Capel Siloa, Cwmerfyn

This image has an empty alt attribute; its file name is capelsiloacwmerfyn.jpg
Capel Siloa, Cwmerfyn

Mae gan Siloa 21 o aelodau. Cynhelir gwasanaeth am 2 o’r gloch unwaith y mis rhwng dechrau Mawrth a diwedd Hydref.

Y swyddogion presennol yw Dafydd Elwyn Jones (ysgrifennydd), Dilys Jones (trysorydd) a Margaret Mason Pollack (organyddes). Am ragor o fanylion, cysyllter â’r ysgrifennydd (01970 615267).

Cefndir:

Daeth Siloa i fod fel cangen o Eglwys Annibynnol Salem Coedgruffydd yn 1866, a Salem yn ei thro yn un o’r achosion hynny a sefydlwyd gan Azariah Shadrach yng ngogledd Ceredigion. Un y dylanwadwyd yn drwm arno gan bregethu Shadrach oedd crydd o Gwmsymlog yn dwyn yr enw hynod Sylvanus Sylvanus, a chanlyniad i’w weithgarwch ef oedd codi Siloa (neu Gapel Ucha ar lafar, i’w wahaniaethu oddi wrth Bethlehem, capel yr Hen Gorff – y Capel Isa, ar waelod y pentref, sydd bellach wedi cau). Y bwriad cyntaf oedd codi’r capel yng Nghwmsymlog, yn agos i gartref Sylvanus, ond cododd rhai anawsterau yno, a llwyddwyd i sicrhau llecyn ar dir Lletysbens yng Nghwmerfyn.
Yno, ychydig dros gant a hanner o flynyddoedd yn ôl, y gosodwyd y garreg sylfaen. Bu teulu Lletysbens – teulu cerddorol dros ben – yn gefn mawr i’r achos o’r dechrau cyntaf, a chofir yn arbennig am hir-wasanaeth y diweddar John James a fu’n ysgrifennydd yr achos o 1891 hyd 1958, ac am ei frawd, Lewis James, a’i dilynodd yn y swydd honno, a’i swydd fel codwr canu. Gweinidog Salem Coedgruffydd yn 1866 oedd y Parchg W. Jansen Davies (1844–1901), ac felly ef hefyd oedd gweinidog cyntaf Siloa. Brodor o Langyndeyrn, sir Gaerfyrddin, ydoedd, ond symudodd ei deulu i Aberdâr pan oedd yn ieuanc, ac oddi yno y daeth i’r ardal hon. Codwyd ef yn Siloa, Eglwys yr Annibynwyr yno, ac ar ôl yr eglwys honno yn Aberdâr y cafodd yr achos yng Nghwmerfyn ei enwi.
Ar ôl ymadawiad Jansen Davies yn weddol fuan ar ôl sefydlu’r achos, gwasanaethwyd Siloa (a Salem Coedgruffydd) gan saith o weinidogion yn eu tro:
William B. Marks (1870–75)
David Johns (1875–80)
J. Henner Thomas (1882–3)
David Cynfrig Davies (1893–1904)
D. Gwynne Lewis (1905–10)
Llewelyn Morgan (1911–27)
Elias Jackson (1931–36)
ond ar ôl ymadawiad y Parchg T. J. Roberts yn 1946, bu Siloa heb weinidogaeth sefydlog.

Codwyd pedwar aelod i’r weinidogaeth o Siloa, sef y Parchedigion David Merfyn Lewis, a fu’n weinidog yn Pennsylvania ac Alabama, Isaac Inan Jones, Treorci a Phenisa’r-waun, Arfon, Edward Eurfin Morgan, Bynea ger Llanelli, Abergwaun a’r Tymbl, a James Penry Edwards, Abergorlech, Llansadwrn (sir Gaerfyrddin) a Phentre-tŷ-gwyn.

Beddargraffiadau, E. & A. James

Background:

Siloa was established in 1866 as a branch of the Congregational Church of Salem Coedgruffydd – one of the churches founded in north Ceredigion by Azariah Shadrach. A shoemaker named Sylvanus Sylvanus from Cwmsymlog was strongly influenced by the preaching of Azariah Shadrach, and as a result the chapel of Siloa was built. It was known locally as Capel Ucha (the Higher Chapel) to differentiate between it and Bethlehem, the Presbyterian chapel – Capel Isa (the Lower Chapel) at the bottom of the village, which has since closed. Some difficulties arose regarding the original location near Sylvanus’s home in Cwmsymlog, and eventually, over 150 years ago, the foundation stone of the chapel was laid on the land of Lletysbens in Cwmerfyn.
The extremely musical family of Lletysbens were pillars of the cause from the very beginning – particularly the late John James, who was secretary of the chapel from 1891 until 1958, and his brother, Lewis James, who succeeded him as secretary and precentor. The minister of Salem Coedgruffydd in 1866 was the Revd W. Jansen Davies (1844–1901), and he was also the first minister of Siloa. He was born in Llangyndeyrn, Carmarthenshire, but his family moved to Aberdare when he was a child. He attended Siloa Congregational Church in Aberdare, after which the chapel at Cwmerfyn was named. Jansen Davies was succeeded as minister of Siloa (and Salem Coedgruffydd) by seven ministers in all:
William B. Marks (1870–75)
David Johns (1875–80)
J. Henner Thomas (1882–3)
David Cynfrig Davies (1893–1904)
D. Gwynne Lewis (1905–10)
Llewelyn Morgan (1911–27)
Elias Jackson (1931–36)
There has been no minister at Siloa since 1946, when the ministry of the Revd T. J. Roberts came to an end.

Seven ministers were raised to the ministry from Siloa, namely the Reverends David Merfyn Lewis, who served as a minister in Pennsylvania and Alabama, Isaac Inan Jones, Treorci and Penisa’r-waun, Caernarfonshire, Edward Eurfin Morgan, Bynea near Llanelli, Fishguard and Tumble, and James Penry Edwards, Abergorlech, Llansadwrn (Carmarthenshire) and Pentre-tŷ-gwyn.

Monumental Inscriptions, E. & A. James