Newyddion 2012 News

IONAWR JANUARY

Lisa Angharad ar restr fer ar gyfer cytundeb recordio Decca (18-01-2012)
Aeth Lisa i brifysgol Manceinion i astudio ‘Musical Theatre’. Mae hi nawr yn byw yng Nghaerdydd. Mae hi’n cyflwyno ar rhaglen Ddoe am Ddeg ar S4C.

Lisa Angharad, has been short-listed to win a recording contract with Decca. After studying Musical Theatre’ at Manchester University, she is now living in Cardiff and presents the programme ‘Ddoe am Ddeg’ on S4C.

CHWEFROR FEBRUARY
Bryan yr Organ yn cyrraedd y We (23-02-2012)
Mae dros 70, 000 (dros 150,000 erbyn Tach 2020) wedi gweld Bryan ar y we yn sylwebu ar gais Alex Cuthbert yn y gêm rygbi rhwng Cymru a’r Alban.

Bryan yr Organ (Mad Welshman) on the Web
Over 70, 000 (over 150, 000 by Nov 2020) have watched Bryan’s colourful web commentary on Alex Cuthbert’s try in the recent Wales v. Scotland game.

MAWRTH MARCH
Llongyfarchiadau i Ysgol Gynradd Penrhyn-coch (10-03-2012)
Llongyfarchiadau i Ysgol Gynradd Penrhyn-coch am ennill y wobr gyntaf yng nghystadlaethau Parti Deulais Bl. 6 ac Iau, Ensemble Lleisiol Bl.
6 ac iau a Côr Bl 6 ac Iau (Ysgolion hyd at 150 o blant).
Pob hwyl yn yr Eisteddfod Ranbarthol wythnos i’r Sadwrn.

Congratulations to Penrhyn-coch School (10-03-2012)
Congratulations to Penrhyn-coch School on winning the Parti Deulais Year 6 and under, Voice Ensemble Year 6 and under, and Choir Year 6 and under (For schools of 150 and under).
Best of luck in the regional rounds a week on Saturday.

EBRILL APRIL
Ysgol Penrhyn-coch (07-04-2012)
Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi ennill gwobr yn Eisteddfod Celf a Chrefft yr Urdd (Cenedlaethol).
Congratulations to all who have won a prize at the Urdd Arts and Crafts Eisteddfod (National).

Canwch y Diawled! (19-04-2012)
CD newydd Bryan Jones ar werth nawr yn y Garej. £9.99.
Canwch y Diawled! (19-04-2012)
Bryan Jones’ new CD on sale in the Garage. £9.99

MAI MAY

Llongyfarchiadau i Dai Mason.
Canlyniad: Dai Mason 422; Dai Suter 300 (04-05-2012)Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi ethol Ellen ap Gwynn fel arweinydd (11 Mai). Mae 19 cynghorydd Plaid Cymru a etholwyd ar 3 Mai wedi ffurfio ‘clymblaid’ â’r rhai o’r pleidiau eraill. Y ‘Llais Annibynnol / Independent Voice’ sef Dafydd Edwards (Llansantffraed) a Dai Mason (Trefeurig), a Hag Harris (Llafur) ymunodd yn gyntaf. Ymunodd y grŵp Annibynnol arall o 12, dau ddiwrnod yn ddiweddarach. Y gwrthwynebwyr fydd 7 aelod o’r Democratiaid Rhyddfrydol ac un aelod Annibynnol arall, sef Aled Davies (Aberystwyth Rheidol).
Congratulations to Dai Mason.
Result: Dai Mason 422; Dai Suter 300 (04-05-2012)
Ceredigion County Council this morning (11 May) voted Plaid Cymru’s Ellen ap Gwynn as Council Leader. The 19 Plaid Cymru councillors elected on May 3rd have agreed to form a ‘coalition’ with 2 other groupings. ‘Llais Annibynnol / Independent Voice’, consisting of Dafydd Edwards (Llansantffraed) and Dai Mason (Trefeurig), and Labour’s Hag Harris joined first. Two days later they were joined by the main Independent group of 12. The opposition will be formed by the seven Lib Dems and one ungrouped Independent councillor (Aled Davies, Aberystwyth Rheidol).

