Eisteddfod Gadeiriol Penrhyn-coch 2025

Braf oedd cael gwahodd bardd buddugol Cadair Eisteddfod Penrhyn-coch i’r ysgol i siarad gyda plant CA2. Diolch o galon Mrs. Lowri Emlyn a llongyfarchiadau mawr! #ysgolpenrhyncoch

Mwy o luniau a deunydd am yr eisteddfod i ddilyn yn fuan


Adroddiad gan Richard Owen

Cynhaliwyd Eisteddfod Gadeiriol Penrhyn-coch nos Wener a dydd Sadwrn diwethaf 4ydd a 5ed o Ebrill. Roedd y cystadlaethau nos Wener yn gyfyngedig i blant ardaloedd Trefeurig, Penrhyn-coch a Phen-
llwyn, ond y cystadlaethau ar y dydd Sadwrn yn ‘agored i’r byd’ fel yr oedden nhw’n arfer
deud ers talwm yn eisteddfodau’r capeli. Neilltuwyd pnawn Sadwrn ar gyfer cystadlaethau i
rai oed uwchradd a nos Sadwrn ar gyfer cystadlaethau oedolion.
Enillydd Tlws yr Ifanc nos Wener oedd Robin Humphreys, Pistyll, Pwllheli, a hynny am stori
fer, ac enillwyd y Gadair nos Sadwrn gan Lowri Emlyn, Penrhyn-coch am gerdd ar y testun
‘Gorwel’.
Y beirniaid nos Wener oedd Lowri Elen, Llambed (cerdd) ac Alaw Mair Jones, Felin-fach
(llefaru), a’r beirniaid ddydd Sadwrn oedd Gareth Wyn Thomas, Rhydaman (cerdd) a Garry
Owen, Yr Hendy (llefaru a llên). Rhaid dweud fod y ddau olaf wedi perfformio ‘double act’
ddoniol iawn nos Sadwrn wrth feirniadu. Fe wnaethon nhw ychwanegu’n helaeth at
ddifyrrwch y noson.
Y Llywydd nos Sadwrn oedd Cemlyn Davies, Caerdydd, un a fagwyd yn y Penrhyn lle mae ei
rieni yn dal i fyw.
Enillwyd cystadleuaeth y côr gan Gôr Penrhyn-coch, gyda Chôr ABC yn ail. Nid yn aml y mae
hynny’n digwydd!

Enillydd y Gadair roddedig gan Deulu y diweddar Tegwyn Lewis – Lowri Emlyn o Benrhyn-coch

Cor Penrhyn-coch oedd yn fuddigol yn yr Eisteddfod

Enillwyr nos Wener 2025
1 Unawd Meithrin Dim cystadlu
2 Llefaru Meithrin Dim cystadlu
3 Unawd (Dosbarth Derbyn) 1 Bella 2 Fflur 3 Myfi
4 Unawd (Blwyddyn 1-2) 1 Leisia 2 Osian 3 Ania
5 Unawd (Blwyddyn 3-4) 1 Siôn 2 Lleucu 3 Joshua
6 Unawd (Blwyddyn 5-6) 1 Ned 2 Iona 3 Poppy
7 Unawd alaw werin (cynradd) 1 Iona 2 Poppy 3 Lleucu
8 Unawd Offeryn Cerdd (cynradd) 1 Iona (Telyn) 2 Kai (Piano) 3 Siôn
(cornet)
9 Unawd Ysgol Uwchradd Dim cystadlu
10 Unawd Offeryn Cerdd (Ysgol Uwchradd) Dim cystadlu
11 Llefaru (Dosbarth Derbyn) 1 Bella 2 Myfi 3 Beau
12 Llefaru (Blwyddyn 1-2) 1 Ania 2 Leisia 3 Theo
13 Llefaru (Blwyddyn 3-4) 1 Math 2 Siôn 3 Lleucu
14 Llefaru (Blwyddyn 5-6) 1 Iona 2 Poppy 3 Anest
15 Llefaru Ysgol Uwchradd. Dim cystadlu
16 Parti Canu 1 Cyfnod Sylfaen 2 CA2
17 Parti Llefaru 1 CA2 2 Cyfnod Sylfaen
18 Sgen ti dalent 1 Iona 2 Anest 3 Ifan, Siôn a Henri
Tlws yr Ifanc (dan 25 oed): Robin Humphreys, Pistyll, Pwllheli

