IONAWR JANUARY

CEFNOGAETH I TIRION
Dydd Calan: Gêm o hwyl rhwng tîm o ddynion dros 40 mewn sgidiau glaw v. tîm o fenywod. Codwyd dros £5,000 rhwng y gêm a’r ocsiwn.
SUPPORT FOR TIRION
New Years Day: A game of fun between Penrhyn-coch Men over 40 in wellingtons v. Penrhyn-coch Ladies team. Over £5,000 was raised through the game and the auction which followed.
CHWEFROR FEBRUARY
COLLI SWYDDI
Mae hyd at 70 o swyddi llawn-amser yn cael eu colli yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Cyhoeddodd cyfarwyddwr y sefydliad, Yr Athro Wayne Powell, hyn mewn cyfarfod ar gampws Llanbadarn ym Mhrifysgol Aberystwyth ddydd Gwener.
Dywedodd yr AC lleol, Elin Jones fod hon yn “ergyd fawr”. Mae deilydd portffolio economaidd Cyngor Ceredigion, Eurfyl Evans, wedi dweud bod y newyddion wedi ei “syfrdanu”. Ychwanegodd bod “hyn yn beth ofnadwy mewn ardal mor fach”.
Yn ei ffurf bresennol mae disgwyl i’r sefydliad wynebu diffyg ariannol o bron £2.4m erbyn diwedd y flwyddyn ariannol 2011-12. Yr amcangyfri yw y bydd gostyngiad o 15% o leiaf mewn cyllid cyhoeddus dros gyfnod o dair blynedd. Mae’r 70 o swyddi yn cynnwys staff technegol, cynorthwyol, dysgu ac ymchwil.
JOBS THREAT
Up to 70 jobs are under threat at an internationally renowned plant research centre at Aberystwyth University. The Institute of Biological, Environmental and Rural Sciences (Ibers) said it faced a £2.4m deficit.
Ibers director Wayne Powell told staff about the cutbacks on Friday, citing financial matters as the main problem. The institute was formed out of merger between the university and the Institute of Grassland and Environmental Research in 2007.
Ibers said it faced a funding deficit of £2.4m over the next two years, and it sees job cuts as a way of solving its financial worries. The posts under threat include technical, support, teaching, and research staff.
MEHEFIN JUNE
Eisteddfod yr Urdd 2010
Llongyfarchiadau i: Charlotte Ralphs, Ysgol Gynradd Penrhyn-coch – 2il Gwehyddu Blwyddyn 2 ac iau.
Seren Jenkins, Ysgol Penrhyn-coch 1af Dylunio a thechnoleg Bl 3 a 4.
Urdd Eisteddfod 2010
Congratulations to Charlotte Ralphs, Penrhyn-coch School 2nd Weaving Year 2 and below.
Seren Jenkins, Penrhyn-coch School 1st Design and Technology Year 3 and 4.
AWST AUGUST
CIPIO GWOBR HER GYFIEITHU 2010
Mewn seremoni arbennig ar faes Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a’r Cymoedd fe gyhoeddwyd mai Marged Haycock fu’n fuddugol yn yr Her. Roedd hi’n un o drideg chwech aeth ati i drosi darn o stori fer, La folie était venue avec la pluie, o’r Ffrangeg gan awdur o Haiti, Yanick Lahens.
TRANSLATION CHALLENGE WINNER 2010
In a special ceremony on the Blaenau Gwent National Eisteddfod field, Marged Haycock was announced as the winner of the 2010 Challenge. She was one of thirty-six entrants for the competition to translate from French an extract from the short story, La folie était venue avec la pluie, by Haitian author, Yanick Lahens.