Penrhyn-coch a Channes! (11-05-2012)
Ffilm yn seiliedig ar lyfr Niall Griffiths, Kelly + Victor yn ymddangos yn Cannes 16–27 Mai 2012. KELLY + VICTOR: Hot Property Films; Cynhyrchydd: Janine Marmot; Actorion: Antonia Campbell-Hughes a Julian Morris.
Penrhyn-coch and Cannes! (11-05-2012)
A film based on Niall Griffiths’s novel Kelly + Victor appears at Cannes 16
27 May 2012. KELLY + VICTOR: Hot Property Films; Property: Janine Marmot; Actors: Antonia Campbell-Hughes a Julian Morris.

Agor Tŷ Gwydr newydd gwerth £6.8m yn IBERS (14-05-2012)
‘Mae agor y Ganolfan Planhigion Ffenomics Cenedlaethol yn golygu fod gan ymchwilwyr y dechnoleg diweddaraf er mwyn datblygu cnydau amrywiol sy’n medru tyfu o dan amodau anodd, a gwneud cyfraniad i gynhyrchu bwyd y dyfodol’, Yr Athro Wayne Powell, Cyfarwyddwr IBERS.
Opening of New £6.8m Glasshouse at IBERS (14-05-2012)
‘The National Plant Phenomics Centre means that researchers based in the UK and internationally have the very latest technology at their disposal to develop new crop varieties that can thrive in challenging conditions and make a significant contribution to future food production’. Prof. Wayne Powell, Director of IBERS.


Merched y Wawr Penrhyn-coch ar y brig (20-05-2012)
Dydd Sadwrn 29 Mai ym Machynlleth – Gŵyl Haf MyW – bu MyW Penrhyn-coch yn llwyddiannus mewn 2 gystadleuaeth – y Parti Llefaru ac aelod unigol yn ennill wrth gyfansoddi pennill i roi ar garden Nadolig. (Yn y siopau yn fuan).
Penrhyn-coch’s Merched y Wawr on top! (20-05-2012)
Sat 29 May in Machynlleth MyW Penrhyn-coch won i 2 competitions – Recitation and Mairwen Jones won by composing a verse for a Christmas Card.

£13m arall i IBERS (24-05-2012)
Another £13m to IBERS (24-05-2012)

Fflam Olympaidd. (27-05-2012)
Pob lwc i Danielle, Derfel a Jacqueline wrth gario’r fflam Olympaidd.
Mae’r Fflam Olympaidd wedi bod! (ond nid i Drefeurig)Llongyfarchiadau i Jacqueline Minchin (yn cario’r fflam trwy Lannarth) a Derfel Reynolds (yn cario’r fflam trwy Lan-non) ar 27 Mai 2012. A Danielle Pryce, Cwmerfyn yn cario trwy Dal-y-bont ar 28 Mai.
Olympic Flame (27-05-2012)
Best of luck to Danielle, Derfel and Jacqueline carrying the Olympic Flame today. The Olympic Flame has been! (but not to Trefeurig)Congratulations to Jacqueline Minchin (who will be carrying the flame through Llanarth) and Derfel Reynolds (who will be carrying the flame through Llanon) on 27 Mai 2012. And Danielle Pryce, Cwmerfyn will be carrying the flame through Tal-y-bont on 28 May.

Derfel Reynolds yn cario’r Fflam Olympaidd trwy Llan-non. Derfel Reynolds carrying the Olympic Flame through Llan-non.

Pob hwyl i Gôr Eisteddfod Ysgol Penrhyn-coch (31-05-2012)
Best of Luck to Penrhyn-coch School Eisteddfod Choir (31-05-2012)
Penrhyn-coch School Eisteddfod Choir recording a new CD and at the
official opening of B&Q 1 June at 10.00.
Best of Luck to Penrhyn-coch School Eisteddfod Choir recording a new CD and at the official opening of B&Q 1 June at 10.00.