DYDD SADWRN

 Unawd Dosbarth Derbyn ac Iau 1 Lowri Jenkins, Llandre 2 Casi Davies, Dinas Mawddwy   3 Mirain Ellis Capel Bangor

 Llefaru Dosbarth Derbyn ac Iau 1 Casi Davies, Dinas Mawddwy  2 Lowri Jenkins, Llandre 

 Unawd Blwyddyn 1 a 2 Leisia Davies, Cefn-llwyd 2 Greta Mitchell, Capel Dewi 

Llefaru Blwyddyn  1 a 2 Greta Mitchell, Capel Dewi 2 Leisia Davies, Cefn-llwyd..

Unawd Blwyddyn 3 a 4 1 Gwenllian Cameron Jenkins, Pontrhydfendigaid 2  Leisa Jenkins, Llandre 3 Sion Gibson,  Penrhyn-coch. a Joshua Jones, Aberystwyth 

Llefaru Blwyddyn 3 a 4. 1 Leisa Jenkins, Llandre 2 Sion Gibson,  Penrhyn-coch. 3 Joshua Jones, Aberystwyth. 

Unawd Blwyddyn 5 a 6  1 Nanw Grifiths-Jones, Cwrtnewydd 2 Cadi Aur, Pen-uwch  3 Elinor Jenkins, Llandre   

 Llefaru Blwyddyn 5 a 6 1 Nanw Grifiths-Jones, Cwrtnewydd 2 Now Schiavone, Aberystwyth. 3 Elinor Jenkins, Llandre a 2 Cadi Aur, Pen-uwch  

 Unawd Ysgol Uwchradd 1  Ioan Mabbutt, Aberystwyth. 2. Mirain Evans, Llandre 3. Manon Gwawr, Tregaron  Gwen Gibson, Penrhyn-coch. . 

 Llefaru Ysgol Uwchradd 1 Moi Schiavone, Aberystwyth.   

Unawd Cerdd dant (Cynradd) Nanw Griffiths Jones, Cwrtnewydd. 2  Cadi Aur, Pen-uwch  3 Sion Gibson, Penrhyn-coch 4 Leisia Davies, Cefn-llwyd.

  Unawd Cerdd dant (Uwchradd) 1 Mirain Evans, Llandre 

 Unawd Alaw Werin (cynradd) (digyfeiliant) 1. Nanw Griffiths Jones, Cwrtnewydd 2 Cadi Aur, Pen-uwch 

Unawd Offeryn Cerdd (cynradd)  1. Now Schiavone, Aberystwyth 2 Elinor Jenkins, Llandre  3 Leisa Jenkins, Llandre  3 Sion Gibson, Penrhyn-coch  

Unawd Offeryn Cerdd (uwchradd)  1.Elinor Nicholas, Aberystwyth 

Unawd 18-30   Neb yn cystadlu

Llefaru 18-30    Neb yn cystadlu

 Unawd Sioe Gerdd dan 30 oed  Neb yn cystadlu

Canu Emyn dros 60 oed 1 Aled Jones, Comins-coch, Machynlleth  2 Huw Roberts, Caerdydd

Darllen o’r ysgrythur 1 Lowri Emlyn, Penrhyn-coch  2 Huw Roberts, Caerdydd ;Ann Mason Davies, Goginan; Maria Evans, Caerfyrddin

Deuawd emyn 1 Marianne Jones Powell Llandre a Glenys Jenkins, Tal-y-bont 2 Mirain ac Enid Evans, Llandre.

