Newyddion Ion–Tach / Jan–Nov 2020 News

Llwybr droed o Benrhyn-coch i IBERS/Bow St: “STOP THE CHOP”? (20-02-2020)
Gwaith wedi cychwyn ar y llwybr rhwng Penrhyn-coch a IBERS. Nid pawb sy’n hapus. Mae deiseb yn erbyn torri’r clawdd yn Swyddfa’r Post ac arwydd STOP THE CHOP wedi ymddangos ar y clawdd.

Penrhyn-coch/IBERS footpath: STOP THE CHOP? (20-02-2020)
Work has begun to build a footpath between Penrhyn-coch and IBERS. Not everyone is happy. A petition against removing the hedge has appeared in the Shop/Post Office, and a sign STOP THE CHOP has appeared on the hedge.

Eisteddfod Ceredigion 2020 (01-03-2020)
Cyfarfod codi arian
Meeting to raise funds for the National Eisteddfod


MAWRTH MARCH

Casgliad Florrie Hamer yn Archifdy Ceredigion
Helen Palmer, Archifydd Ceredigion, oedd y siaradwraig wadd yng nghyfarfod Urdd y Gwragedd yn Neuadd Eglwys S Ioan, Penrhyn-coch nos Lun 3 Mawrth. Cafwyd ganddi gyflwyniad difyr i gasgliad Florrie Hamer, gan ganolbwyntio yn bennaf ar ei pherthynas â theulu Stad Gogerddan.
Roedd Florrie Hamer yn gasglwr brwd o bob math o ddogfennau, yn lluniau, biliau, llythyron a thoriadau papur newydd. Ond yn bwysicach na hynny, gadawodd lyfrau nodiadau niferus a dyddiaduron yn cofnodi pob agwedd o fywyd pob dydd ar stad Gogerddan, bywyd sydd wedi hen ddiflannu erbyn hyn.
Gwnaeth yr un peth ar gyfer pentrefi Bow Street a Phenrhyn-coch (mae’r casgliad hwnnw yn Llyfrgell Genedlaethol Cynru) gan restru’r tai, dyddiad adeiladu a nodyn am bawb o’r trigolion. Diddorol oedd clywed am arferion cymdeithasol slawer dydd, Ysgoldy Lady Pryse, ac ymweliadau’r tinceriaid i’r ardal a chael darllen rhai o’r dogfennau drosom ein hunain.
Wrth edrych nôl heddiw gallwn werthfawrogi’r holl waith manwl â wnaed ganddi. Tamaid i aros pryd oedd hwn. Os oes diddordeb gyda chi i weld rhagor mae croeso mawr ichi yn Archifau Ceredigion, Canolfan Alun R. Edwards, Neuadd y Dre, Aberystwyth.
Dyma’r cyswllt i Gasgliad Florrie Hamer

The Florrie Hamer Collection in Ceredigion Archives
Helen Palmer, Ceredigion Archives was the speaker in St John’s Church Ladies Guild Monday night 3 March. A lively presentation focussed on Florrie Hamer’s relationship with the family at Gogerddan.
Florrie Hamer was a keen collector of all sorts of documents including photographs, bills, letters and newspaper cuttings. More important were her diaries noting all aspects of life on the Gogerddan estate – a way of life long gone.
She did simialr work for Bow Street and Penrhyn-coch (that collection is in the NLW) listing all the houses, date built, and a note of all of the inhabitants. It was interesting to hear of the social customs, of Ysgoldy Lady Pryse, and the visit of the tinkers to the area, and to read some of the documents for ourselves.
Looking back today we can appreciate Florrie Hamer’s detail work. But this was only a taster. If you would like to see some more visit the Ceredigion Archives at Canolfan Alun R. Edwards, Neuadd y Dre, Aberystwyth
Florrie Hamer Collection

Coronafeirws (23-03-2020)

Daeth popeth i stop ar 23 Mawrth 2020 oherwydd y Pandemig:

Os oes angen help:
Garej Tymawr: 828330
Siop: sioppenrhyn@btinternet.com neu 828312

Coronavirus (23-03-2020)

Everything came to a stop on 23 March 2020 during the first lockdown:

If you need help:
Tymawr Garage: 828330
Shop: sioppenrhyn@btinternet.com or 828312

Y Tincer (05-04-2020)

Y TINCER
25/3 Oherwydd y sefyllfa bresennol mae’n amhosibl cyhoeddi Y Tincer y mis yma yn ei ffurf arferol. Ond gan fod y papur yn cael ei baratoi’n ddigidol penderfynwyd dod â fersiwn ddigidol yn unig allan. Mae’r cyswllt rhwng y golygydd a’r dylunydd a hefyd 98 y cant o’r gohebyddion arferol trwy ebost.
Gwahoddir y gohebyddion arferol ac eraill i yrru deunydd i YTincer@gmail.com. Mae’r dyddiad cau wedi ei ymestyn i dydd Gwener 3 Ebrill. Wythnos yn ychwanegol felly i lunio adroddiad neu orffen yr erthygl yna sydd ar ei hanner ers tro!
Bydd modd dosbarthu y rhifyn trwy ei yrru trwy ebost, a bydd hefyd ar gael ar dudalen Y Tincer ar wefan Trefeurig yn ogystal â rhai gwefanau eraill fel Bro Aber360 Ni chodir tâl am y rhifyn hwn.