Gorsedd y Beirdd 2012 (31-05-2012)
LLONGYFARCHIADAU I LINDA GRIFFITHS, Pen-bont Rhydybeddau fydd yn cael ei hurddo yn Eisteddfod Bro Morgannwg eleni (Gwisg Werdd – Gwener, Awst 10, 2012.)
“Mae’n enw cyfarwydd fel unawdydd gwerin ac fel aelod o’r grŵp poblogaidd Plethyn. Un o Bontrobert ym Maldwyn yn wreiddiol. Bu’n diddanu cynulleidfaoedd ym mhob rhan o Gymru, yn y gwledydd Celtaidd, yn yr Unol Daleithiau a Chanada, yn ystod cyfnod o dros 30 mlynedd.”
Llongyfarchiadau hefyd i Stephen Jones, 104 o gapiau dros Gymru, a aned ym Mhenrhyn-coch – yntau yn ennill y wisg las.
“Enillodd 104 o gapiau dros dîm rygbi Cymru yn safle’r maswr. Mae’n Gymro i’r carn ac wedi bod yn was ffyddlon a phoblogaidd i’w gamp a’i wlad ac yn un sydd wedi sbarduno a chynorthwyo chwaraewyr ifanc. Mae wedi bod yn llysgennad ardderchog yn rhyngwladol dros y Llewod yn 2005 a 2009 ac wedi ymddangos dros 200 o weithiau i’r Scarlets, gan sgorio 2000 o bwyntiau.”
Bardic Circle 2012 (31-05-2012)
Congratulations to Linda Griffiths, Pen-bont Rhydybeddau for winning the Green Robe; and Stephen Jones (born in Penrhyn-coch) for winning the Blue Robe in this year’s Vale of Glamorgan Eisteddfod.

MEHEFIN JUNE
Llifogydd: yr heol i’r Sgwar ar agor 2.00 pm (09-06-2012)
Llifogydd: yr heol i’r Sgwar ar agor.

Syrjeri Ystwyth wedi symud allan i IBERS. (11-06-2012)
Oherwydd difrod y llifogydd mae’r Syrjeri wedi gorfod symud allan i IBERS (hen adeilad Cyngor Cefn Gwlad Cymru).
Ystwyth Surgey has moved out to IBERS. (11-06-2012)
Due to flood damage Ystwyth Surgery has moved out to IBERS (old Countryside Council for Wales Offices).


Pistolau Gornesta Gogerddan i’w gweld yn Amgueddfa Ceredigion (15-06-2012)
Prynwyd y pistolau mewn arwerthiant yn Llundain ynghyd â chas mahogani, fflasg bowdwr, mowld pelenni plwm ac eitemau bychain eraill ar gyfer glanhau’r gynnau. ‘Nid ydym yn gwybod os defnyddiwyd y gynnau erioed mewn gornest neu pam y prynwyd hwy gan y teulu yn y lle cyntaf. Ond gobeithiwn wybod mwy.’

Gwnaeth y teulu Pryse o Gogerddan eu harian o gloddio arian a phlwm yng Ngheredigion. Ar un adeg roeddent yn dirfeddianwyr cyfoethog iawn yn yr ardal hon. Mae hanes y teulu yn ymestyn dros sawl canrif. Ond yn y diwedd gwerthwyd yr ystâd i Brifysgol Aberystwyth ac yn awr mae’n rhan o’r Ganolfan Astudiaethau Amgylcheddol. Ymddengys y pistolau yn yr amgueddfa wrth ymyl eitemau eraill o ystâd y teulu Pryse, gan gynnwys lluniau a throffïau hela.

Gogerddan duelling pistols at Ceredigion Museum (15-06-2012)
The pistols were bought at auction in London together with a mahogany case, a powder flask, lead shot mould and other small items for cleaning the guns. ‘We are not sure if the guns were ever used in a duel or why they were purchased by the family in the first place.’

The Pryce family of Gogerddan made their money from the silver and lead mines of Ceredigion. At one time they were very wealthy land owners in this area. The history of the family stretches across many hundreds of years. But eventually the estate was sold to Aberystwyth University and is now part of the Environmental Studies Centre. The pistols appear in the museum along-side other items from the Pryse family estate, including paintings and hunting trophies.

£160K Grant i’r Ysgol Feithrin (15-06-2012)
Bydd yr adeilad newydd drs nesaf i’r Ysgol. Bydd yn agor blwyddyn nesaf, ac yn cynnig brecwast dyddiol, a chlwb ar ôl ysgol, yn gofalu am blant rhwng 2 ac 11 oed.
“Newyddion da ar ôl y llifogydd wythnos nesaf. Heb Grant y Loteri ni fyddai hyn wedu digwydd”, medd Delyth James.
Ar y funud mae safon yr adeiladau yn wael. Mae’r Grŵp eisoes wedi codi £20K tuag at y Prosiect.

