4-5 Ebrill, 2025
Testunau llenyddol
Dyma destunau llên yr Eisteddfod; y beirniad yw Garry Owen, yr Hendy.
Dylai cyfansoddiadau gael eu gyrru trwy’r post i’r Ysgrifennydd Ceris
Gruffudd, Rhos Helyg, 23 Maesyrefail, Penrhyn-coch, Aberystwyth,
Ceredigion SY23 3HE neu e-bost i Ceris.Gruffudd@gmail.com cyn 17
Mawrth 2025.
1 Cadair: Cerdd gaeth neu rydd heb fod dros 50 llinell ar y testun
Gorwel. Cadair fach a £50.00 Y gadair a’r wobr ariannol yn rhoddedig
gan y teulu er cof am Tegwyn Lewis, Rhos-goch, Capel Madog
ˇ2 Englyn: Ffwrnais. £10.00 ˇ
3 Geiriau addas ar gyfer cân werin gyfoes. £10.00
4 Cerdd addas ar gyfer plant 12-16 oed £10.00
5 Limrig: ‘Rwy am fynd am drip i’r Eisteddfod’ £10.00
6 Brawddeg: Cantref. £10.00
7 Stori addas i blant cynradd “Fy arwr” £10.00
8 Erthygl addas ar gyfer papur bro. £10.00
9 Adolygiad: Rhaglen deledu. Dim mwy na 500 o eiriau. £10.00
10 Tlws yr ifanc i rai dan 21 oed: Stori fer. Tlws a £20.00 Y gwobrau yn
rhoddedig gan Aaron ac Ashley Stephens
Eisteddfod Gadeiriol Penrhyn-coch 2023 2023

