
Un o gapeli Eglwys Bresbyteraidd Cymru yw Capel Madog ac mae iddo 26 o aelodau ar hyn o bryd. Cynhelir gwasanaeth yng Nghapel Madog bob dydd Sul am 2 o’r gloch. Y gweinidog presennol yw’r Parchg Watcyn James, sydd yn bugeilio ar ofalaeth y Garn.
Cefndir:
Adeiladwyd y Capel ychydig dros 150 o flynyddoedd yn ôl ac mae’n dal hyd at 150 o bobl. Gerllaw’r capel mae mynwent a rennid gyda Chapel Presbyteraidd Capel Dewi cyn i hwnnw gael ei ddatgorffori yn Hydref 1991.
Yn y gorffennol bu’r eglwys dan ofalaeth Dewi a Madog, yna Dyffryn a Madog, Pen-llwyn a Madog, Soar Llanbadarn a Madog ac yna Cwmerfyn a Madog.
Mae’r gofalwr yn byw yn y Tŷ Capel.
Madog Chapel is one of the Presbyterian churches of Wales. At present the chapel has 26 members. The chapel forms part of the pastorate of Garn Chapel Bow Street, and the present minister is the Revd Watcyn James. A service is held every Sunday at 2 p.m.
Background:
Madog Presbyterian Chapel was built over 150 years ago and holds up to 150 people. Next to the chapel is a graveyard, which was shared with Capel Dewi Presbyterian Chapel until it was disincorporated in October 1991.
The caretaker lives in the house adjoining the chapel.