£160K Grant for Ysgol Feithrin (15-06-2012)
The new building will be built at Penrhyncoch primary school and is due to open next year.
It will provide daily breakfast and after-school clubs, caring for children aged between two and 11.
“It’s a bit of good news for this area after last week’s floods” Delyth James , Cylch Meithrin Trefeurig.
At the moment, the village nursery and the after-school club are based in dilapidated buildings. The group behind the scheme, Cylch Meithrin Trefeurig, has raised £20,000 towards the project.
Delyth James is a local mother who submitted the lottery application and works as an assistant at the nursery.
“Without the grant from the Big Lottery Fund this wouldn’t have happened.

MBE arall i Benrhyn-coch (17-06-2012)
Mae Debbie Stone wedi derbyn yr MBE am ei gwasanaeth arbenigol i Osteoporosis.
Another MBE for Penrhyn-coch (17-06-2012)
Debbie Stone has been awarded the MBE for her specialist services to Osteoporosis.

Gwobr CAVO (27-06-2012)
Llongyfarchiadau i Wendy Reynolds, Mudiad y Brownies am ennill Gwobr CAVO
CAVO Award (27-06-2012)
Congratulations to Wendy Reynolds, Brownies for winning a CAVO Award.

GORFFENNAF JULY
Cymorth Cristnogol (02-07-2012)
Cyfanswm casgliad Penrhyn-coch eleni yw £1,032.39. Mae hyn yn cynnwys £133.50 a godwyd mewn dau o foreau coffi yn y gymuned a drefnir ddwywaith y mis gan Eglwys Sant Ioan. Hoffai’r Trefnydd, Ceris Gruffudd, a’r Trysorydd, Eleri James, ddiolch i bawb a fu’n casglu yn y pentref er sicrhau fod casgliad yn digwydd yn y pentref eleni eto.
Christian Aid (02-07-2012)
The total of the Penrhyn-coch Christian Aid collection this year was £1,032.39. This includes £133.50 from two community coffee mornings organised by St John’s Church. The Organiser, Ceris Gruffudd, and Treasurer, Eleri James, would like to thank all collectors and donors for their cooperation.

Bright Horizons? (04-07-2012)
Contract gyda’r Brifysgol yn gorffen 30/9/2012. Mae’r dyfodol yn ansicr. A fydd tîm rheoli lleol wrth y llyw?
Bright Horizons? (04-07-2012)
Contract with the University ends on 30/9/2012. Future is uncertain. Will a local management team take over?

Apwyntiad yr Athro Scollan i’r gadair bwyd a ffermio (16-07-2012)
Yn ôl y Cyfarwyddwr: Yr Athro Wayne Powell: ‘Bydd apwyntiad yr Athro Nigel Scollan i Gadair Waitrose Bwyd a Ffermio yn canolbwyntio ar greu’r cysylltiadau rhwng amaethyddiaeth, gwyddoniaeth ac un o’r meddylwyr mwyaf blaenllaw ym myd y siopau mawr. Rwyf yn hynod falch o’i apwyntiad ac yn edrych ymlaen i adeiladu’r cysylltiadau pellach gyda Waitrose a’u partneriaid’.
Scollan appointed Waitrose chair of food and farming (16-07-2012)
Director of IBERS, Professor Wayne Powell, said: “The appointment of Nigel Scollan to the Waitrose chair of food and farming will focus on forging links between agriculture, science and one of the most forward thinking great retailers. I am delighted with Nigel’s appointment and look forward to this role building on our existing work with Waitrose and their partners.”

Ysgol Penrhyn-coch: Adroddiad Estyn (23-07-2012)
Mae perfformiad presennol yr ysgol yn dda oherwydd bod:
medrau llythrennedd disgyblion o bob oedran yn dda;
y rhan fwyaf o’r disgyblion yn gweithio i’w llawn botensial;
disgyblion yn arddangos parch a gofal tuag at ei gilydd;
profiadau dysgu yn bodloni anghenion disgyblion yn llwyddiannus; ac
ansawdd yr addysgu ac asesu yn dda.
Mae rhagolygon gwella’r ysgol yn dda oherwydd bod:
gweledigaeth glir y tîm rheoli yn rhoi arweiniad strategol effeithiol i waith yr ysgol;
staff yn ymdrechu’n barhaus i wella ar berfformiad blaenorol;
yr ysgol wedi ymateb yn gadarnhaol i flaenoriaethau lleol a chenedlaethol;
data perfformiad yn cael ei ddefnyddio’n effeithiol i wella safonau; a bod
cydweithio’n effeithiol gyda partneriaid strategol yn cael effaith fuddiol ar les a deilliannau disgyblion.