Coronafeirws (05-04-2020)
23/3 Mae PATRASA wedi penderfynu cau’r Cae Chwarae a’r Cyrtiau Tennis ar unwaith. Bydd y gatiau ar glo. Os gwelwch yn dda, peidiwch â dringo drostynt a defnyddio’r cyfarpar.

Coronavirus (05-04-2020)
23/3 PATRASA have decided to close the Park and Tennis Courts immediately. The gates will be locked. Please do not climb over them and use the equipment
.

Coronafeirws (05-04-2020)

DIM BORE COFFI yn Neuadd yr Eglwys tan mis Mai
CANSLWYD gemau pêl-droed tan 4 Ebrill
CANSLWYD Cinio Cymdeithas y Penrhyn
CANSLWYD Cinio Cymunedol am y tro
GOHIRIWYD Cystadleuaeth Pel-droed Eric ac Arthur Thomas – tan 4/5 Gorffennaf
GOHIRIWYD Sesiwn BroAber_360 nos Iau 19/3
CANSLWYD CYMANFA GANU UNEDIG GOGLEDD CEREDIGION 3 Mai
CANSLWYD – EISTEDDFOD GADEIRIOL PENRHYN-COCH 24/25 Ebrill
CAPEL HOREB: Yn unol â chyfarwyddyd diweddaraf y Llywodraeth ni chynhelir oedfaon na Chlwb Sul am gyfnod amhenodol. OS OES ANGEN CYMORTH YMARFEROL AR UNRHYW UN RHOWCH WYBOD – golygydd@trefeurig.org. Cymerwch ofal!
EGLWYS S IOAN: Ni fydd gwasanaethau ar y Sul neu ar adegau eraill (gan gynnwys Llan Llanast a Chlwb Sul) hyd nes bod datganiad yn dod sy’n nodi yn wahanol. Mae hyn yn ganlyniad i’r sefyllfa Coronafeirws.
CAPEL MADOG: dim oedfaon
YSGOLION Y SIR yn cau Gwener 20 Mawrth 2020

Coronavirus (05-04-2020)

CANCELLED: COFFEE MORNINGS at Neuadd yr Eglwys until May
CANCELLED all football matches until 4 April
CANCELLED Cymdeithas y Penrhyn’s annual dinner
CANCELLED Community lunches until further notice
POSTPONED – Eric and Arthur Thomas Football competition – until 4/5 July
CANCELLED North Ceredigion Singing Festival 3 May
CANCELLED – PENRHYN-COCH EISTEDDFOD 24/25 April
HOREB CHAPEL: CANCELLED – All services at Horeb Chapel until further notice. If you know of anyone who requires practical help please let us know: golygydd@trefeurig.org
S. JOHN’S CHURCH: There will be no further public services at S. John’s Church Penrhyn-coch either on Sundays or at other times (this includes Messy Church and Sunday Club) until there is announcement that this situation has changed. This is due to the Coronavirus outbreak.
CAPEL MADOG: no services
Cerdigion SCHOOLS will close on Friday 20 March 2020

17.4 MidWales

MAI MAY
DIWRNOD VE DAY (13-05-2020)
Canslwyd y dathliadau ond dyma gyfle i ddiolch.
Celebrations were cancelled but still an opportunity to express gratitude.

Mae plant Cefn-llwyd wedi bod yn brysur: da iawn Megan a Siân (18-05-2020)

Cefn-llwyd children have been busy: well done Megan and Siân

Clwb Pêl-droed Penrhyn-coch FC (26-05-2020)

Mae Gari Lewis wedi ymddiswyddo ar ôl 9 mlynedd llwyddiannus fel rheolwr.
Y Rheolwr newydd yw Aneurin Thomas – sydd wedi chwarae dros 400 i nifer o glybiau @LlaniTownfc @tnsfc @NewtownAFC a @AberystwythTown
Mae hefyd wedi chware yn Ewrop ac wedi cynrychioli Cymru ar lefel hanner proffesiynol.
Gari Lewis has stepped down after 9 successful years as manager.
The new manager is Aneurin Thomas – who has made over 400 top flight appearance for @LlaniTownfc @tnsfc @NewtownAFC and @AberystwythTown
He has also played in Europe and represented Wales at semi pro level.

MEHEFIN JUNE

Cyngor Cymuned Trefeurig yn diolch i’r CiG a’r Gweithwyr allweddol (25-06-2020)

Trefeurig Community Council thanks the NHS and Key workers

HYDREF OCTOBER
Llwybr ar gyfer cerddwyr a seiclwyr o Benrhyn-coch i Bow St (24-10-2020)
Pathway for walkers and cyclists from Penrhyn-coch to Bow St

LLYFR NEWYDD / NEW BOOK : Pobol y Topie Bont-goch Lives, R. E. Huws (05-11-2020)