18, 19 Ebrill April
Eisteddfod see Eisteddfod
1 Mai May
Etholiad Sir County Council Elections
Dai Suter Plaid Cymru 461
Martin J Squires Democratiaid Rhyddfrydol Cymru Welsh Liberal Democrats 108
Kari Walker 99
15 Mai May
Lansio’r Wefan yn Neuadd y Penrhyn Launching the website







Gorffennaf July
Dyfeisydd o Benrhyn-coch yn ennill Cystadleuaeth Genedlaethol
Arddangoswyd dyfais o waith Dr Huw Thomas o Benrhyn-coch yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe yn ystod mis Mai wedi iddo ennill cystadleuaeth i ganfod dyfeiswyr newydd o Gymru. Fe’i canmolwyd am botensial masnachol ac ymwybyddiaeth gymdeithasol ei ddyfais, y Promove Sling. Yn wyddonydd wedi ymddeol, cafodd Huw, sy’n defnyddio cadair olwyn, ei ysbrydoli i ddylunio’r sling ar ôl i ddynion tân orfod ei godi o lawr cyntaf adeilad wedi i’r lifft dorri. Gall ei ddyfais fod o gymorth i bobl anabl neu analluog, yn ogystal ag i’r nifer cynyddol o bobl ordew yn y Deyrnas Unedig ac ar draws y byd.
Roedd y gystadleuaeth “Ffau Dyfeiswyr” yn rhan o Fis Amgueddfeydd ac Orielau 2008 a gynhaliwyd rhwng 1–31 Mai. Y thema ar gyfer y mis oedd syniadau ac arloesedd, a gofynnwyd i’r rhai a gymerodd ran yn y gystadleuaeth gyflwyno eu syniadau ar gyfer dyfeisiadau o Gymru a fedrai newid bywyd pobl er gwell. Beirniadwyd y gystadleuaeth gan gynrychiolwyr o ysgol dylunio cynnyrch Prifysgol Morgannwg, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe a Swyddfa Eiddo Deallusol y Deyrnas Unedig yng Nghasnewydd.
Dywedodd Huw, sy’n dioddef o ddystroffi’r cyhyrau: “Roeddwn wrth fy modd yn ennill y gystadleuaeth ac yn hynod falch fod y sling wedi cael ei arddangos yn Amgueddfa’r Glannau. Mae llawer o bobl wedi canmol ymarferoldeb y sling, ond mae’n wych derbyn cydnabyddiaeth.”
Mae’r Promove yn ei gwneud yn haws ac yn fwy diogel i symud unigolion mewn sefyllfaoedd anodd. Medrir ei ddefnyddio i symud a thrin pobl analluog neu anabl, yn cynnwys unigolion trwm hyd at 45 stôn, mewn gofod cyfyng neu yn yr awyr agored lle na fedrir defnyddio hoist. Mae’n addas ar gyfer gwasanaethau argyfwng, darparwyr gwasanaeth meysydd awyr, rheolwyr cyfleusterau cyhoeddus a’r sector iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’r Promove yn cael ei dreialu ar hyn o bryd gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, yn ogystal â chan frigadau eraill yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Medrir dodi Promove yn rhwydd o dan berson analluog sydd ar y ddaear, yn eistedd mewn cadair neu wedi’i gyfyngu mewn cornel dynn. Mae’r sling yn rhoi cefnogaeth dda, gan ffurfio sedd gadarn siâp bwced o dan yr unigolyn. Mae handlenni mewn lleoliad strategol ar y ddyfais yn ei gwneud yn bosibl i’w defnyddio gan ddau neu bedwar o bobl (neu hyd at wyth ar gyfer unigolion trwm iawn).
Ym mis Ebrill aeth Dana Thomas, partner busnes Dr Huw Thomas, hithau hefyd yn dod o Benrhyn-coch, i Genefa ar gyfer Arddangosfa Ryngwladol Dyfeisiadau 2008, lle’r enillodd y ddyfais fedal efydd.
Dr Huw Thomas, Penrhyn-coch won a National Competition with his device ‘Promove sling’ to carry disabled people. Huw suffered from muscular dystrophy and sadly died in 2014. His invention can be seen and obtained from Promove.
Medi Sept
Esgob newydd Tyddewi – cysylltiad â Phenrhyn-coch
Appointed St David’s Bishop with Penrhyn-coch connections
Treuliodd y Tra Pharchedig Wyn Evans ei blentyndod ym Mhenrhyn-coch.
Roedd ei dad y Parchg D. Eifion Evans, yn ficer Penrhyn-coch 1948–57.
Bydd esgobion etholedig Tyddewi a Bangor yn cael eu cysegru mewn gwasanaeth yn Eglwys Gadeiriol Llandaf ddydd Sadwrn 29 Tachwedd 2008.
Cafodd Y Tra Pharchedig Wyn Evans ei ethol yn 128fed Esgob Tyddewi a’r Hybarch Andrew John yn 81fed Esgob Bangor.
Roedd Mr Evans yn Ddeon Tyddewi, esgobaeth sy’n cynnwys Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion
The Rt Revd Wyn Evans spent his childhood in Penrhyn-coch when his father the Revd D. Eifion Evans was vicar of Penrhyn-coch 1948–57.
Medi Sept
Y Tincer yn ymddangos mewn lliw llawn. Y Tincer first published in colour.