Er mwyn gwella ymhellach mae angen i’r ysgol:
A1 gynyddu’r canrannau o ddisgyblion sy’n cyrraedd lefelau 3 a 5;
A2 cryfhau rôl y llywodraethwyr fel cyfeillion beirniadol i’r ysgol; a
A3 rhoi ffocws cliriach yn y cynllun datblygu ar brif flaenoriaethau’r ysgol.
Beth sy’n digwydd nesaf?
Bydd yr ysgol yn llunio cynllun gweithredu sy’n dangos sut y bydd yn mynd i’r afael â’r argymhellion.

Penrhyn-coch School: Estyn Report (23-07-2012)
The school’s current performance is good because:
the literacy skills of pupils of all ages are good;
most pupils work to their full potential;
pupils show respect and care towards one another;
learning experiences meet the needs of pupils successfully; and
the quality of teaching and assessment is good.

The school’s prospects for improvement are good because:
the management team’s clear vision gives effective strategic leadership to the work of the school;
staff strive continually to improve on previous performance;
the school has responded positively to local and national priorities;
performance data is used effectively to improve standards; and
effective co-operation with strategic partners has a beneficial effect on pupils’ wellbeing and outcomes.

In order to improve further the school needs to:
R1 increase the percentages of pupils who reach levels 3 and 5;
R2 strengthen the role of the governors as critical friends of the school; and
R3 give a clearer focus in the development plan to the school’s main priorities.

IBERS yn lansio apps newydd (24-07-2012)
farmGRAZE: Mesur faint o borfa sydd ar gael mewn cae ar gyfer yr anifeiliaid…
horseration: Mesur faint o fwyd sydd angen ar y ceffyl…
farmGRAZE: Calculate the amount of grass there is in a field for your livestock to graze. Save money on unnecessary fertilisers and bought in feed. Accurately and quickly monitor the performance of your swards in your grazing platform to make best use of your grass. This app calculates the amount of grass your animals have in the field…
horseration: Accurately calculate the amount of feed to give your horse – avoid obesity in your animal and the health problems that go with it. As well as saving money on bought in feed you’ll be helping your horse to live well and stay well…


Glywsoch chi’r Clychau? (27-07-2012)
12 awr cyn i’r Gemau gychwyn yn swyddogol canwyd y clychau ar draws Prydain.
Did you hear the bells? (27-07-2012)
12 hours before the Official Opening of the Olympic Games bells were rung loudly across Britain.

AWST AUGUST

Linda Penbryn (11-08-2012)
Yn wyneb haul llygad goleuni: Urddwyd Linda i’r Orsedd 10 Awst yn Eisteddfod Bro Morgannwg.
Linda Penbryn (11-08-2012)
Linda was admitted as an honorary member of the Gorsedd of the Bards at the Vale of Gamorgan Eisteddfod today 10 August.

MEDI SEPTEMBER

Aneirin Hughes yn portreadu Gwynfor
Datganiad gan S4C:
Mae Gwynfor, a ysgrifennwyd gan yr Archdderwydd T James Jones, yn ail-greu blwyddyn dyngedfennol ym mywyd Gwynfor Evans, gyda’r actor Aneirin Hughes yn portreadu Gwynfor.
S4C Celebrates:
Gwynfor, written by the Archdruid T James Jones, recreates a critical year in the life of Gwynfor Evans, with actor Aneirin Hughes portraying Gwynfor.


Y Groes Filwrol i Benrhyn-coch (28-09-2012)
Saethwyd Matthew, sy’n aelod o’r 2 Rifles Gogledd Iwerddon yn ei ban a bu’n anymwybodol am 30 eiliad cyn rhedeg i achub ei gyd filwr.
Digwyddodd yn ystod ymladd yn Nhalaith Helmand, Afganistan.
Military Cross to Penrhyn-coch
Rifleman Mathew Wilson, who is based with 2 Rifles in Northern Ireland, was shot in the head and knocked unconscious for 30 seconds as he ran to protect a wounded colleague.
It happened during what was described as a “deadly game of cat and mouse” with an insurgent sniper during a reconnaissance mission in northern Helmand.

BBC NEWS

Salem Soldier, Elfed a Brian Davies (28-09-2012)
gan Y Lolfa. £9.95. Taith o Ogledd sir Aberteifi i uffern rhyfel yng Ngogledd Affrica a’r Eidal.
Salem Soldier, Elfed a Brian Davies (28-09-2012)
A journey from north Cardiganshire to the ravages of war in North Africa and Italy. Y Lolfa. £9.95.

