interest in the project.In a committee held on 4 December eight members were elected to visit each household in the parish to raise money. Threepence was collected each week for a number of weeks and the money handed over to the secretary at the end of each month. At the same committee two members were asked to contact Sir Lewis Pryse, Gogerddan. The Pryse family owned the Gogerddan estate and several farms and cottages in the parish at that time, and the committee hoped that Sir Lewis would be willing to sell a piece of land for building purposes. In the meantime the committee was busy raising funds by holding concerts, plays, a sports day, a ‘Bachelor’s Tea’ and whist drives.
On 6 February 1952, after seven years of fund-raising, a committee meeting was held and a letter dated 2 February was read out confirming that the piece of land for the village hall had been accepted and approved for the sum of one shilling on condition that the Hall Committee be responsible for all legal costs and also for fencing the land. By this time Gogerddan estate had been transferred to the University at Aberystwyth, and it is likely that Sir Lewis and the college authorities were in agreement as to the sale of the land to the Penrhyn-coch Hall Committee. The piece of land was part of Cwmbwa farm, and owned by Pryse Gogerddan, and it was necessary for the tenant farming Cwmbwa to approve the sale of the land before the college could transfer it to the Committee.
Plans for the hall were drawn up by the chairman and secretary of the Hall Committee and accepted by the planning committee of the old Cardiganshire County Council. Frequent applications to the Council for a grant eventually bore fruit and £400 towards the cost of building the new hall was received from Cardiganshire Tithe Fund.
The foundation stones were laid on Saturday 9 May 1953 by Mrs R. R. Davies, Llwyngronw, and Mrs J. Davies, Pant-drain, and building work began as soon as the building licence and water for the site was obtained. While the menfolk were busy with the building work, the committee members were equally busy raising money to equip the building. After many years of hard work Neuadd y Penrhyn was officially opened on 28 September 1960 at 7.00 p.m. by Mr J. Garfield Davies, Penlan, Llandre (a member of the old Penyberth family). The minute books contain the report on the opening ceremony which appeared in the local newspaper. Thanks were paid to the small committee who had worked voluntarily over the years raising money and organising fund-raising activities, and also the men who had given of their time to build the hall. The only work which had to be paid for was the plastering.
The uses made of the village hall
Ysgol Feithrin
For thirty-five years Neuadd y Penrhyn has been the home of the local Ysgol Feithrin, which was originally held on three mornings a week but is now held every weekday morning. Events such as coffee mornings, a summer fair and Christmas parties are organised in order to raise funds to support the movement and to ensure the best possible start for children before they move on to primary school.
Ti a Fi Group
This parent and toddler group meets once a week, providing the children with an opportunity to play together in a safe environment and for their parents to socialise. A group of this kind is invaluable in that it helps in-comers to get to know other parents of young children in the village. Sometimes talks are given by individuals from organisations such as TWF, an organisation which encourages parents to raise their children bilingually.
Penrhyn-coch Eisteddfod
The Penrhyn-coch Eisteddfod has been held without a break since the 1960s, although it does in fact date back to the 1930s. At one time the eisteddfod was held on a Saturday, with an afternoon and evening session, but nowadays the first session is held on Friday evening and limited to children under 18 years who reside within Trefeurig parish. It provides these youngsters with an excellent opportunity to perform on stage, many for the first time. Two sessions are held on the Saturday, with competitions for young people under eighteen in the afternoon and for adults in the evening.
Welsh Classes
Since Penrhyn-coch has developed so much over the past twenty years and continues to do so, many non-Welsh speakers have moved into the village. It is gratifying that some wish to learn Welsh, hopefully with the aim of taking part in village activities and supporting events at the hall.
Penrhyn-coch Show
The Hall Committee is responsible for the annual show, at which the competitions include garden produce, cookery, preserves, flower arranging, hand crafts, sewing and knitting, crafts, woodwork and metalwork, and children’s competitions. The success of the show and the high standard attracts competitors from far and wide.
Birthday Parties
The village hall is gaining popularity as an ideal venue for children’s birthday parties, with plenty of space to play and to put up a bouncy castle.
Community Council
Trefeurig Community Council meets on alternate months in the village hall [and at Trefeurig school.]
Activities to raise money for the hall
Various activities and events, such as whist drives and concerts, are organised by the Hall Committee in order to boost the funds and help to pay for insurance, oil, electricity, etc
Other societies which use the Hall
Other societies which use the hall include the Football Club, Sewing Classes, Trefeurig League of Youth, Plaid Cymru’s Bro Dafydd branch, and the Playing Field Committee, PATRASA. Two pop groups practise regularly at the hall during the winter months.
Improvements
Roof
The roof is the original roof built when the hall was erected in the 1950s, and it is currently fragile since it is made of asbestos and is prone to leak. This is a cause for concern due to the danger to people’s health. The sooner it can be removed the better.
Disabled Access
Legislation requires that disabled access is available at the hall. The work necessary includes widening the doors in order to provide access for wheelchairs, and also the provision of disabled toilets, and a hearing loop in the main hall and in the committee room to help people who are hard of hearing.
The kitchen and committee rooms
At present the kitchen and committee room are at a lower level than the main hall, with a flight of steps leading up to the back of the stage. These narrow steps are extremely dangerous, especially when carrying food and hot drinks to the hall. Current Health and Safety regulations require major alterations, including moving the kitchen and committee room to the back of the hall so that everything is on the same level.
Doors and Windows
The present doors and windows are in a sorry state and need to be replaced by uPVC doors and windows. These would cut down on heating costs and be more environmentally friendly.
A new floor was installed some five years ago at a cost of £4,200 and in 2005 the hall was rewired at a cost of £11,182. Had this work not been completed by March 2005, the County Council would have withdrawn the hall’s performing licence. An expensive fire alarm system is to be installed in the near future.