Alaw Werin (Agored)  Cydradd 1 Angharad Fychan, Penrhyn-coch 2 Aled Jones, Comins-coch, Machynlleth 

 Ensemble Lleisiol 1. Dim cystadlu

 Llefaru i ddysgwyr  –   Neb yn cystadlu

Parti canu 1 Parti Cwlwm, Aberystwyth

Parti Llefaru (Agored)    Dim cystadlu  

 Côr:    1 Côr Penrhyn-coch 2 Côr ABC

Sgen Ti Dalent? 1 Derek Adams, Penrhyn-coch 2 Moi Schiavone, 2 Elinor a Sofia Nicholas, Aberystwyth 

 Her Adroddiad (Agored) – 1 Rhun Emlyn, Penrhyn-coch. 2  Angharad Fychan, Penrhyn-coch. 3 Lowri Steffan, Llanilar, 4 Maria Evans, Caerfyrddin    

 Her Unawd – Hunan Ddewisiad. 1 Efan Williams, Lledrod 2. Barry Powell, Llanfihangel-y-creuddyn   

Unawd Gymraeg  1 Efan Williams, Lledrod   2 Barry Powell, Llanfihangel-y-creuddyn  3 Aled Jones, Comins-coch, Machynlleth.

CARTREF

Cadair:  Lowri Emlyn, Penrhyn-coch

Englyn:  Siw Harston, Staines, Middlesex

Cân werin:  Dyfan Phillips, Rhuthun  

Cerdd i blentyn:  Judith Morris, Penrhyn-coch

Limrig:  Bethan Evans, Glynarthen

Brawddeg:  Lynwen Evans, Llandre

Stori i blant:  Anwen Pierce, Bow Street

Erthygl:  John Meurig Edwards, Aberhonddu

Adolygiad:  Lynwen Evans, Llandre 

Tlws yr ifanc:  Robin Humphreys, Pistyll, Pwllheli

Rhaglen 2025

Eisteddfod Gadeiriol 2023


Y Cadeirio a Thlws yr Ifanc

Hanes yr Eisteddfod, 1964-88


2008

Rhaglen Eisteddfod

2009

Rhaglen Eisteddfod

2010

Rhaglen Eisteddfod

2011

Beirniadaeth y Gadair, Telyneg a’r Soned
Beirniadaeth Tlws yr Ifanc

2012

Rhaglen Eisteddfod
CANLYNIADAU

2013

Beirniadaeth Tlws yr Ifanc
CANLYNIADAU

2014

Rhaglen Eisteddfod
CANLYNIADAU I GYD
Beirniadaeth y Gadair a’r cynnyrch llenyddol
Tlws yr Ifanc

2015

Rhaglen Eisteddfod
CANLYNIADAU NOS WENER a DYDD SADWRN
Beirniadaeth Tlws yr Ifanc

2016

Rhaglen Eisteddfod
CANLYNIADAU NOS WENER
CANLYNIADAI DYDD SADWRN
Beirniadaeth y Gadair
Beirniadaeth Tlws yr Ifanc
Beirniadaeth y Soned
Beirniadaeth y Delyneg

2017

Rhaglen Eisteddfod
CANLYNIADAU NOS WENER
CANLYNIADAU DYDD SADWRN
Beirniadaeth Y Gadair
Beirniadaeth Tlws yr Ifanc
Beirniadaeth yr Englyn
Beirniadaeth y Delyneg
Beirniadaeth y Soned
Beirniadaeth y Stori Fer
Beirniadaeth yr Adolygiad
Beirniadaeth yr Erthygl

2018

Rhaglen Eisteddfod
CANLYNIADAU NOS WENER
CANLYNIADAU DYDD SADWRN
Beirniadaeth Y Gadair
Beirniadaeth Tlws yr Ifanc
Beirniadaeth y Delyneg
Beirniadaeth Soned
Beirniadaeth Limrig
Beirniadaeth yr Englyn Ysgafn
Beriniadaeth y Stori
Beirniadaeth – Erthygl

Rhai o’r Cystadleuwyr:

Rhai o’r Arweinwyr, Beirniaid, Cyfeilydd a Llywyddion:

2019

Rhaglen Eisteddfod
CANLYNIADAU NOS WENER
CANLYNIADAU DYDD SADWRN

Rhai o’r Arweinwyr, Beirniaid a’r Llywyddion

2020, 2021, 2022

Canslwyd yr Eisteddfod oherwydd y pandemig Cofid-19