HYDREF OCTOBER
Rhyddid Tref Aberystwyth i Matthew Wilson? (10-10-2012)
Galwodd cyn faer Aberystwyth, Hywel T. Jones i Gyngor Tref Aberystwyth gyflwyno Rhyddid y dref i Matthew Wilson am ei ddewrder. CN 10.10.12
Freedom of Aberystwyth for Matthew Wilson? (10-10-2012)
A former mayor of Aberystwyth, Hywel T. Jones has called on Aberystwyth Town Council to convey the Freedom of Aberystwyth to Rifleman Matthew Wilson for his bravery. CN 10.10.12

Gwobr i Aneurin Thomas (10-10-2012)
Cyflwynwyd Gwobr Dyn Clwb y Flwyddyn i Aneurin Thomas gan gapten Cymru Ashley Williams a Jonathan Bridgeman o’r HSBC, mewn cinio dan nawdd Cymdeithas Pêl-droed Cymru a gynhaliwyd yn Amgueddfa Cymru, Caerdydd nos Lun 8.10.12.
Aneurin Thomas wins award (10-10-2012)
Aneurin Thomas was presented with the Welsh Premier League’s Clubman of the Year award by Wales’ captain Ashley Williams and Jonathan Bridgeman, HSBC, at the FAW awards dinner held at the National Museum of Wales, Cardiff, Monday night 8.10.12

Y Tincer yn drydydd! (13-10-2012)
Llongyfarchiadau i’r Angor am ennill Eisteddfod Papurau Bro Ceredigion ac i Lais Aeron am ddod yn ail ac i’r Tincer am ddod yn drydydd.
Y Tincer wins third prize! (13-10-2012)
Congratulations to Yr Angor for winning the Ceredigion Papurau Bro Eisteddfod, Llais Aeron, the runners up and Y Tincer who came third.

Cylch Meithrin i adeiladu ar safle’r ysgol (16-10-2012)
Adeiladu i ddechrau yn fuan.
Cylch Meithrin to build on School site. (16-10-2012)
Building will begin soon.

6 o dai newydd i Benrhyn-coch (Penbanc) (16-10-2012)
Roedd Cyngor Cymuned Trefeurig yn erbyn y datblygiad ar sail diogelwch y fforddd. Ond argymell y datblygiad wnaeth Cyngor Sir Ceredigion. Y stori llawn yn y CN 18.10.2012.
6 new houses for Penrhyn-coch (Penbanc) (16-10-2012)
Trefeurig Community Council objected to the development on highway safety but Ceredigion County Council ‘found no issues’ with the speed test. Full story in CN 18.10.2012.

TACHWEDD NOVEMBER
Lisa Angharad (03-11-2012)
Llety Parc yn llawn dop i glywed Dafydd Iwan a Lisa Angharad a’i ffrindiau.
A full house at Llety Parc to hear Dafydd Iwan and Lisa Angharad.

RHAGFYR DECEMBER
Nyrs Osteoporosis wedi cael yr MBE (04-12-2012)
Mae Debbie Stone, Penhyn-coch, wedi derbyn yr MBE am ei gwasanaeth i Osteoporosis yng Ngheredigion. CN 6.12.12
Osteoporosis Nurse has received her MBE (04-12-2012)
Debbie Stone, of Penrhyn-coch, has received her MBE for services to Osteoporosis in Ceredigion. CN 6.12.12


Joseph Scannell, Penrhyn-coch yn perfformio yn Sleeping Beauty (15-12-2012)
Gweler llun o’r rihyrsals Western Mail 15 Rhag 2012, tud. 25
Joseph Scannell, Penrhyn-coch performs in Sleeping Beauty (15-12-2012)
See photo of rehearsals in Western Mail 15 Dec 2012, p. 25.

Codi Arian ar gyfer Ward Angharad (19-12-2012)
Codi arian at achos da: Y Grinch yn arwain côr Ysgol Penrhyn-coch, a Heno (S4C) yn ffilmio!


Raising money for Angharad Ward (19-12-2012)
Raising money for a good cause: The Grinch conducts the School Choir and filmed by Heno (S4C)

Nyrsys y Flwyddyn 2012 (20-12-2012)

Winning Nurses 2012 (20-12-2012)