1897

Diolch i Erwyd Howells am gael benthyg y ddogfen uchod.




Dogfen heb ddyddiad – a phwy oedd David Lewis? Dyma adroddiad o Eisteddfod Salem, 1897 allan o’r Herald Gymraeg 1 Mehefin 1897:
Eisteddfod Salem, Ceredigion 1897
Cynnaliwyd yr eisteddfod uchod ddydd Mercher diweddaf, Mai 26ain.
Y llywydd ydoedd Dr James, y Fagwyr, ac arweiniwyd gan y Parch D. C. Davies, Salem. Gan fod y tywydd mor ffafriol, cymerodd ugeiniau fantais ar yr achlysur i gael rhan o’r gweithrediadau. Ni chaniata gofod i fanylu ar y rhaglen, ond nodwn rai o’r prif gystadleuwyr. Mewn cerddoriaeth enillodd parti o Gwmerfin ar y pedwarawd, Gwrando a chredu (Tlws Cerddorol), a rhanwyd y wobr am ganu Minyrafon rhwng Corau Salem a Penrhyncoch.
Ar yr unawd soprano, enillwyd gan Miss Evans, Winllan, ac yr unawd bass, O, fy hen Gymraeg, gan Mr Morgan, Bow-street.
Am draethawd ar Elias, enillwyd gan Mr John James, Cwmerfin, a chan frawd o’r ardal ar y cyfieithiad o’r emyn, That day of wrath.
Aeth y wobr am yr englyn, Y Fynwent, i frawd o’r America, ac enillwyd ar y bryddest goffa, Y diweddar Dafydd Lewis, Salem (am yr hon y cynnygid gwobr hardd), gan y Parch W. Parri Huws, Dolgellau.
Mewn amrywiaeth, gwobrwywyd Miss Samuel, Penrhyncoch; Mr Edward Jenkins, Pontgoch, a llawer ereill.
Beirniad y gerddoriaeth ydoedd Mr D. Emlyn Evans, a’r farddoniaeth a’r holl amrywiaeth y Parch E. Wnion Evans, Derwenlas. Celfyddyd, Mr D. W. Mason, Salem.
Trodd yr eisteddfod allan yn llwyddiannus iawn yn mhob ystyr, a gwnaeth pawb eu gwaith er foddlonrwydd cyffredinol, pa rai a dderbyniasant ddiolchgarwch gwresog ar y diwedd.
Ychwanegiad mawr at ddyddordeb y cyfarfod ydoedd i bawb ar y diwedd ganu Minyrafon o dan arweiniad Emlyn.
Pwy oedd David Lewis?
Arysgrifau Cerrig Beddau, gwaith Evan ac Aeronwy James
82 (Carreg wen wedi duo, llythrennau plwm; discoloured white stone, lead letters)
Er serchus gof am David LEWIS, Salem, bu farw Hydref 5, 1893 yn 73 ml. oed.
Hefyd Sarah, ei anwyl briod, bu farw Tach. 8, 1863 yn 38 ml. oed.
Eto pump o’u plant.
Hefyd Ellen, ei anwyl briod, bu farw Rhag. 3, 1903 yn 80 ml. oed.
Dyn ffyddlon dan sel uniondeb –
a gwr Ragorai mewn purdeb;
Hael ‘i wenau – gwrol wyneb,
Ei droi’n ol ni fedrai neb. [Gwynne LEWIS]
Rhoddwyd y golofn hon gan gyfeillion D. LEWIS, o barch iddo, am ei weithgarwch crefyddol yn Salem.
1932 Salem WI

Rhes flaen / Front row: Mrs Mary Barrzili Jones, Brogynin; Mrs Sarah Ann Morgan; Mrs Maggie Lewis, siop; Mrs Elen James; Mrs Gwladys Hughes; Eiddwen Davies; Mrs Jane Sarah Roberts.
1932

Rhes ganol / Middle row: Geraint Morgan, Penrhiw; Mary Thomas, Penrhiw; Trefor Jones, Tynpynfarch Fach; Gareth Davies, Llwyngronw; Maud Thomas, Garth; Menna Williams, Horeb; Beryl Lewis, siop Salem; Mair Davies, Llwyngronw; Rena Evans, Plas y Coed; Mollie Jenkins, Sunnyside; Winnie Garnett, Brynmadog; Megan Davies, Salem; Katie Thomas, Penriw; Bryn Morgan, Brynhyfryd; Meurig Thomas, Penrhiw; Parchg E. Jackson
Rhes flaen / Front row: Hannah Evans, Bronheulog; Gwyneira Evans, yr Efail; Eirlys Davies, Llwyngronw; Marie Jones, Tynpynfarch Fach; Mary Edwards, Clawddmelyn; Buddug Morgan, Penrhiw; Joyce Jones, Bronheulwen; Willie Evans, yr Efail; Irwel Evans, yr Efail; Alwyn Davies, Llwyngronw; John Dilwyn Evans, yr Efail; Eric Jones, Bronheulwen ( Y Tincer Meh. 1994) (ED) (BD)



Memories of Salem, W. Elfed Davies
Bro fy Mebyd, W. Elfed Davies