CHWEFROR FEBRUARY
Rhedeg yn Awstralia
Llongyfarchiadau i Elinor Thorogood o Benrhyn-coch a oedd yn aelod o dîm merched Prydain yng Ngŵyl Olympaidd yr Ifanc yn Sydney yn ddiweddar. Yn ystod yr un wythnos daeth yn ugeinfed yn y gystadleuaeth unigol i ferched.
Running in Australia
Congratulations to Elinor Thorogood of Penrhyn-coch who was a member of the GB womens team in the Youth Olympic Games in Sydney recently. In the same week she came twentieth in the individual race for girls.
EBRILL APRIL
Merched y Penrhyn yn ennill Ffeinal Canolbarth Cymru (16-04-2009)
Enillodd tîm Merched Penrhyn dan 14 oed yn erbyn Llanidloes ar gaeau Blaendolau yn ddiweddar. Sgoriodd ‘Seren y Gêm’ Amy Jenkins 4 gôl.
Penrhyn Girls win Central Wales Final (16-04-2009)
Penrhyn under 14 Girls won against Llanidloes on Blaendolau Fields recently. ‘Player of the Match’ Amy Jenkins scored 4 goals.
GORFFENNAF JULY

Cyngor Chwaraeon Ceredigion
Enillodd Derfel Reynolds, Jonathan Evans a Debbie Jenkins wobrwyon mewn seremoni arbennig yn Aberteifi yn ddiweddar.
Llongyfarchiadau i Derfel Reynolds am ennill gwobr am ei gyfraniad arbennig at Chwaraeon ar gyfer yr Anabl.
Ceredigion Sports Council
Derfel Reynolds, Jonathan Evans and Debbie Jenkins won awards in a special ceremony at Cardigan recently.
Congratulations to Derfel Reynolds for winning his award for outstanding contribution to sport for the disabled.

GORFFENNAF JULY 13
Chwith nid dde!
Bws yn ceisio troi i’r dde i gyfeiriad Bow Street ac yn methu – 5 o’r gloch Nos Fercher 5 Gorffennaf 2009.
Left not right!
A bus tries to turn right towards Bow Steet and creates traffic chaos 5.00 p.m. Wednesday 1 July 2009.
AWST AUGUST
Llwyddiant yn Steddfod y Bala 2009
Llongyfarchiadau i Mared Emyr Pugh-Evans am ddod yn gyntaf yng Nghystadleuaeth yr Unawd Telyn dan 16 oed; ac i Lisa Healy am ddod yn ail yng Nghystadleuaeth Goffa Elfed Lewys.
Local success at Bala Eisteddfod 2009
Congratulations to Mared Emyr Pugh-Evans on winning the Harp Solo under 16; and to Lisa Healy for coming second in the Elfed Lewys Memorial Competition.
TACHWEDD NOVEMBER
Gwobr Pen blwydd y Frenhines i ‘IBERS’
Dyfarnwyd Gwobr Addysg Uwch ac Addysg Bellach y Frenhines i Brifysgol Aberystwyth. Cafodd y cyhoeddiad ei wneud Nos Fercher 18 Tachwedd mewn derbyniad arbennig ym Mhalas Sant James gan Sefydlydd a Chadeirydd yr Ymddiriedolaeth Pen-blwydd Coroni Brenhinol, Robin Gill CVO.
Queen’s Anniversary Prize to ‘IBERS’
Aberystwyth University has been awarded the Queen?s Anniversary Prize for Higher and Further Education. The announcement was made on Wednesday 18 November at a special reception at St James’s Palace by the Founder and Chairman of the Royal Anniversary Trust, Robin Gill CVO.